Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n polisi. Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a darganfod sut y gallwch chi newid gosodiad cwcis eich porwr
Skip to content
Cyfrannwch

Materion yn ymwneud â diwedd oes unigolyn

Materion yn ymwneud â diwedd oes unigolyn

Mae cynllunio ar gyfer diwedd eich bywyd yn brofiad sensitif a phersonol iawn. Mae'n bwysig eich bod chi'n gwneud yr hyn sy'n teimlo'n iawn i chi, pan fydd yr amser yn iawn. Ond gall fod yn ymwybodol o’r holl wybodaeth sydd ei angen arnoch fod yn ddefnyddiol. Gall eich helpu i deimlo mwy o reolaeth a gallwch fod yn hyderus bod eich dymuniadau wedi eu nodi.

Canllaw Gwybodaeth 51: Meddwl am ddiwedd eich oes a gwybodaeth ddefnyddiol am y pwnc hwn.


Sut ydw i'n siarad gyda fy ffrindiau a fy nheulu?

Gall siarad â theulu a ffrindiau eu helpu i wybod beth yw eich dymuniadau a'ch dewisiadau wrth i chi gyrraedd diwedd eich oes. Gall y sgyrsiau hyn fod yn anodd ond gall yr awgrymiadau canlynol helpu:

- Gadewch i'ch teulu wybod mewn da bryd beth rydych chi am ei drafod er mwyn osgoi sioc

- Dewiswch amser a man lle na fydd neb yn tarfu arnoch nac yn eich rhuthro

- Peidiwch â phoeni am geisio trafod popeth yn ystod un sgwrs

- Ystyriwch ysgrifennu nodiadau ymlaen llaw am yr hyn rydych am ei drafod

- Peidiwch â theimlo cywilydd os oes unrhyw un ohonoch chi'n teimlo’n emosiynol. Byddwch yn onest a siaradwch am eich holl deimladau, nid dim ond y rhai positif.

Efallai na fydd eich teulu a’ch ffrindiau eisiau cynnal y sgyrsiau yma - efallai nad ydyn nhw eisiau meddwl am eich marwolaeth, neu maen nhw'n poeni am ddweud y peth anghywir. Efallai y byddai'n tawelu meddyliau eich teulu a'ch ffrindiau petaech yn dweud wrthyn nhw y byddai'n eich helpu chi i siarad. Cofiwch nad oes ffordd gywir nac anghywir i ddechrau'r sgyrsiau hyn. Dewiswch y bobl rydych chi eisiau siarad â nhw. Rhannwch yr wybodaeth yr ydych chi'n teimlo'n gyfforddus yn ei rannu. Ac os nad ydych chi eisiau siarad, mae hynny'n berffaith iawn.

Cysylltwch â Dying Matters i gael taflenni am sut i ddechrau sgyrsiau am farw, marwolaeth a phrofedigaeth


Siarad â'ch meddyg teulu


Siarad â'ch meddyg teulu

Os ydych wedi cael diagnosis o salwch sy'n cyfyngu ar eich bywyd, siaradwch â'ch meddyg teulu a'ch tîm meddygol am unrhyw gwestiynau, pryderon neu ofnau sydd gennych chi a'ch teulu a'ch ffrindiau. Dylai eich meddyg esbonio eich cyflwr a'ch opsiynau am driniaeth mewn ffordd rydych chi'n deall gan ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.

Gallai fod yn ddefnyddiol trafod y pynciau canlynol:

- beth i'w ddisgwyl wrth i'ch salwch ddatblygu

- manteision ac anfanteision eich opsiynau ar gyfer cael triniaeth

- unrhyw driniaethau nad ydych am eu derbyn

- eich disgwyliad oes

- lle hoffech chi farw

- y gwahanol ddulliau o leddfu poen sydd ar gael

- y gefnogaeth ymarferol ac emosiynol sydd ar gael

- y newidiadau corfforol ac emosiynol y gallech chi eu profi.

Yn dibynnu ar eich cyflwr efallai y bydd llinell gymorth yn cael ei gynnal gan nyrsys a chynghorwyr arbenigol sy'n gallu cynnig cyngor ymarferol a chymorth emosiynol i chi. Er enghraifft:

Mae gan Macmillan Cancer Support linell gymorth

Mae gan Sefydliad Ysgyfaint Prydain linell gymorth arbenigol i bobl gyda COPD

Mae gan Alzheimer's Society a Dementia UK linellau cymorth i'r rhai sy'n cael eu heffeithio gan ddementia


Sut y gallaf gynllunio ar gyfer fy ngofal yn y dyfodol?

Mae cynllunio gofal ymlaen llaw yn fath penodol o gynllunio gofal diwedd oes. Mae'n golygu meddwl am sut yr hoffech chi dderbyn gofal yn y dyfodol os ydych chi'n colli'r gallu i wneud penderfyniadau eich hun. Mae cynllunio gofal ymlaen llaw yn cynnwys:

- sgyrsiau rhyngoch chi, eich teulu a'ch tîm meddygol am eich cyflwr a sut yr hoffech dderbyn gofal wrth i'ch cyflwr ddatblygu

- gwneud datganiad ymlaen llaw o’ch dymuniadau, sy'n dweud wrth y rhai sy'n ymwneud â'ch gofal sut yr hoffech dderbyn gofal

- gwneud penderfyniad ymlaen llaw i wrthod triniaeth mewn amgylchiadau penodol, sy'n gyfreithiol rwymol ac mae'n rhaid i bawb sy'n ymwneud â'ch gofal ddilyn eich penderfyniad

- creu Atwrneiaeth Arhosol sy'n rhoi awdurdod cyfreithiol i rywun rydych chi'n ymddiried ynddo i wneud penderfyniadau ar eich rhan. Bydd hyn ddim ond yn digwydd os nad ydych chi'n gallu gwneud penderfyniadau mwyach, neu dydych chi ddim eisiau gwneud penderfyniadau eich hun mwyach.


Cynlluniwch eich angladd

Gall Cruse Bereavement Care gynnig cefnogaeth a gwybodaeth i'ch anwyliaid ar ôl i chi farw.

Gall ein canllawiau gwybodaeth canlynol fod o gymorth hefyd:

Canllaw Gwybodaeth 32: Profedigaeth

Canllaw Gwybodaeth 03: Pan fydd rhywun yn marw

Am fwy o wybodaeth ffoniwch Gyngor Age Cymru ar 0300 303 44 98

 

Last updated: Ion 12 2023

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top