Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n polisi. Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a darganfod sut y gallwch chi newid gosodiad cwcis eich porwr
Skip to content
Cyfrannwch

Gwybodaeth am ein prosiect eiriolaeth dementia

Mae ein prosiect eiriolaeth dementia annibynnol yn ymwneud â galluogi pobl sydd a diagnosis o ddementia i gael mynediad at wasanaethau a chefnogaeth y mae eu hangen arnynt a chael llais mewn penderfyniadau sy'n cael eu gwneud. Mae’r prosiect yma i’w cefnogi gyda sefyllfaoedd lle gallent gael eu cam-drin ac angen dod o hyd i ffordd o ddiogelu eu hun. Bydd yr eiriolaeth rydyn ni'n ei gynnig yn annibynnol o unrhyw wasanaeth arall y mae pobl sy'n byw gyda dementia yn ei ddefnyddio. Mae hyn yn golygu y bydd yr unigolyn â dementia wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau, a gallwn eu cefnogi a'u cynrychioli heb unrhyw wrthdaro buddiannau.

I'r rhan fwyaf o bobl, mae gwneud eu penderfyniadau a'u dewisiadau eu hunain yn fater o gryn bwysigrwydd. Mae bod yn rhan o brosesau gwneud penderfyniadau nid yn unig lle mae hunan-hunaniaeth yn cael ei fynegi ond mae hefyd yn agwedd bwysig ar ryddid personol. Mae'r egwyddor hon wrth wraidd gwasanaethau eirioli i bobl sy'n byw gyda dementia.

Mae'r angen am eiriolaeth i bobl â dementia, sy'n wynebu materion cymhleth yn ymwneud ag allgau cymdeithasol a dirywio swyddogaeth wybyddol yn llawer ehangach na mynediad at wasanaethau a thriniaeth statudol. Bydd y gwasanaeth eiriolaeth Annibynnol hwn yn rhoi cymorth i bobl:

  • gwneud newidiadau a chymryd rheolaeth dros eu bywyd
  • teimlo'n fwy gwerthfawr a'u cynnwys yn eu cymuned
  • gael gwrando a deall.

Bydd pobl sy'n byw gyda dementia yn cymryd mwy o ran mewn penderfyniadau am eu bywydau, yn cael eu diogelu rhag niwed, a byddant yn gallu manteisio ar wasanaethau ac asesiadau priodol ar gyfer eu hanghenion drwy'r daith dementia.  Nod ein gwasanaeth eiriolaeth yw symud cydbwysedd y pŵer i sicrhau bod y lefel uchaf o ddylanwad sydd gan bobl â dementia dros eu bywydau eu hunain. Ein nod yw sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed, ystyrir y safbwyntiau a'r dymuniadau a bod eu hawliau'n cael eu cynnal.

Bydd teuluoedd a gofalwyr yn elwa'n ddirprwyol o gael gweithiwr proffesiynol sy'n gallu helpu i lywio iechyd a gofal cymdeithasol, gan sicrhau bod eu hanwyliaid yn cael ei bersonoli a'u hawliau'n cael eu cadarnhau. Bydd iechyd a gofal cymdeithasol hefyd yn elwa, oherwydd mae Eiriolaeth yn eu helpu i gyflawni eu dyletswyddau yn unol ag egwyddorion sylfaenol cyd-gynhyrchu llais a rheolaeth.

Ble fydd y prosiect yn darparu ei wasanaethau?

Dyma brosiect ledled Cymru sy'n cael ei gyflawni gan eiriolwyr cyflogedig ond byddwn ni'n gweithio ar draws rhanbarthau ag eiriolwyr rhanbarthol.

Dyma'r rhanbarthau hyn:

  • Caerdydd, a Bro Morgannwg
  • Conwy a Sir Ddinbych
  • Sir y Fflint a Wrecsam
  • Gwent
  • Gwynedd ac Ynys Môn
  • Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf
  • Sir Benfro, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin
  • Powys
  • Abertawe, Pen-y-bont a Chastell Nedd Port Talbot

Pwy fydd y prosiect hwn yn ei helpu a'i gefnogi?

  • Unrhyw un 18+ sydd a diagnosis o ddementia

Pwy fydd yn cyflawni'r prosiect hwn?

Mae ein holl eiriolwyr yn eiriolwyr cyflogedig ac ni fyddwn yn defnyddio gwirfoddolwyr ar y prosiect hwn.

Sut alla i ddarganfod mwy o wybodaeth?

Am fwy o wybodaeth gweler ein taflen neu os oes gennych unrhyw ymholiadau cysylltwch â ni

Sut y gallaf gael mynediad at eiriolaeth annibynnol

Os ydych yn meddwl eich bod chi, neu rywun rydych chi'n gofalu amdano, angen ein cefnogaeth eiriolaeth, lawrlwythwch furflen atgyfeirio a'i dychwelyd y ffurflen wedi'i llenwi i dementiaadvocacy@agecymru.org.uk

Os nad ydych yn siŵr am wneud atgyfeiriad anfonwch e-bost atom neu rhowch alwad ar 029 2043 1555.

Sut mae'r prosiect hwn yn cael ei ariannu?

Daw ein cyllid gan Grant gan Lywodraeth Cymru i weithredu'r cynllun gweithredu ar gyfer dementia.

 

Last updated: Ebr 24 2024

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top