Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n polisi. Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a darganfod sut y gallwch chi newid gosodiad cwcis eich porwr
Skip to content
Cyfrannwch

Gadael gwaddol

Gadael rhodd yn eich ewyllys

Wrth adael rhodd i Age Cymru yn eich ewyllys rydych chi'n sicrhau bod pobl hŷn yn derbyn y gefnogaeth maen nhw'n ei haeddu. Mae'n hawdd cefnogi eich hoff elusennau drwy adael rhodd yn eich ewyllys. Pan fyddwn ni'n gwneud ewyllys rydyn ni eisiau sicrhau bod yna rodd i'n hanwyliaid. Ond gallwch hefyd adael rhodd i filoedd o bobl hŷn yng Nghymru sydd heb unrhyw gefnogaeth. Mae rhoddion mewn ewyllysiau yn hanfodol i Age Cymru, ac yn golygu y bydd gan bobl hŷn gefnogaeth os ydyn nhw'n teimlo'n fregus, yn unig ac yn cael eu hanghofio. Mae rhoddion yn darparu sicrwydd y bydd Age Cymru yno i helpu gydag anghenion bob dydd, fel y gall pobl barhau i fyw gydag urddas a pharch.

Drwy adael rhoddd i Age Cymru yn eich ewyllys, rydych chi'n sicrhau bod pobl hŷn yn derbyn y gefnogaeth maen nhw'n ei haeddu.

Mae'n hawdd i gefnogi eich hoff elusennau drwy adael rhodd yn eich ewyllys.

Pan fyddwn ni'n gwneud ein hewyllys, rydyn ni eisiau cefnogi ein hanwyliaid. Ond gallwch chi hefyd adael rhodd arbennig i'r miloedd o bobl hŷn yng Nghymru sydd heb unrhyw gefnogaeth.

Mae anrhegion mewn ewyllysiau yn hanfodol i waith Age Cymru, ac yn golygu y bydd gan bobl hŷn gefnogaeth os ydyn nhw'n teimlo'n fregus, yn unig ac yn cael eu hanghofio. Mae eich rhodd yn darparu sicrwydd y byddwn Age Cymru yno i helpu gydag anghenion bob dydd, fel y gall pobl barhau i fyw gydag urddas a pharch.


Gall eich rhodd helpu pobl fel Emlyn

Pan alwodd Emlyn Gyngor Age Cymru, roedd yn amlwg yn syth ei fod angen cymorth.

Roedd system wresogi Emlyn wedi torri, a roedd Emlyn yn poeni ac yn ofidus ofnadwy.

Galwodd Emlyn wasanaeth Cyngor Age Cymru.  Gwnaethom siarad ag Emlyn am grantiau amrywiol ac effeithlonrwydd ynni.  Gallai'r grantiau ei helpu i wneud atgyweiriadau, neu ddiweddaru ei system wresogi a darparu budd-dal i sicrhau ei fod yn hawlio popeth sydd ganddo hawl i'w dderbyn.

Fe wnaethon ni ei gyfeirio at ei awdurdod lleol er mwyn iddo gael gwres dros dro.

Nawr mae Emlyn yn derbyn y gefnogaeth sydd ei angen arno.


Gwybodaeth am adael rhodd

  • Sut i adael rhodd

    Darganfyddwch y mathau o roddion y gallwch adael. Lawrlwythwch ein canllawiau am ysgrifennu ewyllys.
  • Geiriad awgrymedig

    Bydd y geiriad awgrymedig hwn yn cynorthwyo eich cyfreithiwr i gynnwys eich rhodd, er mwyn i ni barhau i wneud ein gwaith hanfodol.
  • Cwestiynau a ofynnir yn aml

    Dewch o hyd i atebion i gwestiynau cyffredin ynghylch gadael rhodd yn eich ewyllys.

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top