NODYN I’R DYDDIADUR
Cyhoeddwyd ar 23 Chwefror 2023 10:00 yb
Lle: Canolfan Glanhwfa (Capel Moreia), Ffordd Glanhwfa, Llangefni LL77 7EN
Pryd: 10.30 y bore tan 2 y prynhawn Dydd Iau 9 Mawrth 2023
Digwyddiad: Digwyddiad gwybodaeth materion llesiant ac ymateb i’r argyfwng costau byw (yn cynnwys sgyrsiau, gweithgaredd llesiant a cinio)
Bydd Age Cymru Gwynedd a Môn yn cydweithio gyda Prosiect HOPE (Age Cymru) er mwyn cynnal diwrnod gwybodaeth llesiant ac ymateb i’r argyfwng costau byw yng Nghanolfan Glanhwfa Llangefni LL77 7EN.
Bydd y diwrnod rhwng 10.30 y bore a 2 y prynhawn Dydd Iau 9 Mawrth 2023 yn gyfle i gymdeithasu a derbyn gwybodaeth gan amryw o asiantaethau. Byddwn yna sgwrs ar hunanofal a llesiant ac hefyd sesiwn flasu gan Mon Actif. Bydd cinio yn cael ei ddarparu hefyd i bawb sydd yn mynychu.
Mwy o wybodaeth i ddilyn!