Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n polisi. Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a darganfod sut y gallwch chi newid gosodiad cwcis eich porwr
Skip to content
Cyfrannwch

GOFAL IECHYD PARHAUS Y GIG

Gofal Iechyd Parhaus y GIG

Beth yw Gofal Iechyd Parhaus y GIG?

Pecyn gofal wedi'i drefnu a'i ariannu gan y GIG yn unig yw Gofal Iechyd Parhaus i ddiwallu anghenion iechyd corfforol a/neu iechyd meddwl sydd wedi cynyddu oherwydd anabledd, damwain neu salwch. Gellir ei ddarparu mewn unrhyw leoliad gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, gartref gofal, hosbis neu eich cartref eich hun.

Penderfynir cymhwysedd drwy gwblhau asesiad llawn lle mae 'natur', 'dwyster', 'cymhlethdod' neu 'anrhagweladwyedd' anghenion iechyd rhywun yn golygu bod yn rhaid iddyn nhw gael eu rheoli'n weithredol gan y GIG. Mae penderfyniadau cymhwysedd ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus yn dibynnu os yw’r angen am ofal yn bennaf oherwydd anghenion iechyd - y cyfeirir atynt yn aml fel 'angen iechyd sylfaenol' (yn hytrach nag angen am ofal oherwydd anghenion gofal cymdeithasol sydd o fewn cylch gwaith adrannau gwasanaethau cymdeithasol). Gall ansawdd a/neu faint o ofal sydd ei angen er mwyn diwallu anghenion unigolyn ddangos 'angen iechyd sylfaenol'.

Enghreifftiau lle y gallai fod yn briodol ystyried cymhwysedd posibl i ofal parhaus y GIG

- Pan fydd rhywun yn barod i gael ei ryddhau o'r ysbyty ac mae eu hanghenion hirdymor o ran gofal a chefnogaeth barhaus yn glir i'r ymarferwyr iechyd a gofal cymdeithasol sydd wedi bod yn gweithio gyda nhw (gweler hefyd ein tudalen ar drefniadau rhyddhau cleifion o ysbytai am ragor o wybodaeth).

- Unwaith y bydd cyfnod o ofal canolradd, adsefydlu neu wasanaeth arall sy'n cael ei ariannu gan y GIG - sy'n cael ei gynnig ar ddiwedd cyfnod o driniaeth aciwt mewn ysbyty - wedi gorffen ac ni chytunir y gellir disgwyl unrhyw welliant pellach yng nghyflwr y claf.

- Pan fydd anghenion gofal cymdeithasol a chymorth rhywun yn cael eu hadolygu drwy asesiad anghenion gofal gan adran gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod lleol.

- Os yw iechyd corfforol neu iechyd meddwl y claf yn dirywio'n sylweddol ac mae'n ymddangos bod lefel y gofal presennol - yn y cartref neu mewn cartref gofal - yn annigonol.

- Pan fydd anghenion gofal nyrsio’r claf, fel preswylydd cartref nyrsio, yn cael eu hadolygu.

- Os oes gan y claf gyflwr sy'n dirywio'n gyflym gyda lefel gynyddol o ddibyniaeth. Gallai’r claf fod yn agosáu at ddiwedd ei oes (yn yr achos hwn efallai y bydd cyflwr y claf yn addas i ddarparu gwasanaethau gofal y GIG trwy lwybr a elwir yn 'llwybr cyflym').

Pwy ddylech chi gysylltu gyda nhw os nad yw gofal iechyd parhaus y GIG wedi cael ei drafod gyda chi?

Mewn amgylchiadau fel y rhai a amlinellir uchod, gallwch drafod mater y gofal iechyd parhaus a'r posibilrwydd o drefnu asesiad i weld os ydych yn gymwys gyda:

- Staff yr ysbyty sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'ch gofal (yn benodol, staff rhyddhau cleifion);

- Staff sydd yn cydlynu eich gofal canolradd;

- Gwasanaethau cymdeithasol;

- Eich meddyg teulu.

Mae gennym daflen ffeithiau fanwl ar ofal iechyd parhaus y GIG yng Nghymru, y gellir ei fynychu isod. Mae hyn yn ymdrin â phynciau gan gynnwys:

- y broses ar gyfer penderfynu os yw rhywun yn gymwys i'w dderbyn;

- sut y bydd y gwasanaethau yn cael eu darparu ar gyfer y rhai sy'n gymwys; a

- beth i'w wneud os ydych yn anhapus â'r penderfyniad a wnaed.

Taflen ffeithiau 20w: Gofal iechyd parhaus y GIG a gofal nyrsio sydd wedi ei ariannu gan y GIG yng Nghymru

Am fwy o wybodaeth ffoniwch Gyngor Age Cymru ar 0300 303 44 98

 

Last updated: Ion 12 2023

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top