Mae Age Cymru Gwynedd a Mon yn defnyddio cwcis i sicrhau ein bod yn rhoi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r wefan hon, rydych chi'n cytuno i'n polisi. Rwy'n darllen mwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a sut y gallwch eu rheoli. Darllenwch ein polisi cwci
Scipiwch i'r cynnwys

CYNNWRF YN “Y CARTREF” BONTNEWYDD AGE CYMRU GWYNEDD A MÔN

Cyhoeddwyd ar 17 Medi 2018 12:49 yh

Nawr bod hi’n dymor yr hydref rydym yn adnewyddu’r amserlen gweithgareddau yma yn Y Cartref.    Byddwn yn ychwanegu sawl gweithgaredd difyr fel rhai ychwanegol i’r amserlen bresennol.

Rydym yn edrych ymlaen at gychwyn sesiynau Bingo ar bnawn dydd Gwener. Cewch bnawn o hwyl wrth ennill amrywiaeth o wobrau a bwyd am fargen o bris £7 am ddau gwrs a phaned!

Yn cychwyn Mis Hydref mae gennym raglen eang o siaradwyr difyr yma i’ch diddori.  Bydd y sesiwn cychwynnol ar y 1af o fis Hydref gyda sgyrsiau yn cynnwys hanesion lleol, arteffactau  a llawer mwy.

Mae’r Nadolig yn nesáu yn sydyn iawn, felly cofiwch archebu eich Cinio Nadolig gyda ni,  boed ych chi yn archebu ar gyfer un neu ddau ohonoch neu yn archebu ar gyfer criw sylweddol!  Roeddem yn brysur iawn Nadolig llynedd ac rydym yn rhagweld  y bydden yn brysurach eleni  gan fod geirda’r ymwelwyr i’r  caffi yn cynyddu dros y flwyddyn.  Bydd Cinio Nadolig 3 cwrs ar gael am bris rhesymol o £12.50 y pen, felly archebwch ymlaen llaw i gadw lle - byddwn yn cychwyn y Cinio Nadolig o wythnos 12 Tachwedd 2018 ymlaen!

Rydym yn awyddus iawn i dderbyn eich adborth a syniadau at y dyfodol gan ein bod pob amser  yn edrych i ehangu ar ddarpariaeth sydd gennym yma.  Mae’r Caffi’r Cartref yn ddiweddar er enghraifft wedi bod yn paratoi bwyd ‘take-away’ ar gyfer te angladd a pharti pen-blwydd ac rydym yn parhau i edrych mewn i sefydlu gwasanaeth Pryd yn y Cartref ar gyfer Bontnewydd, Dinas a Llanwnda.

Felly dewch draw yma i’n gweld yn  Y Cartref am sgwrs a phaned unrhyw dro, mae yna groeso cynnes i bawb!

Rydym bob amser hefyd yn chwilio am wirfoddolwyr i’n cynorthwyo yn Y Cartref ac felly os oes gennych ychydig oriau i’w sbario yn wythnosol beth am roi cynnig arni a dod yn wirfoddolwyr i Age Cymru Gwynedd a Môn?

Cysylltwch â Nicola Jennings ar 01286 808 732 i drafod eich anghenion, i archebu cinio, archebu lle ar y gweithgareddau, trafod cyfleon gwirfoddoli  ac/neu i rannu eich syniadau!