Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n polisi. Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a darganfod sut y gallwch chi newid gosodiad cwcis eich porwr
Skip to content
Cyfrannwch

Sut i addasu i fyw ar eich pen eich hun

Sut i addasu i fyw ar eich pen eich hun

Am amryw o resymau, efallai y byddwch chi'n byw ar eich pen eich hun ar ryw adeg yn ystod eich bywyd. Ond gydag ychydig o help, gallwn addasu i fyw ar ein pen ein hunain.

Sut galla i ymdopi?

Mae manteision ac anfanteision wrth fyw ar eich pen eich hun. Efallai y bydd problemau emosiynol i chi ddelio â nhw. Er enghraifft, os ydych chi wedi cael profedigaeth neu wedi cael ysgariad yn ddiweddar. Does dim ffordd gywir nac anghywir o ymdopi â'r newid. Mae gan bawb ffordd wahanol o ymdopi, ac efallai y bydd rhai pobl yn cymryd mwy o amser nag eraill i ddod i delerau â byw ar eu pen eu hunain.

Mae teulu a ffrindiau'n ffynhonnell naturiol o gefnogaeth emosiynol. Efallai na fydd teulu a ffrindiau gan nifer o bobl. Efallai y bydd yn well gennych siarad â rhywun newydd.

Gall cwnselydd eich helpu i fynegi eich emosiynau, archwilio eich teimladau a'ch helpu i ddatrys unrhyw broblemau. Mae cefnogaeth am ddim i bobl sydd wedi profi profedigaeth (e.e. Gofal Profedigaeth Cruse), neu efallai y bydd eich meddyg teulu'n gallu argymell cwnsela.

Gwybodaeth a chyngor ynghylch profedigaeth

Eich opsiynau ynghylch tai

Eich opsiynau ynghylch tai

Os ydych chi'n poeni am aros yn eich cartref presennol, naill ai oherwydd ei fod yn adeilad rhy fawr neu rydych yn poeni am gyllid, yna efallai bydd ein gwybodaeth am opsiynau tai yn ddefnyddiol.

Opsiynau tai


Bydd fy mhensiwn neu fudd-daliadau yn newid os ydw i'n byw ar fy mhen fy hun?

Cysylltwch â'r Gwasanaeth Pensiwn i gael rhagor o wybodaeth am eich Pensiwn Gwladol

Efallai y byddwch yn gallu derbyn rhan o bensiwn personol neu bensiwn gwaith eich cynbartner os oes un ar gael. Cysylltwch â darparwr pensiwn eich partner i gael mwy o wybodaeth.

Gwirio budd-daliadau

Os ydych chi'n byw ar eich pen eich hun, dylech fedru tynnu 25% oddi ar eich bil Treth y Cyngor. Os yw'ch incwm a'ch cynilion yn is na lefelau penodol, efallai y bydd gennych hawl i dderbyn budd-daliadau sy'n destun prawf modd - fel Credyd Pensiwn neu Fudd-dal Tai. Cysylltwch â Llinell Gyngor Age Cymru i gael gwybodaeth am fudd-daliadau neu i ddefnyddio ein cyfrifiannell budd-daliadau ar-lein. Mae’n cymryd tua 10 munud cyn siarad ag unigolyn o Age Cymru. Defnyddio'r cyfrifiannell


A all unrhyw elusennau fy helpu?

Os ydych chi wedi hawlio popeth mae gennych hawl iddo ac yn dal i'w chael hi'n anodd ymdopi, gall rhai elusennau helpu.

Mae cronfeydd gymwynasol yn cael eu sefydlu gan elusennau i helpu pobl mewn amgylchiadau penodol. Gallant fod yn seiliedig ar alwedigaeth benodol, crefydd, problemau iechyd neu anabledd.

I ddod o hyd i elusennau sy'n cynnig help ariannol, cysylltwch â Turn2us neu Grantsforindividuals.org.uk.


Sut alla i gwrdd â phobl newydd?

Sut alla i gwrdd â phobl newydd?

Yn aml mae pobl yn ei chael hi'n anodd mynd allan i gymdeithasu. Meddyliwch am y cwestiynau hyn i gael rhai syniadau ar gyfarfod pobl newydd:

- Beth oeddech chi arfer mwynhau? Hoffech chi roi cynnig ar hyn unwaith eto?

- Oes rhai gweithgareddau nad ydych chi erioed wedi'u gwneud ond hoffech chi roi cynnig arnyn nhw?

- A fyddai'n helpu pe gallech wneud gweithgaredd gyda rhywun arall? Os felly, ydych chi'n adnabod rhywun ag uchelgais tebyg?

- Hoffech chi barhau i ddysgu? Gallwch ddysgu rhywbeth ymarferol, neu astudio er mwyn mwynhau dysgu rhywbeth newydd. Efallai bod cangen o Brifysgol y Drydedd Oes (U3A) yn eich ardal chi. Maent yn cynnig cyrsiau i bobl sydd wedi ymddeol gan gynnwys cyrsiau celf a chrefft, hanes a chyfrifiaduron, yn ogystal â phrydau bwyd a theithiau, fel mynd i gyngherddau neu'r theatr.

- Ydych chi erioed wedi ystyried gwirfoddoli? Gall helpu eraill ganolbwyntio eich meddwl a'ch atgoffa bod gennych chi rywbeth gwerthfawr i'w gynnig.


Beth ddylwn i'w wneud nesaf?

1. Gwnewch amserlen ar gyfer eich tasgau yn eich cartref.

2. Cynlluniwch ddigwyddiadau cymdeithasol neu ystyriwch weithgareddau newydd yr hoffech roi cynnig arnynt.

3. Adolygwch eich cyllid a chreu cyllideb ar gyfer y mis nesaf.

4. Dewch o hyd i wybodaeth am bensiynau a budd-daliadau.

5. Cysylltwch ag Age Cymru i ddod o hyd i wybodaeth am weithgareddau cymdeithasol yn eich ardal chi.

Am fwy o wybodaeth ffoniwch Gyngor Age Cymru ar 0300 303 44 98

 

Last updated: Ion 12 2023

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top