NODYN I’R DYDDIADUR
Cyhoeddwyd ar 27 Chwefror 2023 09:47 yb
Digwyddiad: Digwyddiad gwybodaeth materion llesiant ac ymateb i’r argyfwng costau byw (yn cynnwys sgyrsiau, gweithgaredd llesiant a cinio)
Lle: Y Cartref Bontnewydd (Age Cymru Gwynedd a Môn) LL54 7UW
Pryd: 10.30 y bore tan 2 y prynhawn Dydd Llun 6 Mawrth 2023
Bydd Age Cymru Gwynedd a Môn yn cydweithio gyda Prosiect HOPE (Age Cymru) er mwyn cynnal diwrnod gwybodaeth llesiant ac ymateb i’r argyfwng costau byw yn Y Cartref Bontnewydd LL54 7UW.
Bydd y diwrnod rhwng 10.30 y bore a 2 y prynhawn yn gyfle i gymdeithasu, derbyn gwybodaeth gan amryw o asiantaethau yn cynnwys Swyddog Tlodi Tanwydd Cyngor Gwynedd. Byddwn yn cynnig cyfle i bobl gael printio mwg neu bag siopa eich hunain (drwy ein menter Ffiws Gwynedd) ac hefyd cinio i bawb sydd ym mynychu.
Mwy o wybodaeth i ddilyn!