Mae Age Cymru Gwynedd a Mon yn defnyddio cwcis i sicrhau ein bod yn rhoi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r wefan hon, rydych chi'n cytuno i'n polisi. Rwy'n darllen mwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a sut y gallwch eu rheoli. Darllenwch ein polisi cwci
Scipiwch i'r cynnwys

Ffair Haf / Carnifal Bangor 2018

Cyhoeddwyd ar 29 Mai 2018 10:02 yb

Fel ran o’m ymdrechion i ddarparu gwasanaethau sydd yn hyrwyddo cymunedau cyfeillgar i oed, rydym yma yn Age Cymru Gwynedd a Môn yn cynnal Ffair Haf eleni yn ein Caffi a Chanolfan Galw i Mewn Hafan ym Mangor ar Ddydd Sadwrn 16 Mehefin 2018 i gyd-fynd gyda diwrnod Carnifal Bangor.

Bwriad y diwrnod yw rhoi cyfleon cymdeithasu i’r boblogaeth 50 oed a throsodd yn lleol, ac hefyd darparu cyngor a gwybodaeth ar yr amryw o wasanaethau sydd ganddom i gynorthwyo pobl i heneiddio’n dda.   (Rydym yn elusen gofrestredig ac y darparwr annibynol mwyaf o wasnaethau i fobl 50 oed a throsodd yng Ngwynedd ac Ynys Môn.)

Bydd Raffl a  Tombola yn cael eu cynnal fel rhan o’r Ffair Haf yma.

Dewch draw i’n gweld yn Caffi Hafan ger y prif arosfan bws ym Mangor!