Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n polisi. Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a darganfod sut y gallwch chi newid gosodiad cwcis eich porwr
Skip to content
Cyfrannwch

Pam dod yn bartner corfforaethol?

Drwy weithio gydag Age Cymru, gall eich busnes wneud bywyd yn well ar gyfer pobl hŷn. Gall weithio gydag Age Cymru hefyd wneud eich busnes chi hyd yn oed yn well hefyd.

1. Mae ein hachos ni’n bwysig – i bawb sy'n bwysig i chi

Rydyn ni i gyd yn byw yn hirach. Bydd un o bob pump ohonon ni yn byw i fod yn 100.

Gall Age Cymru eich helpu chi i ddeall eich cwsmeriaid hŷn a gwneud y gorau o’u potensial. Gallwn hefyd helpu eich staff i gefnogi eu hanwyliaid hŷn a chynllunio ar gyfer yn hwyrach yn eu bywydau eu hunain. Helpwch ni i'ch helpu chi – cysylltwch â ni heddiw.

 

2. Rydyn ni'n frwdfrydig am godi arian

Byddwn yn ysbrydoli staff a chwsmeriaid i godi arian, cael hwyl a theimlo'n wych

Mae gennym galendr gwych o ddigwyddiadau codi arian a bydd ein tîm yn eich cefnogi bob cam o'r ffordd. Felly os ydych chi'n dewis Elusen y Flwyddyn neu os ydych chi'n ystyried partneriaeth farchnata sy'n gysylltiedig ag achos - cysylltwch heddiw.

 
 

3. Bydd eich cefnogaeth yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol

Mae pobl hŷn Cymru angen cefnogaeth Age Cymru ar frys. Allwn ni ddim eu cyrraedd nhw i gyd heboch chi.

  • Gallai eich gweithwyr wirfoddoli fel ffrindiau dros y ffôn ar gyfer ein gwasanaeth cyfeillio, Ffrind Mewn Angen.

    Gallai eich rhodd gorfforaethol ariannu prosiectau a gwasanaethau hanfodol Age Cymru sy'n gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau pobl hŷn.

    Gallai eich nawdd ein helpu i gynnal ein digwyddiad codi arian newydd, Y Cam Mawr.

    Fe allwn ni newid y byd ar gyfer pobl hŷn os ydyn ni'n gweithio gyda'n gilydd. I gael gwybod mwy am sut fedrwn ni gydweithio rhowch alwad i'n tîm ar 029 2043 1555 neu anfonwch e-bost atom: fundraising@agecymru.org.uk

 

Last updated: Rhag 05 2022

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top