Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n polisi. Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a darganfod sut y gallwch chi newid gosodiad cwcis eich porwr
Skip to content
Cyfrannwch

Swyddog Prosiect Rhanbarthol - Gogledd a Chanolbarth Cymru

Swyddog Prosiect Rhanbarthol (Prosiect Cymorth Cymunedol)
Dosbarth: Gweinyddu
Lleoliad: Hybrid (Gweithio gartref. Mae’n bosib bydd lle i chi weithio mewn swyddfa bartner, yn cwmpasu Rhanbarth Gogledd a Chanolbarth Cymru)
Cyflog: £27,667
Math o gytundeb: Cyfnod penodol tan 31 Rhagfyr 2024
Patrwm gwaith: 35 awr. Dydd Llun – Dydd Gwener.
Dyddiad cau: 17 Mai 2024

A hoffech chi ymuno â gwasanaeth sy’n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl hŷn yng Nghymru? Fel Swyddog Prosiect Rhanbarthol byddwch chi’n helpu i fodloni amcanion y Prosiect Cymorth Cymunedol drwy oruchwylio darpariaeth ranbarthol gwasanaethau, gan gefnogi’r Swyddog Gwirfoddolwyr Rhanbarthol gan weithio’n agos a chydweithredu â phartneriaid lleol.

Amdanoch chi:

  • Byddwch chi’n medru gweithio gydag eraill er mwyn darparu prosiectau a gwasanaethau llwyddiannus
  • Bydd gennych chi brofiad o recriwtio, rheoli a gweithio gyda gwirfoddolwyr
  • Bydd gennych chi brofiad o sefydlu a chynnal cydweithredu cynhyrchiol
  • Byddwch chi’n medru cynnal trafodaethau mewn amrywiaeth o lefelau tu fewn a thu allan y sefydliad
  • Bydd gennych chi brofiad o rwydweithio
  • Bydd gennych chi wybodaeth am wasanaethau lleol yn y sector gyhoeddus neu wirfoddol
  • Bydd gennych chi wybodaeth am amrywiaeth o ddiwylliannau, amgylcheddau a chymunedau ble mae pobl hŷn a gofalwyr yn byw
  • Y gallu i siarad Cymraeg (Hanfodol)

Os fyddwch chi’n llwyddiannus, byddwch chi’n:

  • Yn unol â threfniadau lleol, cynnal recriwtio, cefnogi/goruchwylio a mentora/cyfeillio’r gwirfoddolwyr, a sicrhau bod ganddynt wiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd priodol
  • Sicrhau bod yr holl ddarpar wirfoddolwyr yn cael eu sefydlu gyda phartneriaid y prosiect a bod ganddynt yr holl hyfforddiant perthnasol sydd ei angen, gan gynnwys pob agwedd ar helpu sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, diogelu, cydraddoldeb ac amrywiaeth a chynhwysiant yn unol â threfniadau lleol
  • Goruchwylio'r holl waith achos a wneir gan wirfoddolwyr y rhanbarth
  • Derbyn atgyfeiriadau ar gyfer y prosiect yn y rhanbarth, paru gwirfoddolwyr â'r person sydd angen y gwasanaeth a gweithio'n agos gydag aelodau eraill o dîm y prosiect i sicrhau bod gwasanaeth o ansawdd uchel, amserol ac ymatebol yn cael ei ddarparu i'r holl bobl hŷn sy'n cael eu cyfeirio ato
  • Gweithio gyda phartneriaid rhanbarthol, datblygu cyfleoedd a rhoi cyhoeddusrwydd i'r Prosiect Cymorth Cymunedol, gan gynnwys hyrwyddo a rhaeadru gwybodaeth, gan gynnwys enghreifftiau go iawn o ymyrraeth gadarnhaol drwy ystod o ddulliau a chydag ystod o randdeiliaid
  • Goruchwylio prosesu costau gwirfoddoli yn unol â pholisi a gweithdrefn y cytunwyd arno
  • Cynnal cofnodion cywir a chyfredol ynglŷn â phob elfen o’r gwasanaeth yn y rhanbarth er mwyn darparu monitro effeithiol a gwerthuso’r prosiect
  • Cefnogi’r broses o werthuso’r rhaglen gan ddefnyddio arolygon a holiaduron
  • Atgyfeirio ymlaen yn fewnol ac yn allanol er mwyn darparu pecyn cefnogaeth holistaidd ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau. 

Beth rydyn ni’n ei gynnig:

  • Gwyliau - 27 diwrnod, yn cynnwys 24 diwrnod o’ch dewis chi, a 3 diwrnod i’w defnyddio rhwng y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd - yn cynnwys opsiwn i gario gwyliau ymlaen i’r flwyddyn newydd.
  • Cynllun Gweithio Oriau Hyblyg
  • Pensiwn Cyflogwr
  • Sicrwydd bywyd hael hyd at bedair gwaith eich cyflog blynyddol
  • Cynllun taliad arian-yn-ôl gofal iechyd

Sut ydw i’n ymgeisio am y rôl hon?

Anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol yn egluro sut rydych chi’n bodloni’r meini prawf ar gyfer y rôl hon. Ni fydd eich ymgais yn cael ei hystyried heb y llythyr eglurhaol.

E-bostiwch eich CV a llythyr eglurhaol i hr@agecymru.org.uk

Swyddog Gwirfoddolwyr Rhanbarthol Gogledd a Chanolbarth Cymru - Swydd ddisgrifiad

Ffurflen Cyfle Cyfartal

Gwybodaeth ychwanegol:

Mae Age Cymru yn gyflogwr Cyfle Cyfartal ac yn annog ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys, waeth beth fo'u hoedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, crefydd neu gred, statws partneriaeth briodasol/sifil, neu feichiogrwydd a mamolaeth. Rydym yn croesawu ceisiadau am weithio'n hyblyg.

Mae Age Cymru wedi ymrwymo i ddiogelu oedolion sydd yn agored i niwed, a phlant, rhag camdriniaeth ac esgeulustod. Rydym yn disgwyl i bawb sy'n gweithio gyda ni rannu'r ymrwymiad hwn.

Anogir ceisiadau cynnar gan y byddwn yn adolygu ceisiadau drwy gydol y cyfnod hysbysebu ac yn cadw'r hawl i gau'r hysbyseb ar unrhyw adeg.

 

Last updated: Ebr 25 2024

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top