Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n polisi. Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a darganfod sut y gallwch chi newid gosodiad cwcis eich porwr
Skip to content
Cyfrannwch

Lwfans Gweini

Lwfans Gweini

Oes gennych chi salwch neu anabledd sy'n golygu bod angen help ychwanegol arnoch chi gartref? Os felly, efallai y byddwch yn gallu cael budd-dal o'r enw Lwfans Gweini.


Beth yw'r Lwfans Gweini?

Budd-dal ar gyfer pobl hŷn yw Lwfans Gweini. Mae ar gyfer pobl allai fod angen cymorth ychwanegol i fod yn annibynnol gartref, oherwydd salwch neu anabledd.

I fod yn gymwys bydd yn rhaid i chi fod yn hŷn nag oedran Pensiwn y Wladwriaeth (ym mis Ebrill 2021 mae hyn yn golygu bydd dynion a menywod yn gorfod bod yn hŷn na 66 oed).

Os ydych yn iau nag oedran Pensiwn y Wladwriaeth, mae'n bosib y gallwch hawlio budd-dal gwahanol o'r enw Taliad Annibyniaeth Personol.


Faint o arian gallwn i'w dderbyn?

Fe allech chi dderbyn:

£72.65 yr wythnos os ydych chi angen help naill ai yn y dydd neu yn y nos

£108.55 yr wythnos os ydych angen help yn y dydd ac yn y nos.

Mae'r cyfraddau hyn yn berthnasol o Ebrill 2024 hyd fis Mawrth 2025.

Fel arfer, mae'r budd-dal yn cael ei dalu bob 4 wythnos.


Sut gallai Lwfans Presenoldeb fy helpu i?

Gall ychydig o arian ychwanegol fod yn werthfawr. Gallwch ei ddefnyddio mewn unrhyw ffordd yr hoffech ar gyfer eich anghenion er mwyn aros yn annibynnol yn eich cartref eich hun.

  • Does dim rhaid gwario'r arian ar ofalwr.
  • Mae rhai elfennau eraill i Lwfans Gweini hefyd:
  • Ni fydd hawlio Lwfans Gweini yn lleihau unrhyw incwm arall yr ydych yn ei hawlio.
  • Mae'n ddi-dreth.
  • Os ydych yn derbyn Lwfans Gweini, efallai y bydd gennych hawl i dderbyn budd-daliadau eraill, megis Credyd Pensiwn, Budd-dal Tai neu Ostyngiad Treth Cyngor. Mae’n bosib y byddwch yn medru cynyddu faint rydych yn hawlio ar gyfer y budd-daliadau hyn os ydych chi eisoes yn eu derbyn.

Nid yw'r Lwfans Gweini yn cynnwys prawf modd felly does dim ots faint o incwm a chynilion sydd gennych.

Am fwy o wybodaeth ffoniwch Gyngor Age Cymru ar 0300 303 44 98

 

Last updated: Ebr 05 2024

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top