Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n polisi. Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a darganfod sut y gallwch chi newid gosodiad cwcis eich porwr
Skip to content
Cyfrannwch

Ffyrdd y gallwn ni gydweithio

Trwy ddatblygu cynhyrchion neu drwy ymgysylltu â'ch staff gydag ymgyrchoedd codi arian cyffrous, gallwn ddarparu'r bartneriaeth berffaith ar gyfer eich busnes, wrth eich helpu chi i gefnogi gwaith sy'n trawsnewid bywydau. 

 

Elusen y flwyddyn/staff yn codi arian  

Dewiswch Age Cymru fel eich ‘elusen y flwyddyn’ ac ymgysylltwch â'n calendr o weithgareddau sydd wedi'u teilwra. Dyma gyfle i chi gefnogi achos pwysig. 

 

Partneriaethau brand 

Age Cymru yw'r elusen genedlaethol ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru. Drwy gydweithio gallwn gynyddu ymwybyddiaeth a chodi arian y mae mawr ei angen er mwyn cefnogi pobl hŷn. 

 

Partneriaethau strategol 

Mae partneriaethau strategol yn ffordd wych o gysylltu amcanion eich cwmni wrth helpu mwy o bobl hŷn i fwynhau eu bywydau. 

 

Noddi digwyddiad 

Mae noddi digwyddiad yn gyfle gwych i chi ymgysylltu â chynulleidfa fawr. 

 

Rhodd heblaw arian 

Gall rhoi rhodd gorfforaethol heblaw arian fod yn ffordd werthfawr o gefnogi ein gwaith. 

 

Rhodd cyflogres 

Mae’r cynllun Rhodd Cyflogres yn ffordd hawdd ac effeithiol o godi arian. Mae rhoddion yn cael eu cymryd cyn treth, gan roi rhyddhad treth ar unwaith ar y rhodd. 

 

Gwirfoddoli corfforaethol 

Gallwch chi wneud gwahaniaeth o'ch desg. Gall eich busnes wirfoddoli gydag Age Cymru i wneud galwad gyfeillgarwch wythnosol i berson hŷn unig. 

I gael gwybod mwy am sut allwn gydweithio rhowch alwad i'n tîm ar 020 2043 1555 neu anfonwch e-bost atom yn fundraising@agecymru.org.uk

 

Last updated: Rhag 05 2022

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top