Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n polisi. Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a darganfod sut y gallwch chi newid gosodiad cwcis eich porwr
Skip to content
Cyfrannwch

Partneriaeth Cymru yn Erbyn Sgamiau

imagetfzeh.png

Mae Partneriaeth Cymru yn Erbyn Sgamiau yn rhwydwaith o sefydliadau sydd wedi ymrwymo i ymladd yn erbyn twyll yng Nghymru.

Sefydlwyd Partneriaeth Cymru yn Erbyn Sgamiau gan Age Cymru a Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru gyda'r nod o wneud yn siŵr nad yw Cymru'n dioddef oherwydd y bobl hynny sy’n cyflawni sgamiau, ar garreg y drws, drwy'r post, dros y ffôn neu ar-lein. Ers 2023, mae Age Cymru wedi rheoli’r bartneriaeth.

Mae aelodau'r bartneriaeth yn cynnwys Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Safonau Masnach, Swyddfa Cyngor ar Bopeth, Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, Get Safe Online, Nyth, Gofal a Thrwsio, Swyddfa'r Post, holl heddluoedd Cymru, banciau Natwest, Barclays a HSBC, a mwy.

Nod y grŵp yw gwneud Cymru'n lle mwy diogel i bobl sy’n agored i niwed drwy rannu gwybodaeth gyfredol a brwydro yn erbyn sgamiau ledled Cymru.

Effaith sgamiau

Gall cael eich targedu gan sgâm gael effaith ddinistriol ar ddioddefwyr a'u teulu a'u ffrindiau. Nid arian yn unig sy’n cael ei effeithio - gall sgâm achosi niwed parhaol i iechyd meddwl a chorfforol.

Mae sgamiau'n targedu pawb a gallai pob un ohonom gael ein twyllo ganddynt. Mae twyll yn dod yn fwyfwy cymhleth, gyda phandemig Covid-19 a chostau byw cynyddol yn golygu bod mathau newydd a mwy soffistigedig o sgamiau, ac mae llawer ohonynt yn digwydd ar-lein. Mae tua 15,000 o achosion o dwyll yn cael eu nodi bob blwyddyn yng Nghymru – sydd ond yn cynrychioli un rhan o saith o'r nifer amcangyfrifedig o achosion a gyflawnwyd.

Mae pobl hŷn yn cael eu targedu'n aml gan sgamwyr, ac amcangyfrifir bod dioddefwyr hŷn yn colli £1,200 yr un ar gyfartaledd i sgamiau yn ystod eu hoes. Mae rhai pobl hefyd yn agored i sgamiau oherwydd ffactorau fel tlodi, unigedd, bregusrwydd a nam gwybyddol. Fodd bynnag, gall pobl o unrhyw oedran neu allu gael eu heffeithio gan sgamiau.

Ni fydd sgamiau'n diflannu heb newid systemig ar raddfa fawr. Tan hynny, mae'n rhaid i ni weithio er mwyn herio twyll yn ein cymdeithas. Ni fydd hyn yn hawdd a chredwn fod gweithio mewn partneriaeth yn hanfodol er mwyn i ni allu rhannu ein gwybodaeth gyda sefydliadau a'r cyhoedd.

Dydyn ni ddim eisiau bod Cymru’n cael ei hystyried yn le lle mae sgamwyr yn medru gweithredu’n hawdd. Rydyn ni eisiau arwain gweddill y DU wrth rwystro pobl sydd eisiau cam-drin a thwyllo pobl er mwyn cymryd eu harian.

Ymunwch â ni

Mae rhwydwaith Partneriaeth Cymru yn Erbyn Sgamiau bob amser yn chwilio am bartneriaid newydd sydd eisiau cyfrannu at y frwydr yn erbyn sgamiau.

Os ydych chi neu'ch sefydliad eisiau chwarae rhan wrth ddiogelu eich cwsmeriaid neu'r cyhoedd, rydyn ni eisiau clywed wrthych chi. I gysylltu â ni, e-bostiwch: WASP@agecymru.org.uk

Mae Partneriaeth Cymru yn Erbyn Sgamiau hefyd yn cynhyrchu bwletin misol, sy'n cynnwys gwybodaeth am sgamiau poblogaidd, ymgyrchoedd gwrth-dwyll, digwyddiadau partner a straeon newyddion. I gofrestru, cysylltwch â'r cyfeiriad e-bost uchod.

Rhoi gwybod am sgamiau

Mae'r wybodaeth ganlynol yn cael ei ddarparu drwy garedigrwydd Friends Against Scams, menter Safonau Masnach Cenedlaethol.
Os ydych chi neu rywun arall mewn perygl uniongyrchol oherwydd twyll (er enghraifft, rydych chi’n cael eich bygwth gan rywun ymosodol ar garreg eich drws), ffoniwch yr Heddlu ar 999.

I roi gwybod am sgâm:

Action Fraud yw canolfan adrodd genedlaethol y DU ar gyfer twyll a seiberdroseddu. Os ydych wedi dioddef sgâm, neu'n nabod rhywun sydd wedi dioddef sgâm, rhowch wybod i Action Fraud.

Gallwch ymweld â'r wefan neu ffoniwch Action Fraud ar 0300 123 20 40.

Os ydych eisoes wedi ymateb i sgâm drwy wneud taliad, cysylltwch â'ch banc ar unwaith. Efallai y byddant yn gallu adennill rhywfaint o'ch arian a'ch ad-dalu mewn rhai amgylchiadau. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ynglŷn â gofyn i'ch banc am help i gael eich arian yn ôl yn y pecyn cymorth ad-dalu Safonau Masnach Cenedlaethol

Cyngor ar sgamiau:

Gall Gwasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth gynnig cymorth os ydych chi neu rywun rydych chi'n ei nabod wedi dioddef sgam.
Gallwch ymweld â'r wefan neu ffoniwch Wasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1133 (ar gyfer Saesneg) neu 0808 223 1144 (ar gyfer y Gymraeg).

Partneriaeth Cymru yn Erbyn Sgamiau

 

Last updated: Ebr 24 2024

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top