Mae Age Cymru Gwynedd a Mon yn defnyddio cwcis i sicrhau ein bod yn rhoi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r wefan hon, rydych chi'n cytuno i'n polisi. Rwy'n darllen mwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a sut y gallwch eu rheoli. Darllenwch ein polisi cwci
Scipiwch i'r cynnwys

Awgrymiadau i fwynhau Calan Gaeaf yn ddiogel ac yn hapus

Cyhoeddwyd ar 19 Hydref 2026 11:58 yb

Gall Calan Gaeaf fod yn llawer o hwyl, yn enwedig i blant. Mae llawer ohonom yn mwynhau gweld plant lleol yn mynd o ddrws i ddrws yn gwisgo’u gwisgoedd ffansi. Fodd bynnag, gall hyn beri pryder i rai pobl – yn enwedig os ydynt gartref ar eu pennau eu hunain ac yn poeni am bobl yn galw ar ôl iddi dywyllu.

Er nad oes neb eisiau difetha’r hwyl, ni ddylai neb orfod teimlo’n ofnus nac yn bryderus yn eu cartref eu hunain. Dyma rai pethau syml y gallwn ni i gyd eu gwneud i sicrhau bod Calan Gaeaf yn parhau i fod yn hwyl i bawb.

Os ydych chi’n poeni am eich diogelwch:

  • Rhowch y gadwyn ar y drws bob amser, ac edrychwch drwy’r ffenestr neu’r twll sbïo i weld pwy sydd yno cyn agor y drws.

  • Byddwch yn arbennig o ofalus os oes mwy nag un person wrth eich drws.

  • Agorwch y drws dim ond os ydych chi’n teimlo’n ddiogel i wneud hynny. Os oes gennych unrhyw amheuaeth neu os nad ydych chi’n teimlo’n ddiogel, peidiwch â’i agor. Mae’n gwbl iawn peidio ag ateb y drws os nad ydych chi eisiau gwneud hynny.

  • Os ydych chi’n bryderus iawn, beth am wahodd ffrind neu aelod o’r teulu draw i dreulio’r noson gyda chi?

  • Rhowch arwydd ar eich drws neu’ch ffenestr yn dweud: “Dim galwyr Calan Gaeaf, os gwelwch yn dda.”

Os ydych chi’n mynd o ddrws i ddrws ar Galan Gaeaf:

  • Cofiwch efallai na fydd rhai pobl hŷn ac aelodau eraill o’ch cymuned eisiau i neb darfu arnynt. Rheol dda yw chwilio am bwmpen y tu allan i’r tŷ – mae hyn yn arwydd bod croeso i blant alw yno ar Galan Gaeaf.

  • Byddwch yn ystyriol o sŵn, yn enwedig yn hwyr yn y nos.

  • Peidiwch â chanu cloch drws rhywun dro ar ôl tro, curo ar y drws yn barhaus na dychwelyd i’r un tŷ yn nes ymlaen. Os nad oes ateb, mae’n well symud ymlaen i’r tŷ nesaf.

Lawrlwythwch yr Arwydd - Dim galwyr Calan Gaeaf

Mae’r arwydd “Dim galwyr Calan Gaeaf” wedi’i greu i’ch helpu i deimlo’n ddiogel ac yn gyfforddus yn eich cartref y Calan Gaeaf hwn. Mae’n rhoi gwybod yn gwrtais i ymwelwyr y byddai’n well gennych beidio â chymryd rhan yn yr arfer o fynd o ddrws i ddrws ar Galan Gaeaf, fel y gallwch fwynhau noson dawel a llonydd.