Mae Age Cymru Gwynedd a Mon yn defnyddio cwcis i sicrhau ein bod yn rhoi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r wefan hon, rydych chi'n cytuno i'n polisi. Rwy'n darllen mwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a sut y gallwch eu rheoli. Darllenwch ein polisi cwci
Scipiwch i'r cynnwys

Plis ymunwch â'r ymgyrch i gadw trwydded teledu am ddim i bobl hŷn

Cyhoeddwyd ar 12 Rhagfyr 2018 01:07 yh

Plis ymunwch â'r ymgyrch i gadw trwydded teledu am ddim i bobl hŷn

I dros filiwn o'r bobl hynaf yn y DU, teledu yw prif ffurf cwmniaeth. Yng Nghymru, mae un o bob pedwar o bobl hŷn yn dweud mai teledu yw eu prif ffurf o gydymaith. Mae'n gydymaith gyson yn ganolog i'w bywydau. Ac ar hyn o bryd, mae dan fygythiad..

Mae'r BBC yn ystyried cael gwared ar yr hawl i roi trwyddedau teledu am ddim ar gyfer pobl dros 75 oed ac mae elusen Age Cymru yn ofni mai y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas fydd yn dioddef.

Ar draws y DU, mae hanner y boblogaeth dros 75 oed yn byw gydag anabledd, ac mae bron i draean yn byw mewn tlodi, neu ychydig uwchlaw'r llinell dlodi. Byddai talu bil ychwanegol yn amhosibl, pan mae’n anodd byw ar yr arian fel y mae.

Byddai cael gwared at fynediad pobl hŷn i’r gwasanaeth yn ergyd greulon pan mae llawer eisoes yn wynebu heriau enfawr.

Mae Age Cymru yn mynnu bod y Llywodraeth yn cymryd cyfrifoldeb dros gadw teledu am ddim i bobl dros 75 oherwydd nid trwydded yn unig ydyw, mae'n ffordd o fyw i gymaint o bobl hŷn yng Nghymru.

Felly, llofnodwch ein deiseb yn ageuk.org.uk/tvpetition