Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n polisi. Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a darganfod sut y gallwch chi newid gosodiad cwcis eich porwr
Skip to content
Cyfrannwch

Help gyda chostau byw

Help gyda chostau byw

Mae ein biliau’n cynyddu, yn enwedig costau ynni.  Yma, cewch wybodaeth am wahanol fathau o gefnogaeth a allai eich helpu chi i gadw trefn ar gostau cynyddol.

 

Budd-daliadau lles a hawliau - ydych chi ar eich colled?

Cronfa Cymorth Dewisol Llywodraeth Cymru

Cyfandaliadau Llywodraeth y DU (blwyddyn ariannol 2023-24

Cap prisiau Ofgem ar filiau ynni

Pwysigrwydd darlleniadau mesuryddion os nad oes gennych chi fesurydd clyfar

'Warant Pris Ynni' Llywodraeth y DU

Banciau bwyd a thalebau

Beth sy'n digwydd os yw cyflenwr ynni'n mynd i’r wal

A alla i gael cefnogaeth wrth fy nghyflenwr ynni?

Newid cyflenwr ynni

 

Budd-daliadau lles a hawliau - ydych chi ar eich colled?

Mae’r amrywiaeth o daliadau un-tro a chynlluniau eraill ar y dudalen hon yn ychwanegol i’r budd-daliadau lles safonol.  Mae rhai ohonynt yn dibynnu ar brawf modd, a rhai yn dibynnu ar wahanol fathau o feini prawf cymhwystra, er enghraifft, mae gennych anabledd.

Os hoffech chi fwy o wybodaeth, ewch i’r adran fudd-daliadau a hawliau ein gwefan, neu defnyddiwch ein cyfrifiannell budd-daliadau ar-lein. Mae gwiriad budd-daliadau'n medru eich helpu i weld os ydych chi’n gymwys.  Mae gennym nifer o ganllawiau am bynciau sy’n ymwneud â budd-daliadau, yn cynnwys ein canllaw gwybodaeth Mwy o arian yn eich poced.

Os nad ydych yn hawlio unrhyw fudd-daliadau, efallai fyddai’n fuddiol petaech yn cyflwyno cais cyn gynted â phosib – er enghraifft, gall hawlio Credyd Pensiwn (hyd yn oed os ydych chi ond yn medru hawlio ychydig o arian) eich helpu i fod yn gymwys ar gyfer budd-daliadau a hawliau eraill, a chymorth gan y Llywodraeth.

Mae yna rhai budd-daliadau sy’n darparu help ar gyfer biliau yn y gaeaf, er enghraifft Taliadau Tanwydd Gaeaf a Gostyngiad  Cartrefi Cynnes.

Cysylltwch â Chyngor Age Cymru i gael gwybodaeth ychwanegol.  Ffoniwch 0300 303 44 98 (cyfradd leol) er mwyn siarad â rhywun neu anfonwch e-bost at advice@agecymru.org.uk

Cronfa Cymorth Dewisol Llywodraeth Cymru

Mae cynllun Cronfa Cymorth Dewisol Llywodraeth Cymru wedi bodoli ers sawl blwyddyn, cyn yr argyfwng costau byw presennol; ond efallai gall y cynllun eich helpu gyda rhai o’r problemau hyn.  Mae gwybodaeth ychwanegol am y Gronfa Cymorth Ddewisol ar ein tudalen 'Sut i gael help gyda threuliau brys neu untro'.

Cyfandaliadau Llywodraeth y DU (blwyddyn ariannol 2023-24)

Efallai y byddwch chi’n gymwys i dderbyn cyfandaliadau. Dyma nhw: 

  • Taliad Costau Byw Pensiynwr o £300 i aelwydydd sy'n derbyn y Taliadau Tanwydd Gaeaf. Disgwylir i hyn fod yn ychwanegiad i'ch Taliad Tanwydd Gaeaf ym mis Tachwedd/Rhagfyr 2023;
  • Taliad Costau Byw o £900 i aelwydydd sy’n derbyn budd-daliadau prawf modd, fel Credyd Pensiwn a Chredyd Cynhwysol;
  • Taliad Costau Byw Anabledd o £150 i'r rhai sy'n derbyn budd-daliadau anabledd, fel Lwfans Gweini.

