Mae Age Cymru Gwynedd a Mon yn defnyddio cwcis i sicrhau ein bod yn rhoi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r wefan hon, rydych chi'n cytuno i'n polisi. Rwy'n darllen mwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a sut y gallwch eu rheoli. Darllenwch ein polisi cwci
Scipiwch i'r cynnwys

Mae awyrgylch gyfeillgar i’w gael yng Nghaffi a Chanolfan galw i mewn Hafan. Fe’i lleolir mewn ardal hygyrch ger y prif safle bws yng nghanol dinas Bangor.

Pwy all ddefnyddio’r ganolfan?

Mae awyrgylch gyfeillgar a chroesawgar yn y ganolfan a all gael ei ddefnyddio gan unrhyw un dros 50 mlwydd oed. Mae wedi ei leoli yn agos i’r safle bws gan ei wneud yn ei ardderchog i aros am y bws a lle cewch fwynhau paned wrth aros!


Caffi Hafan
Rydym yn cynnig amrywiaeth o fwyd poeth ac oer am bris rhesymol.  Cymerwch olwg ar ein bwydlen.

Nid yn unig y gallwch gael rhywbeth i’w fwyta, gallwch hefyd ddefnyddio’r ganolfan ar gyfer:

  • lle i fynd i gael seibiant
  • galw i mewn am baned o de neu goffi
  • fel lle i gael seibiant o siopa
  • I gyfarfod ffrindiau
  • Darparu seibiant i ofalwyr

Ardal Technoleg Gwybodaeth Hafan 
Mae gan Hafan ardal Technoleg Gwybodaeth ble y gallwch:

  • Pori’r  rhyngrwyd
  • Anfon a derbyn e-byst
  • Cynhyrchu  llythyrau
  • Ymchwilio 
  • A llawer iawn  mwy.

Gallwn drefnu i chi gael hyfforddiant Technoleg Gwybodaeth sylfaenol un i un yn Hafan. Am ragor o wybodaeth gofynnwch i staff y ganolfan os gwelwch yn dda. 

Defnydd o Gaffi a Chanolfan galw i mewn Hafan gan grwpiau a chymdeithasau lleol
Os ydych yn aelod o grŵp neu gymdeithas leol sydd yn dymuno defnyddio cyfleusterau Hafan cysylltwch â ni i drafod ymhellach os gwelwch yn dda.


Datblygiad Caffi a Chanolfan galw i mewn, Hafan
Mae’r ganolfan yn parhau i ddatblygu a’n nod yw cynnig mwy o wasanaethau megis bingo, cwis ac yn y blaen.

Byddem yn falch iawn o gael eich barn ar ba wasanaethau yr hoffech weld yn Hafan, cwblhewch ein harolwg byr os gwelwch yn dda fel y gallwch gynnig y gwasanaethau yr ydych eisiau.

Meryl Williams – Rheolwr Caffi
Caffi a Chanolfan galw mewn, Hafan
Ffordd Deiniol 
Bangor
Gwynedd 
Ar agor Llun i Gwener 10.00yb – 3.00yp   
Cysylltwch â ni
E-bost: melissa@acgm.co.uk / beverley@acgm.co.uk
Ffôn: 01248 362526