Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n polisi. Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a darganfod sut y gallwch chi newid gosodiad cwcis eich porwr
Skip to content
Cyfrannwch

Cymorth i ddioddefwyr sgam

Cymorth i ddioddefwyr sgam

Bob blwyddyn, mae miliynau o bobl yn y DU yn dioddef sgamiau. Gall pobl o bob oed gael eu twyllo. Gall sgamiau arwain at ganlyniadau ariannol ac emosiynol difrifol i ddioddefwyr, a gall arwain at deimladau o euogrwydd, cywilydd, embaras, ofn, a phryder. 

Pwy alla i siarad ag os ydw i wedi cael fy sgamio? 

Beth yw'r arwyddion fod perthynas neu ffrind wedi eu twyllo? 

Sut alla i helpu perthynas neu ffrind os ydyn nhw wedi cael eu twyllo? 

Canllawiau gwybodaeth ddefnyddiol a taflenni ffeithiau 

Pwy alla i siarad ag os ydw i wedi cael fy sgamio? 

  • Dywedwch wrth eich banc neu sefydliad ariannol ar unwaith os byddwch yn sylwi ar drafodiad amheus o'ch cyfrif banc neu gerdyn credyd. Fe fyddan nhw'n ceisio adfer unrhyw arian sy'n cael ei golli. Gallant ganslo eich cerdyn presennol ac anfon un newydd atoch i atal unrhyw drafodion twyllodrus eraill o'ch cyfrif.
  • Rhowch wybod am y sgam i'r heddlu.
  • Hefyd cysylltwch ag Action Fraud gan ddefnyddio eu system adrodd twyll ar-lein.  
  • Cysylltwch â Cymorth i Ddioddefwyr neu Meddyliwch Jessica os yw sgam wedi gwneud i chi deimlo'n bryderus, yn ofnus neu'n euog. Maent yn rhoi cymorth emosiynol ac ymarferol i ddioddefwyr troseddau a sgamiau. 
  • Cysylltwch â  llinell gymorth  y Samariaid 24 awr ar 116 123 os ydych yn teimlo'n isel neu'n bryderus ac angen rhywun i siarad â nhw. 
  • Os oes angen gofal a chymorth arnoch, gallwch gysylltu ag adran gwasanaethau cymdeithasol oedolion eich cyngor lleol. Gallant ddarparu cymorth diogelu, a byddant yn gweithio gyda chi i ystyried pa gamau i'w cymryd. 
  • Cysylltwch â Chyngor ar Bopeth os ydych chi'n cael trafferth talu eich biliau ac yn poeni beth i'w wneud. 

Beth yw'r arwyddion fod perthynas neu ffrind wedi eu twyllo? 

Efallai eich bod yn poeni bod rhywun rydych chi'n ei adnabod wedi dioddef sgam. Cadwch lygad am yr arwyddion rhybudd hyn: 

  • Symiau anarferol o bost neu lythyrau yn eu cartref
  • Tystiolaeth o dynnu arian mawr neu daliadau siec lluosog
  • Diffyg arian i dalu am bethau eraill
  • Llawer o alwadau ffôn gan ddieithriaid neu gwmnïau. 

Dydy rhai dioddefwyr sgam ddim yn sylweddoli eu bod yn cael eu twyllo, neu'n gwrthod credu hynny. Efallai eu bod yn teimlo mai eu ffrindiau yw'r sgamwyr, neu y bydd eu dychweliadau neu wobrau yn dod drwodd os ydyn nhw'n parhau i ymateb. Gall hyn ei gwneud hi'n anodd iawn i siarad â nhw am gael cymorth. 

Sut alla i helpu perthynas neu ffrind os ydyn nhw wedi cael eu twyllo? 

Codwch y pwnc gyda nhw mewn modd sensitif - efallai trwy eu holi am y galwadau a'r post maen nhw'n ei dderbyn. Gweler a allen nhw fod yn barod i gofrestru ar gyfer y Gwasanaeth Dewis Post a'r Gwasanaeth Dewis Ffôn i helpu i rwystro rhai o'r galwadau a'r post. 

Helpwch nhw i adrodd y twyll 

Gallwch adrodd am dwyll i Action Fraud ar ran rhywun, neu eu hannog i roi gwybod amdano. Cynghorir eich bod yn cael caniatâd gan y dioddefwr cyn adrodd y twyll ar eu rhan, ond gallwch adrodd am y twyll heb eu caniatâd. 

Dod o hyd i gefnogaeth yn lleol 

Yn ôl y llywodraeth mae sgamiau rhyngrwyd, sgamiau post a throseddau ar garreg y drws i gyd yn fathau o gam-drin ariannol ac yn aml yn cael eu targedu at oedolion sydd angen gofal a chymorth. 

Os ydych yn pryderu fod oedolyn sydd angen gofal a chymorth wedi ei effeithio gan sgam gallwch godi eich pryderon gydag adran gwasanaethau cymdeithasol oedolion y cyngor lleol. Byddan nhw'n gwneud  ymholiadau diogelu ac yn gweithio gyda'r oedolyn i ystyried y camau sydd angen eu cymryd. 

Cysylltwch ag adran gwasanaethau cymdeithasol eich cyngor lleol, Cyngor Age Cymru ar 0300 303 44 98 neu linell gymorth Hourglass ar 0808 808 8141

Canllawiau gwybodaeth ddefnyddiol a taflenni ffeithiau 

Canllaw Gwybodaeth 05: Osgoi sgamiau 

Canllaw Gwybodaeth 45: Gofalu am eich arian 

Canllaw Gwybodaeth 01: Cadw'n ddiogel

Taflenni Ffeithiau 78w: Diogelu pobl hŷn yng Nghymru rhag camdriniaeth ac esgeulustod

Ar hyn o bryd mae'r dogfennau a restrir uchod nad oes ganddynt hypergyswllt ar gael yn Saesneg yn unig – gellir gweld copïau ar fersiwn iaith Saesneg ein gwefan. Cysylltwch â ni os ydych yn dymuno trafod hyn neu os hoffech chi fersiwn Gymraeg.

Am fwy o wybodaeth ffoniwch Cyngor Age Cymru ar 0300 303 44 98.

 

Last updated: Rhag 19 2022

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top