Mae Age Cymru Gwynedd a Mon yn defnyddio cwcis i sicrhau ein bod yn rhoi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r wefan hon, rydych chi'n cytuno i'n polisi. Rwy'n darllen mwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a sut y gallwch eu rheoli. Darllenwch ein polisi cwci
Scipiwch i'r cynnwys

Arddangosfa Celf Gwanwyn

Cyhoeddwyd ar 07 Mehefin 2018 02:22 yh

Bu’r cartref llawn bwrlwm noswaith y 23ain o Fawrth. Roedd yn noson arbennig iawn i’r clwb Gwanwyn, fu’n dathlu creadigrwydd mewn bywyd.

Dechreuodd y clwb yma yn ôl ym mis Awst 2017, ychydig wedi i ni symud i’r Cartref. Gwahoddwyd artistiaid lleol i roi enghraifft o’u gwaith a chyfle i bobl arbrofi gyda gwahanol gelf a chreu crefftau, cyn penderfynu ar y gwaith arbrofol i hybu sgiliau yn y misoedd  dros y Gaeaf.

Yr artistiaid ac aeth ymlaen gyda’r grŵp oedd Marian Sandham, artist profiadol o Rostryfan oedd yn dysgu’r mynychwyr  i ddatblygu ei hunain ac i roi hyder  iddynt greu darnau proffesiynol iawn. Lora Morgan sydd yn arbenigo mewn gwaith llaw oedd yn canolbwyntio ar wneud gwaith ffeltio a dilynwyd y mynychwyr i greu darnau creadigol fel tim a darnau unigol gan greu gwaith arbennig iawn.

Ymunodd Dylan Parry a’r grŵp yn hwyrach i ychwanegu dipyn o waith metel a phrofwyd yn boblogaidd iawn.  Pwy fyddai’n meddwl y gallwch greu rhosyn hardd allan o ganiau diod?

Erbyn hyn mae’r grŵp o artistiaid (fel y galwyd y mynychwyr) yn dipyn o ffrindiau ac wedi darganfod talentau cudd a chyfeillgarwch.

Roedd arddangosfa o’r gwaith dros y misoedd yn ganolbwynt  iddynt i gyd ac oedd yn dda gweld nifer oedd wedi dod i weld y gwaith yn Y Cartref y noson honno. Roedd yr haul yn tywynnu a phawb wedi mwynhau noson Caws a Gwin.

Hoffwn ddiolch i Catrin Keller am yr adloniant  ar y noson, wrth chwarae ei thelyn brydferth a chreu awyrgylch bendigedig i’r noson.

Diolchaf hefyd i Tesco a Morrisons am  y cyfraniad hael tuag at y gwin ar y noson.

Mae’n dda dweud hefyd, gan fod y prosiect wedi bod mor llwyddiannus, mae ‘r artisitiad wedi penderfynnu parhau gyda’r gwaith yma yn wythnosol.  Mae croeso i bawb ddod i weld y gwaith sydd i fyny yn y Cartref o hyd, ac os oes rhywun am ymuno a nhw mae croeso i artisistiaid newydd yma hefyd.

Darganfyddwch eich talentau cudd – tydi byth rhy hwyr i ddechrau