Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n polisi. Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a darganfod sut y gallwch chi newid gosodiad cwcis eich porwr
Skip to content
Cyfrannwch

Hawliau yn y gwaith

Gan ein bod ni'n treulio cymaint o'n hamser yn y gwaith, mae'n bwysig ein bod ni'n gwybod beth yw ein hawliau cyflogaeth.

Beth yw fy statws cyflogaeth?
Beth sydd gen i hawl iddo yn y gwaith?
Tâl Salwch Statudol
Oes gennyf hawl i weithio'n hyblyg?
Oes modd fy ngorfodi i ymddeol?
Beth ddylwn i ei wneud nesaf?

Mae eich hawliau yn y gwaith yn dibynnu ar eich statws cyflogaeth, er enghraifft, a ydych yn cael eich diffinio fel gweithiwr neu ydych chi’n hunangyflogedig. Rydyn ni'n esbonio'r gwahaniaeth isod.

Gweithiwr 

Rydych chi'n cael eich ystyried yn weithiwr pan fyddwch chi'n:

  • gweithio o dan gontract cyflogaeth, sy'n cytuno ar delerau megis tâl, gwyliau blynyddol, ac oriau gwaith.
  • gorfod gwneud y gwaith hwn eich hun a dilyn cyfarwyddiadau cyfreithlon y cyflogwr.

Mae angen isafswm hyd cyflogaeth barhaus ar gyfer rai hawliau cyn y gallwch fod yn gymwys ar eu cyfer. Gall eich contract cyflogaeth ddatgan pa mor hir yw cyfnod y cymhwyster hwn.

Gall eich contract hefyd gynnwys telerau ac amodau sy'n fwy hael na'r rhai y mae'n rhaid i'ch cyflogwr eu darparu yn ôl y gyfraith. Fodd bynnag, os ydynt yn darparu llai na'r hawliau cyfreithiol sylfaenol, mae hyn yn anghyfreithlon. Does dim rhaid ysgrifennu contract i chi gael hawliau - os nad oes darn o bapur, bydd yr hyn a gytunwyd ar lafar yn berthnasol.

Hunangyflogedig

Rydych yn hunangyflogedig os ydych yn:

  • rhedeg eich busnes eich hun a chymryd cyfrifoldeb am ei lwyddiant neu ei fethiant
  • gyfrifol am dalu eich treth eich hun ac yswiriant gwladol
  • darparu'r deunyddiau, yr offer neu'r adnoddau sydd eu hangen arnoch i wneud y gwaith.

Gallwch fod yn gyflogedig ac yn hunangyflogedig, os ydych yn gweithio i gyflogwr yn ystod y dydd a rhedeg eich busnes eich hun yn eich amser rhydd.

Dydy cyfraith cyflogaeth ddim yn cynnwys rhywun sy'n hunangyflogedig. Fodd bynnag, mae amddiffyniadau o hyd i'ch iechyd a'ch diogelwch, ac mewn rhai achosion yn erbyn gwahaniaethu yn y gwaith.

Ewch i GOV.UK am fwy o wybodaeth am hunangyflogaeth

Gweithiwr achlysurol

Rydych yn debygol o fod yn weithiwr achlysurol os yw'r rhan fwyaf o'r rhain yn berthnasol:

  • rydych yn gweithio i fusnes penodol o bryd i'w gilydd
  • does dim rhaid i'r busnes gynnig gwaith i chi a does dim rhaid i chi ei dderbyn - dim ond pan rydych chi'n dymuno
  • mae eich contract gyda'r busnes yn defnyddio termau fel 'achlysurol', 'llawrydd', 'yn ôl y gofyn' neu rywbeth tebyg
  • roedd rhaid cytuno gyda thelerau ac amodau'r busnes i gael gwaith - naill ai ar lafar neu yn ysgrifenedig
  • rydych chi o dan oruchwyliaeth neu reolaeth rheolwr neu gyfarwyddwr
  • fedrwch chi ddim anfon rhywun arall i wneud eich gwaith
  • mae'r busnes yn didynnu treth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol o'ch cyflogau
  • mae'r busnes yn darparu deunyddiau, offer neu adnoddau sydd eu hangen arnoch i wneud y gwaith.

Bydd eich hawliau fel gweithiwr achlysurol yn dibynnu os ydych yn cael eich ystyried yn ôl y gyfraith fel gweithiwr neu gweithiwr hunangyflogedig, a bydd hyn yn dibynnu ar eich amgylchiadau unigol.

Fel arfer bydd y categori gweithiwr hefyd yn cynnwys gweithwyr asiantaeth. Mae gweithiwr asiantaeth yn cael ei gyflenwi gan asiantaeth waith i gyflogwr i wneud gwaith ar eu cyfer. Mae'r gwaith fel arfer am gyfnod dros dro. Mae gan weithwyr asiantaeth hawliau penodol o'r diwrnod cyntaf yn y gwaith.

