Mae Age Cymru Gwynedd a Mon yn defnyddio cwcis i sicrhau ein bod yn rhoi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r wefan hon, rydych chi'n cytuno i'n polisi. Rwy'n darllen mwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a sut y gallwch eu rheoli. Darllenwch ein polisi cwci
Scipiwch i'r cynnwys

Gwybodaeth Covid-19 (Coronavirus)

Cyhoeddwyd ar 17 Mawrth 2020 11:59 yb

DIWEDDARIAD GAN ACGM AR EIN GWASANAETHAU

Gwybodaeth Covid-19 (Coronavirus)
Cyffredinol

Mae nifer o achosion o’r firws Covid-19 (Coronavirus) wedi eu cadarnhau yn y Deyrnas Unedig, ac mae mwy o achosion yn debygol.
I weld y cyngor diweddaraf, ewch i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru https://icc.gig.cymru/

Gweler isod y sefyllfa ddiweddaraf am wasanaethau Age Cymru Gwynedd a Môn ac hefyd y Canolfannau Heneiddio’n Dda lleol. Byddwn yn diweddaru’r wybodaeth yma yn rheolaidd.

Sefyllfa gyfredol ar Wasanaethau Age Cymru Gwynedd a Môn

Gwasanaeth Cyngor a Gwybodaeth / Eiriolaeth
Gofyn i bawb gysylltu â ni ar y ffon neu ebost 1af yn hytrach na troi fyny yma mewn person.

Hwb Heneiddio'n Dda -Y Cartref Bontnewydd
Bydd Y Cartref Bontnewydd ar gau i'r cyhoedd o 4.30pm Dydd Gwener 20 Mawrth 2020 hyd nes fod cadarnhad i'r gwrthwyneb. (Holl weithgareddau cymdeithasol bellach ar stop yma.)

Bydd staff yr elusen dal yn parhau i weithio o'r adeilad ac bydd modd cysylltu gyda staff drwy ffonio neu ebostio yn unig. (Os nad oes ganddoch fanylion rhifau ffôn neu ebyst uniongyrchol yr aelod(au) staff rydych angen cyswllt a hwy, yna ffoniwch neu ebostiwch 01286 677 711 info@acgm.co.uk) Peidiwch a troi fyny mewn person i Cartref Bontnewydd.

Gwasanaeth Pryd Adre Caffi'r Cartref Bontnewydd
Gyda ansicrwydd cynyddol o’r sefyllfa ohoni ac yn anochel fydd angen fwy ohonym hunan ynysu am y cyfnod nesaf, mi fydd Age Cymru Gwynedd a Môn yn darparu gwasanaeth prydau poeth a hefyd prydau wedi eu rhewi (wedi eu paratoi o Caffi’r Cartref) i drigolion lleol sydd yn hunan ynysu. Byddwn yn gallu cludo y prydau yma i gymunedau lleol. Cysylltwch â ni ar 01286 677 711 neu info@acgm.co.uk am rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth yma.

Swyddfa Llangefni (uwchben y siop ar y Stryd Fawr)

Mae ein Swyddfa yn Llangefni (uwchben ein siop ar y Stryd Fawr) bellach ar gau i’r cyhoedd fel ymateb i'r sefyllfa coroavirus. Gofynnir i chi beidio troi fyny mewn person i’r swyddfa yn Llangefni. Gellir parhau i gysylltu gyda ni drwy ffonio neu ebostio.

 Gofal Cartref / Gwasanaeth Siopio
Darpariaeth gofal yn y gymuned yn parhau, prydau bwyd ar gael ac/neu gwasanaeth siopio ar lein ar gael.

Mae cyfarwyddwyd clir wedi mynd i’n holl Staff Gofal yn eu hatgoffa eu bod yn cymryd yr holl gamau priodol yn unol â chyfarwyddiadau Public Health Wales o ran golchi dwylo cyn ac ar ol ymweld a chartref defnyddiwr gwasanaeth ac hefyd eu bo yn cadw’n glir o fannau cyhoeddus ac hunan ynysu (self isolate) os yn dangos unrhyw symptomau o’r COVID19.

Cynllun Siopa Brynsiencyn – wedi ei ohurio am y tro.

Caffi Cwrt Caernarfon
Parhau ar agor yn unol a’r cyfarwyddyd fydd yn dod gan Llysoedd ein Mawrhydi.

Caffi Hafan Bangor
Y Caffi wedi cau ac ddim yn weithredol am y tro.

Mens Shed Caernarfon
O 3pm Dydd Iau 19 Mawrth 2020, bydd y Mens Shed ar gau am y tro ac ddim yn weithredol/ar agor.

Siopau Caernarfon, Llangefni, Porthmadog a Blaenau Ffestiniog ac Uned Didoli Rhoddion Stad Ddiwydiannol Cibyn Caernarfon
Gallwn gadarnhau byddwn yn cau ein holl siopau elusen diwedd prynhawn heddiw (Gwener 20 Mawrth 2020) am gyfnod yn sgil coronavirus 19.
Mae ein Uned ar Stad Cibyn Caernarfon (lleoliad ein Mens Shed a man didoli rhoddion) hefyd bellach ar gau.

Canolfannau Heneiddio’n Dda

Age Well Blaenau Ffestiniog
Wedi penderfynu peidio cwrdd eto am y tro.

Age Well Bala
Wedi penderfynu peidio cwrdd eto am y tro.

Age Well Dolgellau
Parhau i gynnal gweithgareddau am y tro.

Age Well Llanrug (Hafan Elan)
Holl weithgareddau wedi canslo am y tro.

Age Well Nefyn
Holl weithgareddau wedi canslo am y tro.

Age Well Maesincla Caernarfon
Dosbarthiadau Cadw’n heini (Boreau Mercher) wedi eu gohurio am y tro.

Age Well/Clwb Cinio Penygroes
Y gwasanaeth clwb cinio ddwy waith yr wythnos (Mercher a Gwener) wedi ei ohurio am y tro.

Gwasanaeth Pryd Adre
Gyda ansicrwydd cynyddol o’r sefyllfa ohoni ac yn anochel fydd angen fwy ohonym hunan ynysu am y cyfnod nesaf, mi fydd Age Cymru Gwynedd a Môn yn darparu gwasanaeth prydau poeth a hefyd prydau wedi eu rhewi (wedi eu paratoi o Caffi’r Cartref) i drigolion lleol sydd yn hunan ynysu. Byddwn yn gallu cludo y prydau yma i gymunedau lleol. Cysylltwch â ni ar 01286 677 711 neu info@acgm.co.uk am rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth yma.

Check in and chat

Age Cymru is offering a check-in-and-chat telephone service for the over 70s in Wales who live alone from 23 March 2020.