Mae Age Cymru Gwynedd a Mon yn defnyddio cwcis i sicrhau ein bod yn rhoi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r wefan hon, rydych chi'n cytuno i'n polisi. Rwy'n darllen mwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a sut y gallwch eu rheoli. Darllenwch ein polisi cwci
Scipiwch i'r cynnwys

Tesco Bags of Help

Cyhoeddwyd ar 13 Mehefin 2018 12:59 yh

Roeddwn yn hynod o ddiolchgar i bawb a phleidleisiodd am y Men’s Shed yng Nghronfa Tesco Bags of Help ym mis Mawrth.  Mae’r arian yn gymorth mawr i helpu tuag at gostau rhedeg y prosiect yma yng Nghaernarfon.

Bu’r dynion sy’n mynychu'r sied yn hynod o brysur dros y misoedd diwethaf yn gweithio ar wahanol brosiectau yn y gymuned.

Mae pentref Bontnewydd werth ei weld gyda hen fainc wedi cael ei hadnewyddu a bocsys blodau wedi dotio o amgylch y pentref llawn blodau erbyn hyn.

Edrychwn ymlaen yn yr wythnosau nesaf ar gychwyn prosiect newydd wrth weithio gyda CCG i adeiladu tŷ gwydr allan o boteli plastig gyda chriw o blant yr ardal.

Os byddwch yn mynd heibio’r sied yn Stad Ddiwydiannol Cibyn, mae croeso i chi alw mewn i weld beth sydd yn mynd ymlaen, cewch groeso a phaned gyda’r criw gweithgar.

Heb arian Tes co bysai’n anodd iawn cynnal y prosiect.

Os oes rhywun am gyfrannu at y prosiect cysylltwch â Nicola yn Age Cymru Gwynedd a Môn.  Byddwn yn ddiolchgar o unrhyw roddion, boed yn hen ddodrefn i’w hadnewyddu neu rodd ariannol i gynnal y gweithgareddau ac at gostau rhedeg y sied.

Rhif ffôn y Sied 01286 671711

Rhif ffon Nicola 01286 808732