Os ydych yn dal yn ansicr pa un sy'n berthnasol i chi, cysylltwch ag ACAS (y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu)

Beth sydd gen i hawl i yn y gwaith?

Bydd eich hawliau cyflogaeth yn dibynnu a ydych chi'n cael eich ystyried yn weithiwr neu'n weithiwr hunangyflogedig. Er enghraifft, mae gan rywun sy'n cael ei ystyried yn weithiwr (worker) hawliau cyflogaeth a chyfrifoldebau cyflogaeth ychwanegol sydd ddim yn berthnasol i'r rhai sy'n cael eu diffinio fel gweithwyr (employee).

Trosolwg o'ch hawliau sylfaenol yn y gwaith

Mae gan bob gweithiwr hawl i:

  • yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol
  • amddiffyniad rhag didyniadau anghyfreithlon o gyflogau
  • lefel isafswm statudol gwyliau cyflogedig - 28 diwrnod o absenoldeb â thâl ar gyfer gweithwyr llawn amser (gall hyn gynnwys gŵyl y banc)
  • y lleiafswm cyfreithiol o hyd seibiannau gorffwys - o leiaf 20 munud yn ddi-dor os yw rhywun yn gweithio dros chwe awr y dydd
  • ddim yn gweithio mwy na 48 awr ar gyfartaledd yr wythnos, oni bai eu bod yn dewis optio allan o'r hawl yma
  • diogelu rhag gwahaniaethu anghyfreithlon
  • diogelu rhag 'chwythu'r chwiban' - adrodd drwgweithredu yn y gweithle
  • peidio â chael eu trin yn llai ffafriol os ydynt yn gweithio rhan amser

Os ydych chi'n weithiwr asiantaeth, mae gennych yr hawliau hyn. Fodd bynnag, gall eich hawliau newid yn dibynnu ar y math o gontract rydych chi'n ei arwyddo a pha mor hir rydych chi wedi gweithio i'r asiantaeth.

Dysgwch fwy ar wefan Gov.uk

Unwaith y byddwch wedi bod yn sâl am fwy na phedwar diwrnod, mae gennych hawl i SSP am hyd at 28 wythnos, ar yr amod eich bod yn ennill uwchben swm penodol yr wythnos. Mewn gwirionedd, bydd y rhan fwyaf o gyflogwyr yn talu mwy nag y mae'n ofynnol yn gyfreithiol iddynt, ond mae SSP yn amddiffyniad pwysig. Nid oes terfyn oedran uchaf ar gyfer talu Tâl Salwch Statudol.

Ar ôl 28 wythnos, bydd SSP yn dod i ben a bydd angen i chi hawlio naill ai Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (os ydych o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth) neu eich Pensiwn Gwladol.

Mae gan bob gweithiwr, ac eithrio gweithwyr asiantaeth, yr hawl gyfreithiol i ofyn am weithio hyblyg. Mae gennych yr hawl hon os ydych wedi gweithio i'ch cyflogwr yn barhaus am 26 wythnos.

Mae gweithio hyblyg yn golygu bod gennych fwy o ddewis dros pryd a lle rydych chi'n gweithio na chontract safonol. Felly yn hytrach na gweithio o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm, efallai y byddwch chi'n dewis opsiwn gwaith hyblyg. Nid yw gweithio hyblyg ar gyfer rhieni a gofalwyr yn unig. Gallai siwtio llawer o bobl mewn amgylchiadau gwahanol iawn, er enghraifft, y rhai sydd â:

  • chyfrifoldebau gofalu
  • problemau iechyd
  • awydd i ddechrau hobïau newydd, gwirfoddoli neu ddysgu rhywbeth newydd
  • cynlluniau teithio
  • yr awydd i dreulio mwy o amser gyda phartner.

Os ydych chi'n meddwl am ymddeol yn y blynyddoedd nesaf, gallai dechrau gweithio'n hyblyg fod yn ddechrau da i chi. Gall stopio mynd i’r gwaith yn sydyn achosi sioc i'r system, ac mae rhai pobl yn gweld eu bod yn diflasu neu hyd yn oed yn mynd yn isel ar ôl ymddeol. Gallai gweithio hyblyg eich helpu i addasu i'r rhan honno o'ch bywyd mewn ffordd fwy araf.

Mae rhagor o wybodaeth ar wefan GOV.UK

O 1 Hydref 2011 ymlaen, nid yw cyflogwyr bellach yn cael cyhoeddi hysbysiadau ymddeol gorfodol i'w gweithwyr. Dyma'r diwedd ar gyfer yr Oes Ymddeol Ddiofyn (DRA).

Cysylltwch ag ACAS (y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu), sy'n rhedeg llinell gymorth am ddim a all ateb eich cwestiynau am hawliau cyflogaeth a statws cyflogaeth.

 

Last updated: Rhag 12 2022

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top