Gofal Traed
Mae cadw’n symudol yn bwysig ac wrth i ni fynd yn hŷn gall torri ewinedd ein traed fod yn anodd.
Yma yn Age Cymru Gwynedd a Môn, rydym yn darparu gwasanaeth Torri ewinedd er mwyn eich cynorthwyo i ofalu am eich traed a’ch galluogi i gerdded yn gyfforddus. Byddwch yn cael eich gweld gan ein tîm o staff cyfeillgar, hyfforddedig a phroffesiynol nail ai yn eich cartref neu mewn clinig.
Beth sydd yn cael ei gynnwys yn y gwasanaeth?
- Torri a ffeilio ewinedd traed
- Cyngor ar ofal traed
- Cyfeirio at podiatrydd os oes angen.
Ble cynhelir y clinigau?
Mae ein clinig ar hyn o bryd yng Nghaernarfon ac rydym yn edrych i sefydlu clinigau mewn amrywiol leoliadau ar draws Gwynedd ac Ynys Môn.
Pwy sydd yn cynnal y gwasanaeth gofal traed?
Darperir y gwasanaeth gan ein staff gofal cartref, sydd i gyd wedi eu hyfforddi’n llawn gan Adran Bodiatreg Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â ni ar 01286 677711.
Cysylltwch â
Ffôn: 01286 677711
Ebost: llio@acgm.co.uk