Mae Age Cymru Gwynedd a Mon yn defnyddio cwcis i sicrhau ein bod yn rhoi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r wefan hon, rydych chi'n cytuno i'n polisi. Rwy'n darllen mwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a sut y gallwch eu rheoli. Darllenwch ein polisi cwci
Scipiwch i'r cynnwys

Men's Shed

Cyhoeddwyd ar 12 Gorffennaf 2018 03:26 yh

Dros y misoedd diwethaf bu’r Men’s Shed yn andros o brysur yn gweithio ar wahanol brosiectau yn y gymuned.

Adeiladu tŷ bach i Gylch Meithrin Noddfa. 

Adnewyddu mainc i Gartref Henoed Plas Ogwen.

Adnewyddu meinciau i bobl leol. 

Adeiladu nifer o focsys planhigion ffenestr i Gyngor Plwyf Bontnewydd. Adnewyddu mainc coffa i Gynghorydd Bontnewydd. 

Adeiladu a gosod giât yn Meithrin Noddfa.

Hefyd adnewyddwyd rhoddion a dderbyniwyd yn Age Cymru Gwynedd a Môn.

Mae yna griw ohonynt yn mynd draw i’r Cartref Bontnewydd i osod tŷ gwydr a fydd yn tyfu llysiau i fwydo pobl leol yn y caffi.

Bellach maent yn edrych ymlaen at gyd weithio â Chartrefi Cymunedol Gwynedd, Tîm Plismona a phlant lleol i adeiladu tŷ gwydr wedi ei wneud  allan o boteli plastig.

Os hoffech chi gysylltu â’r sied neu roi cyfraniad at yr achos cysylltwch â Nicola ar 01286 808732 neu Brian ar 01286 671711.