Dod yn Wirfoddolwr Cymorth Cymunedol
Ymunwch â ni fel Gwirfoddolwr Cynorthwyo Cymunedol gyda’n gwasanaethau Cynorthwyo a Chysylltu neu Wrando a Chysylltu.
Rydyn ni angen eich help chi i gefnogi pobl hŷn yn eich cymuned drwy ein Prosiect Cynorthwyo Cymunedol.
Mae gennym ni nifer o rolau gwirfoddol ar gyfer amrywiaeth o ddiddordebau, a gallwch ymrwymo am gyfnodau o amser sy’n gyfleus i chi.
Mae’r prosiect yn darparu dau wasanaeth: Mae Cynorthwyo a Chysylltu’n wasanaeth sy’n darparu cefnogaeth wyneb yn wyneb yn y gymuned, ac mae Gwrando a Chysylltu’n wasanaeth gwrando dros y ffôn.
Mae’r ddau wasanaeth yn darparu cyfeillgarwch, cyfleoedd i sgwrsio, a chefnogaeth, gan helpu pobl i ymdopi ag unigrwydd, ynysigrwydd a phryder.
Cynorthwyo a Chysylltu
Mae Cynorthwyo a Chysylltu’n wasanaeth wyneb yn wyneb. Mae gwirfoddolwyr yn cael eu paru gydag aelod o’u cymuned sydd angen cefnogaeth. Ein nod yw gwella lles a gwytnwch pobl hŷn drwy gynnal sgyrsiau arweiniol sy’n ystyried y person cyfan.
Gwirfoddolwyr: Rydyn ni’n recriwtio gwirfoddolwyr ledled Cymru ym mhob awdurdod lleol. Rydyn ni’n asesu sgiliau a diddordebau pob gwirfoddolwr er mwyn ein galluogi i baru person hŷn gyda’r gwirfoddolwr cywir. Mae gwirfoddolwyr yn gweithio gyda’r person hŷn gan eu cefnogi i roi trefn ar eu bywydau.
Am bwy ydyn ni’n chwilio? Unrhyw un sy’n barod i gefnogi person hŷn yn eu cymuned, sy’n medru rhoi o leiaf awr yr wythnos o’u hamser.
Disgrifiad o’r Rôl Wirfoddol gyda’r tîm Cynorthwyo a Chysylltu
Gwrando a Chysylltu
Gwasanaeth gwrando yw Gwrando a Chysylltu ar gyfer pobl sy’n teimlo’n unig ac ynysig. Mae’r gwasanaeth yn darparu lle diogel i bobl gael siarad, a derbyn cefnogaeth gyda materion sy’n bwysig iddyn nhw.
Gwirfoddolwyr: Mae gwirfoddolwyr yn medru gweithio mewn lleoliad sy’n gyfleus iddyn nhw. Maen nhw’n rhoi eu hamser i gleientiaid, yn gwrando ar eu straeon, eu pryderon ac yn rhoi cyfle iddyn nhw adlewyrchu. Mae gwirfoddolwyr yn darparu help a chefnogaeth er mwyn bod eu cleientiaid yn medru rhoi trefn ar eu bywydau.
Am bwy ydyn ni’n chwilio? Rydyn ni’n chwilio am bobl sy’n medru rhoi 2-3 awr yr wythnos i gymryd galwadau wrth bobl hŷn sydd eisiau sgwrsio.
Disgrifiad o’r rôl wirfoddol gyda’r tîm Gwrando a Chysylltu
Pa gefnogaeth sy’n cael ei gynnig?
Bydd holl wirfoddolwyr y Prosiect Cymorth Cymunedol yn derbyn hyfforddiant cynhwysfawr a byddwn yn eu cefnogi pob cam o’r ffordd. Mae gwirfoddolwyr yn cael cyfle i gysylltu gydag eraill, ac maen nhw’n cael boddhad wrth wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau’r bobl rydyn ni’n eu cefnogi.
Os hoffech chi wybodaeth ychwanegol, neu os hoffech chi ymgeisio i fod yn Wirfoddolwr Cynorthwyo Cymunedol cysylltwch â ni
Mwy o wybodaeth
Mwy o wybodaeth am y Prosiect Cynorthwyo Cymunedol