Mae Age Cymru Gwynedd a Mon yn defnyddio cwcis i sicrhau ein bod yn rhoi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r wefan hon, rydych chi'n cytuno i'n polisi. Rwy'n darllen mwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a sut y gallwch eu rheoli. Darllenwch ein polisi cwci
Scipiwch i'r cynnwys

Mentro Gyda’n Gilydd - Ynys Môn

Cyhoeddwyd ar 27 Tachwedd 2020 12:06 yh

Mae Age Cymru Gwynedd a Môn, ynghyd a phartneriaid lleol Medrwn Môn a Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, yn falch o gyhoeddi adnodd newydd ‘Mentro Gyda’n Gilydd’ i gefnogi trigolion Ynys Môn i ail-gysylltu’n saff gyda’u cymunedau.

Mae cyfres o fideos byr, 1 munud o hyd, wedi i’w creu i helpu i ddangos i drigolion bregus a rhai sy’n byw gyda Dementia ym Môn y prif newidiadau mewn siopa a gwasanaethau ar draws yr ynys ers y pandemig. Gall y rhain cynnwys sustemau unffordd, diheintydd dwylo a rheolau pellhau cymdeithasol ymysg eraill.

Mae cyfres o fideos bellach ar gael i bawb ei wylio ar sianel YouTube Mentro Gyda’n Gilydd Môn: https://www.youtube.com/channel/UCiSihFCA5cNjnsj7Lyy_ssA/?reload=9

 Y gobaith yw bod y fideos yn helpu trigolion yr ynys i gael gwell syniad o beth i ddisgwyl pan fyddant yn mynd yn ôl allan i’r gymuned. Mae holiadur  hefyd ar gael i roi adborth ar y fideos: https://www.surveymonkey.co.uk/r/8JPQCWL

Hoffai is-grŵp Ynys Môn o’r prosiect cenedlaethol hwn estyn diolch i’r holl siopa a gwasanaethau sydd eisoes wedi cymryd yr amser i gefnogi’r prosiect trwy ddarparu lluniau a gwybodaeth i’r fideos. Y bwriad nawr bydd i ehangu’r adnodd i gefnogi gymaint o drigolion Môn ac sy’n bosib, ac felly mae gwahoddiad agored i unrhyw siop neu wasanaeth arall i gysylltu i fod yn rhan drwy gael fideo wedi’i greu ar eu cyfer hefyd.

I dderbyn copi caled o’r anodau,  neu os yn fusnes yn awyddus i greu fideo i’r prosiect - cysylltwch â Sioned Young yn Age Cymru Gwynedd a Môn ar:

Sioned.young@acgm.co.uk / 01286 808 735

1.PNG 2.jpg 3.jpg