Trip Tren Rheilffordd Llyn Llanberis 14eg o Fedi, 2022
Cyhoeddwyd ar 21 Medi 2022 08:02 yb
Ar ddydd Mercher y 14eg o Fedi cafwyd prynhawn i’w gofio! Cafodd Age Cymru Gwynedd a Môn drip ar tren bach llyn Llanberis. Dyma drip cyntaf i ni fel cymdeithas ers peth amser a roedd pawb yn edrych ymlaen.
Fe roedd pawb yn dal y bws o’r Cartref yma’n Bontnewydd amser cinio, ac yn cyrraedd Llanberi s i ddal y trên Rheilffordd Llyn Llanberis am 1.30pm. Yna trip hamddenol ar y trên i ben draw Llyn Padarn ac yn ôl; roedd y tywydd yn braf. Ar ôl cyrraedd yr orsaf cafwyd siawns i gael golwg ar yr arddangosfa dathlu 50 mlynedd Rheilffordd Llyn Llanberis.
Cafwyd paned a sgwrs yn y caffi i orffen y pnawn ac yna aeth pawb i ddisgwyl y bws i gael eu cludo’n ôl i’r Cartref yma ym Montnewydd.
Hoffem ddiolch i John a holl staff Rheilffordd Llyn Llanberis am bnawn llawn hwyl a hefyd i Now, Bws Peris am ein cludo’n ôl ac ymlaen yn saff.
Diwrnod gwerth chweil, a phawb wedi mwynhau. Pawb yn barod ar gyfer ein trip nesaf rŵan!