Cynorthwyo a Chysylltu
Gwasanaeth cynorthwyo wyneb yn wyneb o fewn y gymuned yw Cynorthwyo a Chysylltu. Mae gwirfoddolwyr yn cael eu paru gydag aelod o’u cymuned sydd angen help.
Byddwch chi’n darparu cefnogaeth mewn nifer o ffyrdd, yn cynnwys:
- Eu helpu i gymdeithasu a chwilio am gyfleoedd iddyn nhw gwrdd â phobl newydd
- Eu helpu i ddod o hyd i wybodaeth, cyngor, arweiniad a mathau eraill o gefnogaeth
- Cefnogaeth lefel isel o gwmpas y tŷ
- Teimlo’n ddiogel yn y gymdogaeth
- Cadw trefn ar faterion personol
- Cefnogi annibyniaeth weithredol.
Mae cefnogi cleientiaid i fynychu gwasanaethau eraill sy’n diwallu eu hanghenion yn y gymuned yn elfen hanfodol o’r gwaith.
Mae’r gwasanaeth yn gweithio’n agos gyda phartneriaid a rhanddeiliaid ym mhob sector sydd â gwybodaeth arbenigol am eu cymunedau lleol a’r gwasanaethau a’r gefnogaeth sydd ar gael.
A hoffech chi wneud atgyfeiriad i’r gwasanaeth Cynorthwyo a Chysylltu?
Gallwch chi gwblhau’r ffurflen ar-lein, neu lawrlwytho copi a’i hanfon atom drwy e-bost.
Cwblhewch ein ffurflen atgyfeirio ar-lein
Lawrlwythwch ffurflen atgyfeirio bapur
A hoffech chi fod yn wirfoddolwr Cynorthwyo a Chysylltu yn eich ardal?
Dewch o hyd i wybodaeth am sut i ymuno
Os hoffech chi mwy o wybodaeth am y gwasanaeth Cynorthwyo a Chysylltu, cysylltwch â’r tîm drwy ffonio 07425 422270 neu e-bostiwch CAPassist@agecymru.org.uk
Mwy o wybodaeth
Mwy o wybodaeth am y Prosiect Cymorth Cymunedol
Mwy o wybodaeth am y Gwasanaeth Gwrando a Chysylltu
Manylion cyswllt ar gyfer tîm y Prosiect Cynorthwyo Cymunedol