Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n polisi. Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a darganfod sut y gallwch chi newid gosodiad cwcis eich porwr
Skip to content
Cyfrannwch

Gwybodaeth a chyngor

Gwybodaeth a chyngor 

Gan ddarparu cymorth drwy ein llinell gyngor aml-sianel a'r llyfrgell enfawr o adnoddau ysgrifenedig, Cyngor Age Cymru yw'r prif ddarparwr gwybodaeth a chyngor i bobl yn ddiweddarach yn eu bywydau. 

Rydym yn cynnig cefnogaeth gydag amrywiaeth o faterion, gan gynnwys; Buddion Lles, Gofal Cymdeithasol, Pensiynau, Dementia, Profedigaeth, Aros yn Ddiogel, Anabledd, Cartrefi Gofal, Hawliau, Gwasanaethau Lleol, Help yn y Cartref, Ewyllysiau ac Atwrneiaeth, Tai, Sgamiau, Gwaith a Dysgu, Ymddeoliad, Iechyd, Gweithgaredd Corfforol, Arian, Arbed Ynni, Cartref a Chymuned, Teithio a Ffordd o Fyw. 

Os ydych chi eisiau siarad â rhywun yn uniongyrchol, yn Gymraeg neu Saesneg, ffoniwch ni ar 0300 303 44 98 ar y gyfradd leol (ar agor rhwng 9:00am a 4:00pm, Llun - Gwener). Anfonwch e-bost atom i'r cyfeiriad e-bost advice@agecymru.org.uk 

Mae'r galw ar ein llinell gyngor yn anhygoel o uchel ar hyn o bryd; mae’r cyfnod hwn yn gyfnod pryderus i nifer o bobl. Mae gennym fwy o gapasiti ar ein llinell ffôn ond mae'n bosib y byddwch yn aros ychydig cyn siarad gyda rhywun. Byddwch yn amyneddgar, byddwn yn paratoi i siarad gyda mor gyflym ag y gallwn. 

Pynciau allweddol

  • Cyngor Age Cymru

    Mae ein llinell gyngor wedi ymrwymo i fod y gwasanaeth gwybodaeth a chyngor mwyaf blaenllaw i bobl hŷn yng Nghymru.
  • Budd-daliadau a hawliau

    Ydych chi'n hawlio popeth sydd gennych hawl iddo?
  • Coronafeirws (Covid-19)

    Gwybodaeth am y coronafeirws, gan gynnwys diweddariadau ar sut gallwch chi ofalu am eich hun ac anwyliaid, a ffyrdd y gallwch chi gefnogi pobl hŷn.
  • Iechyd a lles

    Gwybodaeth am amodau sy'n gysylltiedig ag oedran, cadw’n heini a mwy.
  • Cartref a gofal

    Gwybodaeth i’ch helpu i barhau i fyw'n ddiogel yn eich cartref eich hun, neu opsiynau eraill fel mynd i fyw mewn cartref gofal.
  • Canllawiau gwybodaeth a thaflenni ffeithiau

    Mae'r adran hon yn cynnwys rhestr lawn o'r holl ffeithiau a'r canllawiau gwybodaeth rydym yn eu cyhoeddi, sy'n ymdrin â'r holl wahanol bynciau sy'n cael eu cynnwys ar ein gwefan.
  • Canllawiau arian

    Mae ein canllawiau arian yn cynnig mwy o wybodaeth am ystod o fudd-daliadau a sut i fynd ati i'w hawlio, fel y gallwch sicrhau nad ydych chi'n un o'r rhai sy'n colli allan.
  • Materion yn ymwneud ag arian

    Gwybodaeth am bynciau fel dyled, ewyllysiau a phensiynau.
  • Gwaith a dysgu

    Gwybodaeth am wahaniaethu a hawliau yn y gwaith; ynghyd â thechnoleg a'r rhyngrwyd.
  • Help gyda chostau byw

    Gwybodaeth am wahanol gymorth – gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU – a allai eich helpu i ymdopi gyda chostau cynyddol.

Ffafr fach 

Mae'r holl wybodaeth a chyngor a ddarparwn ar y wefan yn rhad ac am ddim ac yn gwbl annibynnol, yn ogystal â'n Llinell Gyngor Genedlaethol. 

Ond mae'r galw'n cynyddu. Rydym yn boblogaeth sy'n heneiddio ac mae mwy o bobl nag erioed yn dod atom yn chwyilio am gefnogaeth, a dyna pam mae angen i ni ofyn am help. 

Os ydych chi'n medru, gall rhodd fach heddiw ein helpu i gyrraedd hyd yn oed mwy o bobl hŷn ble bynnag mae'r angen mwyaf. 

Cefnogwch ein gwaith 

Am fwy o wybodaeth ffoniwch Gyngor Age Cymru ar y rhif ffôn 0300 303 44 98.

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top