     

    Os yw unigolion yn gymwys, dylid eu talu'n awtomatig ac ni fydd angen gwneud cais. Nid yw'r un o'r taliadau uchod yn drethadwy ac ni fyddant yn cyfrif tuag at y cap budd-daliadau nac yn effeithio ar eich hawl i dderbyn budd-daliadau. Mae'r taliadau'n cael eu gwneud ar draws gwahanol gyfnodau er mwyn sicrhau cefnogaeth gyson drwy gydol y flwyddyn. Yn gyffredinol, byddant fel a ganlyn:

  • £301 – Taliad Costau Byw Cyntaf – rhwng 25 Ebrill a 17 Mai 2023.
  • £150 – Taliad Costau Byw i'r Anabl – Haf 2023
  • £300 – Ail Daliad Costau Byw – Hydref 2023
  • £300 – Taliad Costau Byw Pensiynwyr – Gaeaf 2023/4
  • £299 – Trydydd Taliad Costau Byw – i'w dalu rhwng 6 Chwefror a 22 Chwefror 2024 (gweler isod am wybodaeth bwysig am y rhandaliad hwn)

Pwysig: dyddiad cau yn ymwneud â derbyn Credyd Pensiwn a'r Trydydd Taliad Costau Byw

Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y trydydd taliad Costau Byw, mae'n rhaid eich bod wedi bod â hawl i fudd-dal cymwys – fel Credyd Pensiwn – rhwng 13 Tachwedd 2023 a 12 Rhagfyr 2023. Dylid nodi, oherwydd rheolau ôl-ddyddio gyda Chredyd Pensiwn, lle gallwch ofyn am ôl-ddyddio hawliad am hyd at dri mis, efallai y byddwch yn dal i fod yn gymwys ar gyfer y trydydd taliad Costau Byw, hyd yn oed os nad ydych yn derbyn Credyd Pensiwn eto.

5 Mawrth 2024 yw'r pwynt terfyn ar gyfer hyn, felly cyn belled â'ch bod yn dechrau hawliad am Gredyd Pensiwn erbyn hynny ac rydych chi’n gymwys, dylech gael y taliad Costau Byw o £299.

Er mwyn ôl-ddyddio Credyd Pensiwn, rhaid eich bod wedi bodloni'r amodau hawlio yn ystod y cyfnod hwnnw. Dylech hefyd ofyn yn benodol am ôl-ddyddio wrth wneud yr hawliad, gan nad yw'n digwydd yn awtomatig. Gallwch hawlio dros y ffôn, gallwch ofyn am ffurflen drwy’r post, neu efallai y byddwch hefyd yn gallu hawlio ar-lein. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ychwanegol am Gredyd Pensiwn ar ein taflen ffeithiau.

Cap Pris Ofgem ar filiau ynni

Mae'r cap ar brisiau yn berthnasol i'r rhan fwyaf o gartrefi ym Mhrydain. Dyma’r uchafswm y gall cyflenwyr ei godi fesul uned o ynni.

Rhwng 1 Hydref 2023 a 31 Rhagfyr 2023, ar gyfer aelwydydd tanwydd deuol 'nodweddiadol' sy'n talu trwy ddebyd uniongyrchol, gosododd Ofgem lefel y cap pris blynyddol ar £1,834 (roedd hyn yn ostyngiad o'r cap blaenorol o £2,074, a oedd ar waith rhwng Gorffennaf a Medi 2023). Mae'r cap yn cael ei adolygu bob 3 mis ac o 1 Ionawr 2024 i 31 Mawrth 2024 bydd yn cynyddu i £1,928.

Mae'n bwysig nodi bod biliau yn dal i fod yn seiliedig ar eich defnydd, felly efallai y byddwch yn talu mwy neu lai na lefel y cap pris.

Cyn newid y cap prisiau o 1 Ionawr 2024, efallai y byddai'n syniad da i chi wneud darlleniadau mesurydd – gweler isod.

Dewch o hyd i fwy o wybodaeth am y cap pris ynni ar wefan Ofgem

Pwysigrwydd darlleniadau mesuryddion os nad oes gennych chi fesurydd clyfar

Os nad oes mesurydd clyfar gennych, mae'n syniad da darparu darlleniadau mesurydd i'ch cyflenwr nwy a thrydan yn rheolaidd, yn enwedig pan gyhoeddir newidiadau mewn prisiau (er enghraifft, os yw Ofgem wedi cyhoeddi cynnydd neu ostyngiad ar gyfer y cap pris).

Bydd hyn yn sicrhau bod y cyflenwr yn gwybod yn union faint y gwnaethoch ei ddefnyddio pan fydd y pris yn newid, fel na chodir gormod o dâl am yr unedau a ddefnyddir.

'Warant Pris Ynni' Llywodraeth y DU

Roedd y Warant Pris Ynni’n darparu cefnogaeth gyda biliau ynni rhwng Hydref 2022 – Mehefin 2023 drwy roi terfyn ar y pris gallai cyflenwyr ynni ei godi ar aelwydydd am eu ynni tra bod prisiau’n arbennig o ddrud.

Ers mis Gorffennaf 2023, polisi'r llywodraeth yw i aelwydydd dalu cyfanswm isaf cap prisiau Ofgem neu'r Warant Pris Ynni. Ar adeg ysgrifennu (Hydref 2023) dyma Gap Prisiau Ofgem – gweler yr adran uchod (h.y. mae hyn ar y sail bod lefel y cap prisiau ar gyfer cartref tanwydd deuol 'nodweddiadol' wedi'i osod ar £1,923 ar hyn o bryd, ond o fis Gorffennaf 2023 tan ddiwedd Mawrth 2024 roedd y Warant Pris Ynni wedi'i osod ar £3,000).

