Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n polisi. Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a darganfod sut y gallwch chi newid gosodiad cwcis eich porwr
Skip to content
Cyfrannwch

Camdriniaeth emosiynol neu seicolegol

Mae camdriniaeth seicolegol neu emosiynol yn cynnwys bygythiadau o niwed neu bygythiadau bydd yr unigolyn yn cael ei adael heb unrhyw gymorth, colli cysylltiad, bychanu, beio, rheoli, bygwth, gorfodi, aflonyddu, cam-drin geiriol, ynysu neu dynnu'n ôl o wasanaethau neu rwydweithiau cefnogol.

Arwyddion posibl o gam-drin emosiynol / seicolegol

  • Mae gofalwr neu aelod o'r teulu yn ynysu'r oedolyn sydd angen gofal a chymorth yn fwriadol, a gwrthod heb reswm da i ganiatáu iddynt weld pobl eraill heb iddynt fod yn bresennol
  • Bod yn betrusgar ac yn ofnus wrth siarad yn agored am bryderon
  • Dicter, trallod emosiynol neu gynnwrf heb achos amlwg
  • Newidiadau sydyn mewn ymddygiad a phersonoliaeth (fel yr unigolyn yn tynnu'n ôl yn eithriadol ac yn amharod i siarad neu'n anymatebol)
  • Ymddygiad hunan-niweidiol neu hunan-niweidio anarferol (sugno, brathu neu siglo)
  • Yr oedolyn sydd angen gofal a chymorth yn dweud wrthych eu bod yn cael eu cam-drin ar lafar neu'n emosiynol.

 

Last updated: Maw 08 2024

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top