Mae rhoi gwybodaeth yn wasanaeth cyfrinachol sy'n chwarae rhan hanfodol wrth wella ansawdd bywyd pobl hŷn.
Fel gwirfoddolwr, byddwch yn rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen ar bobl hŷn i'w galluogi i:
- sicrhau hawliau, trwy eu cyfeirio at ein gwasanaeth hawl i fudd-daliadau
- sicrhau bod pobl yn cael y gefnogaeth sydd ei angen arnynt, trwy eu cyfeirio at ein gwasanaeth HOPE
- gwneud pobl yn ymwybodol o wasanaethau eraill sydd ar gael yn ein sefydliad
- gwneud pobl yn ymwybodol o wasanaethau eraill sydd ar gael y tu allan i'n sefydliad
Cewch eich cefnogi gan y Rheolwr Gwybodaeth a Chyngor.
Mae'r rōl gwybodaeth a gweinyddol fel rheol yn golygu rhoi gwybod i bobl am wasanaethau, sut y gallant gael gafael ar gymorth, a'u cyfeirio at asiantaethau eraill a ffynonellau cymorth.
Byddwch yn cael hyfforddiant ar ein cronfa ddata ar-lein a bydd yn cefnogi'r tīm Gwybodaeth a Chyngor, ar gadw'r nodiadau achos a'r wybodaeth ddiweddaraf, ynghyd â rhai cyfrifoldebau gweinyddu cyffredinol.
Mae hon hefyd yn ffordd wych o gael mwy o brofiad ar eich CV!