Mae Age Cymru Gwynedd a Mon yn defnyddio cwcis i sicrhau ein bod yn rhoi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r wefan hon, rydych chi'n cytuno i'n polisi. Rwy'n darllen mwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a sut y gallwch eu rheoli. Darllenwch ein polisi cwci
Scipiwch i'r cynnwys

Cofiwch ddod draw i’n gweld yma yn Y Cartref, Bontnewydd.

Cyhoeddwyd ar 29 Ebrill 2019 03:15 yh

Digon yn mynd ymlaen a bwyd cartref wedi ei goginio’n ffres.

Beth am ddod draw i’r noson ffasiwn ar Fehefin 6ed 7:00yh tan 9:00yh neu arddangosfa o’n gwaith celf  safonol ar Mai 21ain 4:00yh tan 6:00yh.

Mae’r gwaith celf i gyd wedi ei wneud gan bobl leol  i ddathlu creadigaeth ym mhobl hŷn, maent yn gweithio ar brosiectau sydd yn ymwneud â Under Milk Wood – Dylan Thomas a symudiad y syffrajets wrth gynnwys  llyfr Angharad Thomas Henriet y Syffrajet. Prynwch  eich tocyn am £5 o’r Cartref yn cynnwys bwffe.

So Chic o Fangor fydd yn cynnal y Sioe Ffasiwn ac yn cynnwys  cael eich pampro gan Sioned o’r Body Shop. Prynwch eich tocyn o’r Cartref,  £10 yn cynnwys gwydraid o win a chaws.

Pam ddim dod draw i gael eich diddori yn ein sesiynau sgyrsiau difyr - Len Porter, Gari Wynn, Iolo Thomas a Marcus Robinson yw rhai o’r enwau rydym wedi bod yn lwcus o gael gyda ni. Dydd Llun cyntaf o bob mis 11:00yb-12:00yb am gost o £3, cynnwys paned a chacen.

Cofiwch am ein diwrnod cupcêc ar Fehefin 13eg, 10:00yb-12:00yp. Diwrnod codi arian at Ddementia a Age Cymru Gwynedd a Môn. Mi fydd hi hefyd yn ddathliad o ofalwyr i gyd fynd ac wythnos gofalwyr, gyda stondin gwybodaeth gan Ofalwyr Cymru.

Am fwy o fanylion cysylltwch â Nicolas ar 01286 808732.