Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n polisi. Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a darganfod sut y gallwch chi newid gosodiad cwcis eich porwr
Skip to content
Cyfrannwch

Talu teyrnged i fywyd rhywun annwyl

Mae rhoi i Age Cymru er cof am eich anwylyd yn ffordd ystyrlon o anrhydeddu eu bywyd, a'r cyfan roedden nhw'n ei olygu i'r bobl oedd yn eu hadnabod.

Does dim rhaid i chi wneud unrhyw benderfyniadau ar unwaith - gallwch chi ddarllen y wybodaeth a dod yn ôl ato yn nes ymlaen. Pan fyddwch chi'n barod, byddwn ni yma.

Rydyn ni bob amser yn ddiolchgar am y rhoddion hyn – diolch am feddwl am Age Cymru ac am ystyried rhoi mewn ffordd mor arbennig.

Mae rhoi er cof yn syml iawn. Mae tair ffordd o roi er cof am anwylyd:

Ar-lein

Gallwch ddefnyddio ein ffurflen ar-lein.  Mae'n hawdd ac yn ddiogel i wneud cyfraniad er cof am anwylyd. Gallwch wneud rhodd un tro neu sefydlu rhodd reolaidd.

Mae gwneud rhodd reolaidd drwy Ddebyd Uniongyrchol yn ffordd gyfleus o gefnogi gwaith Age Cymru. Gallwch sefydlu anrheg bob mis, yn chwarterol neu'n flynyddol er cof am anwylyd.

Cyfrannu ar-lein

Cronfa deyrnged

Mae tudalen deyrnged ar-lein yn ffordd wych i ffrindiau a theulu ddathlu a chofio rhywun arbennig. Gallwch wneud sawl peth gyda thudalen deyrnged, gan gynnwys cyhoeddi straeon, rhannu lluniau ac atgofion, gwneud cyfraniad neu ddefnyddio'r dudalen ar gyfer cyhoeddi digwyddiadau a chodi arian. Gan fod popeth yn cael ei storio'n ganolog, gall pawb fynychu'r dudalen ar unrhyw adeg. Mae teyrnged hefyd yn dangos y cyfanswm a gasglwyd er cof am eich anwylyd, fel bod pawb sydd wedi cyfrannu yn gallu gweld beth maen nhw wedi ei gyflawni.

Mae'n gyflym ac yn hawdd creu tudalen deyrnged trwy ddefnyddio safleoedd fel JustGiving. Mae'r gwefannau hyn yn mynd â chi drwy broses syml gam wrth gam i greu eich tudalen.

Creu tudalen deyrnged Justgiving

Casglu er cof

Os ydych yn trefnu casgliad mewn angladd neu wasanaeth coffa, efallai yr hoffech ofyn i ffrindiau a pherthnasau eich anwylyd wneud cyfraniad i Age Cymru.

Gallwn ddarparu amlenni rhodd i chi i'w dosbarthu i bawb sydd eisiau rhoi. Cysylltwch â ni i ofyn am amlenni. Sieciau yn daladwy i Age Cymru.

Neu, gallwch ofyn i'r rhai sydd eisiau rhoi i anfon sieciau yn uniongyrchol at:

Er cof: Team
Age Cymru
Llawr gwaelod
Tŷ Mariners
Llys Trident
Ffordd East Moors
Caerdydd, CF24 5TD

Gofynnwch iddynt gynnwys eu henw a'u cyfeiriad er mwyn i ni anfon llythyr o ddiolch.  Bydd hefyd angen cynnwys enw'r unigolyn maent yn cofio amdano wrth roi.  

Cysylltu â ni 

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni ar 029 2043 1555 neu e-bostiwch ni.

 

Last updated: Ion 03 2024

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top