Mae Age Cymru Gwynedd a Mon yn defnyddio cwcis i sicrhau ein bod yn rhoi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r wefan hon, rydych chi'n cytuno i'n polisi. Rwy'n darllen mwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a sut y gallwch eu rheoli. Darllenwch ein polisi cwci
Scipiwch i'r cynnwys

Gofal a bywyd ar yr un pryd

Cyhoeddwyd ar 16 Gorffennaf 2018 03:11 yh

Gofal a bywyd ar yr un pryd: Arolwg ar gyfer gofalwyr 16 oed a throsodd

Image1



Yr arolwg Cymraeg yw hwn. Er mwyn llenwi’r arolwg yn Saesneg ewch i https://survey.sogosurvey.com/r/PJ8fH2

Mae’n bwysig fod gofalwyr yn cael yr egwylion a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt fel eu bod yn parhau’n ffit ac iach i wneud mwy o’r pethau sy’n bwysig iddynt.

Gofynnodd Llywodraeth Cymru i Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru holi gofalwyr pa fathau o egwylion byr, gofal seibiant neu ofal amgen sy’n gwneud y gwahaniaeth mwyaf. Bydd yr arolwg hwn yn ein helpu i ddeall beth sy’n gweithio orau ichi. Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon i roi gwybodaeth i Lywodraeth Cymru ac i’w helpu i edrych ar y ffordd orau o ddarparu gwasanaethau seibiant ledled Cymru. Pan ofynnir cwestiwn ichi yn yr arolwg hwn am “seibiant” gall hyn gynnwys:

Mynd i weithgareddau cymdeithasol gyda neu heb y person rydych yn gofalu amdanynt (gan gynnwys caffis dementia, grwpiau cefnogi gofalwyr, clybiau llyfrau, corau, grwpiau celf a chrefft ac ati)
Seibiant yn ystod y dydd (pan mae’r person(au) rydych yn gofalu amdanynt yn cael gofal yn eu cartref eu hunain neu mewn lleoliad arall)
Seibiant dros nos (pan mae’r person(au) rydych yn gofalu amdanynt yn cael gofal yn eu cartref eu hunain neu mewn lleoliad arall)
Egwylion penwythnos gyda neu heb y person rydych yn gofalu amdanynt
Gwyliau gyda neu heb y person rydych yn gofalu amdanynt
Os nad ydych eisiau ateb cwestiwn, gadewch ef yn wag ac ewch ymlaen i’r cwestiwn nesaf. Fodd bynnag, bydd yn ein helpu ni os gallwch ateb cymaint o gwestiynau â phosib.

Cynlluniwyd yr arolwg hwn ar gyfer gofalwyr sy’n oedolion neu’n oedolion ifanc 16 oed a throsodd.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am yr arolwg hwn mae croeso ichi gysylltu â Karen Wontner trwy ebost, trwy ffonio 029 2009 0087 neu trwy ysgrifennu at Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, 3ydd Llawr, 33-35 Heol yr Eglwys Gadeiriol, Caerdydd CF11 9HB.