Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n polisi. Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a darganfod sut y gallwch chi newid gosodiad cwcis eich porwr
Skip to content
Cyfrannwch

Cwyno am wasanaethau’r GIG

Cwyno am wasanaethau'r GIG

Mae gennych hawl i ddisgwyl gwasanaethau o ansawdd da gan y GIG. Os ydych yn anhapus gyda'r gwasanaeth neu'r gofal rydych yn ei dderbyn, neu'n teimlo eich bod wedi cael eich trin yn annheg, gallwch wneud cwyn.

Mae system dau gam ar gael ar gyfer datrys cwynion am y GIG yng Nghymru:

Cam un

Bydd y cam hwn yn cynnwys ymchwiliad lleol gan y corff dan sylw, gan ddefnyddio'r weithdrefn gwyno ffurfiol os oes angen. Mae Llywodraeth Cymru wedi llunio canllawiau, ‘Gweithio i Wella', sy'n manylu ar sut y dylai cyrff y GIG yng Nghymru ymdrin â chwynion neu bryderon sy'n cael eu nodi ganddyn nhw.

Cam dau

Bydd hyn yn golygu mynd â'ch cwyn i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, os ydych yn parhau i fod yn anfodlon yn dilyn yr ymchwiliad lleol.

Mae gennym daflen ffeithiau sy'n esbonio'r broses gwyno yn fanylach (gweler isod), gan gynnwys beth i'w ddisgwyl pan fyddwch yn cyflwyno cwyn.

Mae'n bosib y bydd eich Cyngor Iechyd Cymuned lleol yn gallu eich cefnogi i nodi eich pryderon. Cynghorau Iechyd Cymunedol yw 'corff gwarchod' statudol ac annibynnol y GIG a'u rôl yw cynrychioli buddiannau'r cyhoedd yn y gwasanaeth iechyd yn eu hardal. Bydd pob Cyngor Iechyd Cymunedol yn cynnal Gwasanaeth Eiriolaeth Cwynion.

Taflen Ffeithiau 66w: Datrys problemau a gwneud cwyn am ofal y GIG yng Nghymru

Am fwy o wybodaeth ffoniwch Gyngor Age Cymru ar 0300 303 44 98

 

Last updated: Ion 12 2023

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top