Skip to content
Please donate

Prosiect celfyddydol arloesol yn gwella llesiant preswylwyr cartrefi gofal yn sylweddol

Published on 23 November 2017 04:30 PM

Mae prosiect celfyddydol cyfranogol yn cynnwys 122 o gartrefi preswyl ledled Cymru (oddeutu 20% o'r cyfanswm) wedi arwain at welliannau sylweddol o ran llesiant y preswylwyr sydd wedi cymryd rhan. Dyma oedd un o brif ganfyddiadau gwerthusiad prosiect cARTrefu Age Cymru.

Sefydlwyd cARTrefu i gynyddu'r cyfleoedd sydd ar gael i breswylwyr a staff cartrefi gofal i gymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol. Nod arall y prosiect oedd datblygu a mentora artistiaid, er mwyn eu galluogi i ddarparu sesiynau creadigol i bobl hŷn mewn lleoliadau gofal.

Gyda chymorth ariannol Cyngor Celfyddydau Cymru a Sefydliad Baring, dyma'r prosiect mwyaf o'i fath yn Ewrop. Roedd yn cynnwys dros 1,500 o breswylwyr a dros 300 o staff cartrefi gofal, ac fe'u hanogwyd i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau clefyddydol, gan gynnwys y celfyddydau perfformio, cerddoriaeth, celf weledol a geiriau. Arweiniwyd y sesiynau creadigol gan 16 ymarferydd celfyddydol, gyda chymorth pedwar mentor celf arbenigol.

Darganfu'r gwerthusiad, a gynhaliwyd gan Dr Katherine Algar Skaife o Ganolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia Cymru ym Mhrifysgol Bangor, fod y prosiect wedi cynyddu llesiant y preswylwyr yn sylweddol, gwella eu sgiliau cymdeithasol, a hyd yn oed wedi helpu rhai ohonynt i ailennill sgiliau coll, megis defnyddio cyllell a fforc.

Dywedodd David Cutler, Cyfarwyddwr Sefydliad Baring: "Yn ein barn ni, yn ogystal â bod ymhlith y prosiectau mwyaf o'i fath yn y byd, dyma un o'r enghreifftiau mwyaf ysbrydoledig erioed o waith creadigol mewn cartrefi gofal".

Dywedodd Phil George, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru: "Mae'r gweithgareddau sydd wedi cael eu cynnig i breswylwyr wedi bod yn gyfoethog ac amrywiol, ac maen nhw wedi cael effaith amlwg ar eu llesiant a'u mynegiant personol. Nid oes modd gor-bwysleisio pwysigrwydd y gweithgareddau hyn i'r rheiny sy'n byw gyda dementia. Mae bod yn dyst i danio atgofion ac adennill hunaniaeth yn brofiad pwerus ac emosiynol. Mae'r artistiaid wedi cael eu taro, herio ac ysgogi gan eu cysylltiadau â'r preswylwyr".

Ymateb y Preswylwyr

Darganfu'r gwerthusiad bod llesiant y preswylwyr wedi gwella o ganlyniad i bob gweithgaredd celfyddydol, er y gwelwyd y newid mwyaf mewn ymateb i'r sesiynau geiriau, ac yna'r sesiynau cerddorol. Dyma ddetholiad o ymatebion y preswylwyr:

"Roeddwn i wedi anghofio eich bod chi'n dod heddiw. Roeddwn i'n eistedd yn fy ystafell yn teimlo'n eitha' isel; ac yna daethant i fy hôl i. Am syrpreis hyfryd."

"Roeddwn i'n cael llawer o drafferth gyda fy nghlun y prynhawn hwn, ond ar ôl dechrau lliwio, llwyddais i anghofio am y boen."

"Rydw i wedi teimlo rhyw gryfder newydd o gael siarad gyda rhywun fel chi. Diolch am siarad gyda mi."

"Roeddwn i'n cael diwrnod gwael tan i ni wneud hyn. Rwy'n teimlo'n hollol wahanol nawr."

