Mae Age Cymru Gwynedd a Mon yn defnyddio cwcis i sicrhau ein bod yn rhoi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r wefan hon, rydych chi'n cytuno i'n polisi. Rwy'n darllen mwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a sut y gallwch eu rheoli. Darllenwch ein polisi cwci
Scipiwch i'r cynnwys

Blwyddyn newydd dda

Cyhoeddwyd ar 16 Ionawr 2019 10:02 yb

Dymunwn flwyddyn newydd dda ac iach i bawb.  Roedd llynedd yn gyfnod prysur a difyr iawn i ni fel elusen yma yn Y Cartref Bontnewydd gyda rhai cannoedd o bobl wedi bod draw i ymweld gyda ni yma.  Rydym yn mawr obeithio cawn yr un llwyddiant a chefnogaeth yn 2019.

A hithau yn gyfnod blwyddyn newydd ac yn gyfnod o lunio addewidion, beth am wneud addewid i fod yn fwy actif ac iach yn 2019 a chymryd mantais o’r amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau sydd yn cymryd lle yn Y Cartref?  Yn wythnosol ceir gweithgareddau megis cadw’r corff yn heini, a hefyd sesiynau crefftau amrywiol fydd yn cadw’r ymennydd yn heini!  Bwriedir cyflwyno sesiynau chwarae gemau bwrdd a cardiau yn y flwyddyn newydd.

Rydym yn amlwg yng nghanol tymor y Gaeaf ac fel elusen yn parhau i  hybu’r neges cadw’n iach a diogel dros y cyfnod yma yn ogystal â’r ymgyrch Ni Ddylai Unrhyw Un Fod Heb Neb.  Cafwyd digwyddiad llwyddiannus iawn yng Nghaffi’r Cartref cyn y Nadolig lle gwahoddwyd oddeutu 20 o drigolion lleol ddod draw i fwynhau pryd maethlon a chael cwmnïaeth.  Dros y misoedd canlynol byddwn yn cynnig gwasanaeth cynnig gwiriadau o fewn cartrefi pobl er mwyn sicrhau eu bod yn ddiogel a hefyd bod eu cartrefi yn fwy ynni effeithlon.

Mae prydau bwyd maethlon yn allweddol o ran cadw’n iach dros y gaeaf ac mae ein Caffi yn adnodd pwysig o ran sicrhau hyn yn ogystal â chynnig cyfleoedd cymdeithasu, boed i’r rhai hynny sydd yn gwirfoddoli yno neu'r rhai sydd yn gwsmeriaid ffyddlon.  Dros gyfnod y Chwefror a Mawrth 2019, yn ogystal i’r ddarpariaeth arferol o Llun i Gwener, byddwn yn cynnig prydau arbennig i gyd fynd gyda San Ffolant (14eg o Chwefror 2019) a Gŵyl Ddewi (5ed a 7fed o Fawrth 2019).

Datblygiad pwysig arall sydd ar gychwyn yw'r gwasanaeth pryd yn y cartref byddwn yn gynnig yn ardal Bro Lleu.  Byddwn yn cludo prydau poeth o Llun i Gwener i drigolion lleol a hynny am £7 y pen am ddau gwrs maethlon a blasus wedi eu paratoi yn ein cegin gan Sheila!.

Rydym bob amser hefyd yn chwilio am wirfoddolwyr i’n cynorthwyo yn Y Cartref ac felly os oes gennych ychydig oriau i’w sbario yn wythnosol beth am roi cynnig arni a dod yn wirfoddolwyr i Age Cymru Gwynedd a Môn?

Os am unrhyw wybodaeth bellach am yr hyn sydd ar gael yn Y Cartref Bontnewydd, neu i archebu lle yn y Caffi neu'r gwasanaeth pryd ar glyd, neu os oes gennych unrhyw syniadau o’r mathau o weithgareddau yr hoffech weld yn cael eu darparu, yna cysylltwch â Nicola Jennings ar 01286 808 732 neu nicola@acgm.co.uk .