Mae Age Cymru Gwynedd a Mon yn defnyddio cwcis i sicrhau ein bod yn rhoi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r wefan hon, rydych chi'n cytuno i'n polisi. Rwy'n darllen mwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a sut y gallwch eu rheoli. Darllenwch ein polisi cwci
Scipiwch i'r cynnwys

Lansio Rhaglen Ymgysylltu Strategaeth i Boblogaeth sy’n Heneiddio a Chymunedau Oed Cyfeillgar Ynys Môn

Cyhoeddwyd ar 01 Chwefror 2022 12:40 yh

Mae Age Cymru Gwynedd a Môn, mewn cydweithrediad a Medrwn Môn, wedi’i gomisiynu gan Cyngor Sir Ynys Môn i arwain ar raglen ymgysylltu ledled yr ynys, a’n awyddus i glywed gennych chi.

Fel rhan o’r rhaglen ymgysylltu bydd Age Cymru Gwynedd a Môn yn ymestyn allan i unigolion a chymunedau dros y mis nesaf er mwyn dysgu beth sy’n gweithio’n dda o fewn cymunedau lleol, a beth gall ei wneud i wella ar y ddarpariaeth sydd eisoes yn ei le. O fewn y gwaith bydd cyfle i chi rannu eich barn ar amryw o wahanol destunau gan gynnwys Tai, Iechyd a Gofal, Bywyd Cymunedol, Trafnidiaeth a mwy.

Mae dau brif ddiben i’r gwaith ymgysylltu hwn, sef i gefnogi gwaith Cyngor Sir Ynys Môn i weithio tuag at ddiffiniad Sefydliad Iechyd Byd i Ynys Môn fel Cymuned Sy’n Gyfeillgar i Oed, ac i lunio Strategaeth at Boblogaeth sy’n Heneiddio lleol i Ynys Môn.

Bydd mewnbwn o’r gwaith ymgysylltu’n cael ei ddefnyddio i ddylanwadu ar gamau nesaf y Cyngor i sicrhau fod Ynys Môn yn dod yn Gymuned sy’n Gyfeillgar i Oed, ac i gyflawni gweledigaeth Strategaeth i Boblogaeth sy’n Heneiddio, sef Cymru oed cyfeillgar sy’n cefnogi pobl o bob oed i fyw a heneiddio’n dda. Rydym eisiau creu Cymru ble mae pawb yn edrych ymlaen at heneiddio.

Sut i gymryd rhan

Mae sawl modd gwahanol i chi gymryd rhan a lleisio eich barn er mwyn siapio’r gwaith yma:

Holiaduron:

Mae holiaduron ar gael i’w gwblhau ar-lein neu ar bapur

Dyma linc i’r holiaduron ar-lein:

Fersiwn Cymraeg: https://forms.gle/ZHZFitmUSqXaexNU9 
Fersiwn Saesneg: https://forms.gle/bLMa8eQJzE27a93R6 

I dderbyn copi papur o’r holiadur, cysylltwch â Sioned Young ar y manylion isod.

Grwpiau Ffocws:

Bydd cyfres o Grwpiau Ffocws yn cael eu cynnal mewn Hybiau Cymunedol ledled Ynys Mon drwy gydol mis Chwefror. I ddarganfod os oes sesiwn yn mynd ymlaen yn eich Hwb leol chi, neu i drefnu Grŵp Ffocws, cysylltwch â Sioned Young ar y manylion isod.

Teclyn Awdit Walkability:

Fel rhan o’r gwaith ymgysylltu, mae Medrwn Mon hefyd yn arwain gwaith Teclyn Awdit Walkability i ddysgu mwy am yr hyn mae trigolion Ynys Mon yn meddwl am y cymunedau maent yn byw a gweithio ynddynt. Gwneir hyn wrth gasglu grŵp o’r gymuned i gerdded o gwmpas eich ardal leol gydag aelod o staff Medrwn Môn i wirio bod eich cymdogaeth, strydoedd yn llefydd ble gall bawb o bob oed cerdded o’u cwmpas yn saff, cyfleus ac annibynnol. Bwydir sylwadau o’r gwaith yma i’r rhaglen ymgysylltu ehangach.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cymryd rhan mewn sesiwn Walkability, cysylltwch â Delyth Owen ar delyth@medrwnmon.org a 07376948355 neu 01248 724944.

Am ragor o wybodaeth am y Rhaglen Ymgysylltu hon neu i ddysgu am fyw o ffyrdd i gymryd rhan neu gefnogi’r gwaith hwn, cysylltwch â Sioned Young ar sioned.young@acgm.co.uk  neu 01286 808 735.