"Rydw i'n blaguro fel y blodau hyn."

Yr effaith ar staff cartrefi gofal

Darganfu'r gwerthusiad bod y prosiect wedi cael effaith gadarnhaol ar staff y cartrefi gofal, gyda nifer ohonynt yn sôn am agwedd gwell tuag at breswylwyr, yn enwedig y rheiny sy'n dioddef o ddementia. Dywedodd un gofalwr: "Gwnaeth i fi sylweddoli bod y preswylwyr yn llawer mwy galluog nad ydym ni'n cydnabod, efallai".

Yn ogystal, darganfu'r adroddiad bod staff y cartrefi gofal yn teimlo'n fwy hyderus i arwain gweithdai creadigol yn y dyfodol ar ôl gweithio gyda'r artistiaid. Er mwyn helpu i ddatblygu cynaliadwyedd hirdymor cARTrefu, comisiynodd y prosiect becyn gweithgareddau arbennig sy'n cynnwys cardiau gweithdai a fydd yn galluogi staff i gychwyn gweithdai creadigol ar ôl i'r artistiaid adael.

Mae'r cardiau dwyieithog yn cynnwys cyngor defnyddiol ar ystod eang o weithgareddau creadigol, gan gynnwys defnyddio apiau, ysgrifennu barddoniaeth mewn grŵp, perfformio straeon, defnyddio cynfasau mawr a gweithio gyda deunyddiau megis clai.

Arfogi'r artistiaid i weithio mewn lleoliadau gofal

Yn ogystal, darganfu'r gwerthusiad bod y prosiect wedi datblygu grŵp o artistiaid sydd bellach wedi'u harfogi i weithio gyda phobl hŷn sy'n agored i niwed mewn lleoliadau gofal, a bod bywydau'r preswylwyr yn fwy tebygol o gael eu hadlewyrchu yng ngwaith yr artistiaid yn y dyfodol.

Fel y dywedodd un o'r artistiaid: "Rydw i'n teimlo'n fwy boddhaus fel artist ar ôl cael fy herio i edrych am ffyrdd newydd o weithio ac i archwilio fy ymatebion emosiynol personol. Rydw i eisiau parhau â'r gwaith hwn".

Symud ymlaen gydag ail gyfnod cARTrefu

Ar ôl llwyddiant ysgubol cARTrefu, mae ail gyfnod wedi cael ei ariannu gan Sefydliad Baring a Chyngor Celfyddydau Cymru tan 2019, fydd â mwy o ffocws ar gynaliadwyedd ac arfogi staff cartrefi gofal i barhau i gynnwys preswylwyr mewn prosiectau creadigol ar ôl i'r artistiaid adael ac i wthio ffiniau'r celfyddydau mewn cartrefi gofal hyd yn oed ymhellach.

Nodiadau i Olygyddion

1. Am fwy o wybodaeth am cARTrefu a sut i gymryd rhan yn ail gyfnod cARTrefu, cysylltwch â Reg Noyes, cyd-drefnydd y prosiect ar reg.noyes@agecymru.org.uk neu 029 2043 1576.

2. Gellir trefnu cyfweliadau gyda Dr Katherine Algar Skaife, yr artistiaid, staff cartrefi gofal a rhai preswylwyr cartrefi gofal trwy gysylltu â'r Rheolwr Cyfathrebu.

3. I weld yr adroddiad gwerthuso llawn a dogfennau cARTrefu eraill, ewch i www.ageuk.org.uk/cymru/health--wellbeing/cartrefu/

4. Rydym ni wedi cynnwys tri ffotograff o'r gwerthusiad gyda'r datganiad hwn. Fodd bynnag, os nad yw'r delweddau yn addas, cysylltwch â'r Rheolwr Cyfathrebu gan fod ystod eang o ffotograffau eraill ar gael o'r gwerthusiad yn portreadu ystod eang o olygfeydd.

 

Last updated: Jan 12 2018

Become part of our story

Sign up today

Back to top