Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n polisi. Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a darganfod sut y gallwch chi newid gosodiad cwcis eich porwr
Skip to content
Cyfrannwch

Paratowch ar gyfer y gaeaf gydag Age Cymru a Nyth

Two ladies sitting together

Paratowch ar gyfer y gaeaf gydag Age Cymru a Nyth

Beth yw Paratoi ar gyfer y Gaeaf?

Mae Paratoi ar gyfer y Gaeaf yn ymgyrch dan arweiniad Age Cymru a chynllun Nyth Cartrefi Cynnes Llywodraeth Cymru i helpu pobl hŷn Cymru i baratoi ar gyfer y misoedd oerach o’u blaenau.

Mae'r cynnydd mewn biliau ynni a’r argyfwng costau byw yn golygu ei fod yn bwysicach nag erioed i wneud yr hyn sydd angen er mwyn cadw'ch cartref yn gynnes, a chadw’ch hun yn ddiogel yn ystod y gaeaf.

Gall hyn olygu nifer o bethau gwahanol, yn cynnwys: gwasanaethu eich boeler, gwneud ychydig o newidiadau i helpu i arbed ynni, bod yn ymwybodol o bwy sydd angen i chi gysylltu â nhw i gael cymorth ychwanegol. Beth bynnag sydd angen, mae yna sawl cam bach y gallwch eu cymryd i #BaratoiArGyferYGaeaf.

Sut all Age Cymru helpu?

Mae Cyngor Age Cymru wedi ymrwymo i fod y gwasanaeth gwybodaeth a chyngor mwyaf blaenllaw ar faterion sy'n effeithio ar bobl hŷn yng Nghymru. Rydym yn darparu gwybodaeth a chyngor cyfrinachol, diduedd ac arbenigol i bobl hŷn, eu teuluoedd, ffrindiau, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol.

Ein gweledigaeth ni yw bod gan bob person hŷn yng Nghymru ddewis a rheolaeth dros eu bywydau eu hun gyda mynediad hawdd i'r wybodaeth a'r cyngor sydd ei angen i helpu i wireddu hynny.

Mwy o wybodaeth am beth mae Age Cymru'n ei wneud

Sut gall Nyth helpu?

Nod cynllun Nyth Cartrefi Cynnes Llywodraeth Cymru yw gwneud cartrefi'n gynhesach ac yn llefydd mwy ynni-effeithlon.

Mae Nyth yn cynnig ystod o gyngor diduedd am ddim ac, os ydych yn gymwys, pecyn o welliannau effeithlonrwydd ynni cartref am ddim a all gynnwys boeler newydd, gwres canolog, insiwleiddio, neu baneli solar. Gall hyn ostwng eich biliau ynni a bod o fudd i'ch iechyd a'ch lles.

Mae miloedd o gartrefi yng Nghymru wedi cael gwelliannau effeithlonrwydd ynni cartref am ddim gan Nyth, gan helpu i leihau biliau ynni a chadw cartrefi'n gyfforddus trwy gydol y flwyddyn.

Ffoniwch 0808 808 2244 neu ewch i nyth.llyw.cymru i gael gwybod mwy.

Sut gallwch chi #BaratoiArGyferYGaeaf

Mae Age Cymru a Nyth yma i chi gyda chyngor a chefnogaeth am ddim ynglŷn â beth ddylech chi ei wneud i baratoi ar gyfer y misoedd oerach.

Gwiriwch a ydych yn gymwys i dderbyn Credyd Pensiwn

Budd-dal ar gyfer pobl dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth yw Credyd Pensiwn. Mae'n cael ei ychwanegu at eich incwm os ydych chi'n ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd.

Os ydych yn gymwys i dderbyn Credyd Pensiwn, gallech chi hefyd fod yn gymwys ar gyfer budd-daliadau eraill hefyd.

Mae'n werth gwirio a ydych yn gymwys, hyd yn oed os ydych chi wedi gwirio o'r blaen. Efallai bod eich amgylchiadau wedi newid, a allai olygu eich bod nawr yn gymwys i dderbyn Credyd Pensiwn hyd yn oed os nad oeddech chi'n flaenorol.

I wneud hawliad am Gredyd Pensiwn ffoniwch linell hawlio Credyd Pensiwn yr Adran Gwaith a Phensiynau yn uniongyrchol ar 0800 99 1234 neu ewch i www.gov.uk/pension-credit/how-to-claim . Gellir ei hawlio dros y ffôn ac ar-lein.

Mwy o wybodaeth am Gredyd Pensiwn

 

Last updated: Ion 11 2023

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top