Mae Age Cymru Gwynedd a Mon yn defnyddio cwcis i sicrhau ein bod yn rhoi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r wefan hon, rydych chi'n cytuno i'n polisi. Rwy'n darllen mwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a sut y gallwch eu rheoli. Darllenwch ein polisi cwci
Scipiwch i'r cynnwys

Heneiddio'n Dda Bontnewydd

Cyhoeddwyd ar 31 Mai 2018 10:37 yb

Os rydych yn chwilio am hwyl a chwmni does unman well na ein Cartref ni gyda amrywiaeth o weithgareddau yn cymryd lle  yn ystod yr wythnos.

Oes ochr creadigol i chi a hoffech chi ddatblygu? Rydym yn cynnig gwersi arlunio, gweu neu greu cardiau. Dim pwysau arnoch, cewch ymlacio a gwneud ffrindiau newydd.

Yn y Ganolfan mae gennym sgrin fawr le allwn dangos amrywiaeth o ffilmiau. Beth am gael pnawn allan gyda’ch ffrindiau yn cael pryd o fwyd a ffilm ar ei hol?

Neu os rydych yn teimlo’n egnïol mae gennym wersi cadw heini yma sydd yn addas i unrhyw berson o wahanol allu.

Rydym o hyd yn chwilio am brosiectau neu weithgareddau gwahanol yma  os oes awgrymiadau a chi. Ar hyn o bryd rydym yn meddwl cychwyn clwb cerdded, cysylltwch â ni os oes diddordeb.