Banciau bwyd a thalebau

Mae Ymddiriedolaeth Trussell yn cefnogi rhwydwaith o fanciau bwyd ac yn darparu bwyd brys. Mae angen i bobl gael eu cyfeirio at fanc bwyd gyda thaleb, ac mae nifer o sefydliadau cymunedol lleol yn medru darparu talebau.

Beth sy’n digwydd os yw cyflenwr ynni’n mynd i’r wal

Pan fydd cyflenwr ynni yn mynd i'r wal, mae Ofgem yn penodi cyflenwr newydd i reoli eich cyfrif. Nid oes angen i chi boeni, bydd eich cyflenwad nwy a thrydan yn parhau gwaeth beth sy'n digwydd i'ch cyflenwr. Dylai eich cyflenwr newydd roi gwybodaeth i chi am yr hyn sy'n digwydd gyda'ch cyfrif, er y gall y broses hon gymryd ychydig wythnosau. Mae'n werth cadw gafael ar, neu lawrlwytho copïau o'ch biliau ynni diweddaraf a thynnu lluniau o'ch darlleniadau mesurydd diweddaraf er mwyn cyfeirio atynt. Bydd yn rhaid i unrhyw gwsmeriaid a oedd mewn dyled gyda'u cyflenwr blaenorol ad-dalu’r arian o hyd a dylai unrhyw gwsmeriaid a oedd mewn credyd gyda'u cyflenwr dderbyn ad-daliad. Dylech ofyn am gyngor os ydych yn bwriadu newid oherwydd bod eich cyflenwr wedi mynd i'r wal, gan fod ystyriaethau os oedd eich cyfrif mewn credyd, neu os ydych fel arfer yn derbyn y Gostyngiad Cartref Cynnes.

A alla i gael cefnogaeth wrth fy nghyflenwr ynni?

Os ydych chi'n ei chael hi'n anodd ymdopi â biliau ynni neu os oes arnoch arian i'ch cyflenwr ynni, mae dyletswydd ar eich cyflenwr i’ch helpu. Gallwch ofyn iddynt am:

  • Adolygiad o'ch taliadau neu ad-daliadau dyled
  • Gostyngiadau neu seibiannau talu
  • Mwy o amser i dalu'ch biliau
  • Mynediad at gronfeydd caledi / cronfeydd elusennol y cyflenwr ynni
  • Cofrestr Gwasanaeth â Blaenoriaeth.

Os ydych yn hŷn nag oedran Pensiwn y Wladwriaeth neu'n byw gydag anabledd neu gyflwr iechyd, gallwch ofyn am gael eich rhoi ar y Gofrestr Gwasanaeth â Blaenoriaeth. Mae hyn yn rhoi mynediad i chi at ystod o gymorth, gan gynnwys cymorth â blaenoriaeth mewn argyfwng, rhybudd ymlaen llaw o doriadau pŵer sydd wedi'u cynllunio a help gyda mynediad at fesuryddion rhagdalu.

Fel y nodwyd uchod, mae gan rai cyflenwyr ynni eu cynlluniau ariannu arbennig eu hunain (cronfeydd caledi neu elusennol) neu maent yn darparu cymorth trwy gynlluniau cenedlaethol fel Rhwymedigaeth y Cwmni Ynni. Mae'r rhain yn darparu ystod o gymorth ariannol, rhyddhad o ddyledion, cyngor ar ynni, a gwelliannau effeithlonrwydd ynni a all helpu i ostwng eich biliau. Cysylltwch â'ch cyflenwr i weld pa gymorth y gallai fod gennych hawl iddo.

Newid cyflenwr ynni

Mae newid cyflenwr ynni neu dariff wedi bod yn ffordd hawdd o arbed arian ar filiau yn y gorffennol. Fodd bynnag, mae'r cynnydd presennol mewn prisiau ynni yn golygu bod llai o fargeinion ar gael. Gall fod yn anodd dod o hyd i fargen ratach na'ch tariff presennol, neu dariff y gallwch chi newid yn hawdd iddi. Mae dewis tariff pris sefydlog yn rhoi mwy o sicrwydd ynghylch biliau ond, yn dibynnu ar y farchnad, gall gynyddu eich costau yn gyffredinol.

Dylech ddod o hyd i gyngor diduedd cyn newid, er enghraifft wrth linell gyngor Cyngor ar Bopeth. Dewch o hyd i fanylion ychwanegol ar ein taflen wybodaeth am sut i gael y pecyn ynni gorau (gallwch ddod o hyd i hwn yn yr adran ‘gwybodaeth ychwanegol’ isod).  

Gwybodaeth ychwanegol

Canllaw’r Gaeaf

 

 

 

Last updated: Chw 05 2024

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top