Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n polisi. Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a darganfod sut y gallwch chi newid gosodiad cwcis eich porwr
Skip to content
Cyfrannwch

Polisi Preifatrwydd

Cyflwyniad

Mae Age Cymru yn deall bod eich preifatrwydd yn bwysig, ac rydym yn poeni am sut mae data personol yn cael ei ddefnyddio. Rydym yn parchu ac yn gwerthfawrogi preifatrwydd pawb sy'n cysylltu ag Age Cymru a byddwn ond yn casglu ac yn defnyddio data personol fel rydyn ni’n ei ddisgrifio yn y polisi hwn, ac mewn ffordd sy'n gyson â'n rhwymedigaethau a hawliau pob unigolyn o dan y gyfraith.

Mae'r polisi hwn yn berthnasol i unigolion y mae eu data personol yn cael ei brosesu gan Age Cymru, gan gynnwys y rhai sy'n defnyddio ein gwefan, yn defnyddio ein gwasanaethau neu'n gwirfoddoli gyda ni. Nid yw'r polisi hwn yn berthnasol i gyflogeion Age Cymru a'r data personol yr ydym yn ei gasglu a'i ddefnyddio wrth gyflogi gweithwyr. Os ydych chi'n gweithio i Age Cymru, cyfeiriwch at y Fewnrwyd i gael y wybodaeth berthnasol am breifatrwydd.

Darllenwch y polisi preifatrwydd hwn yn ofalus gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth bwysig am bwy ydym ni a sut a pham yr ydym yn casglu, storio, defnyddio a rhannu eich data personol. Mae hefyd yn esbonio'ch hawliau mewn perthynas â'ch data personol a sut i gysylltu â ni neu awdurdodau goruchwylio os oes gennych gŵyn.

Rydym yn casglu, yn defnyddio ac yn gyfrifol am ddata personol penodol amdanoch chi. Pan fyddwn yn gwneud hynny, rydym yn ddarostyngedig i Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU.

Termau allweddol a ddefnyddir yn y polisi

Byddai'n ddefnyddiol dechrau drwy esbonio rhai termau allweddol a ddefnyddir yn y polisi hwn:

Yr ydym ni, ein

Age Cymru, elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr a chwmni cyfyngedig drwy warant. Am fwy o wybodaeth am Age Cymru, gweler adran 2 isod.
Ein Swyddog Diogelu Data

Amanda O'Shea

Cyfeiriad e-bost Amanda yw amanda.oshea@agecymru.org.uk

Data personol Unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud ag unigolyn dynodedig neu adnabyddadwy.
Data personol categori arbennig Data personol sy'n datgelu hil neu ethnigrwydd, barn wleidyddol, credoau crefyddol, credoau athronyddol neu aelodaeth undeb llafur, data genetig, data biometrig (lle y'i defnyddir at ddibenion adnabod), data sy'n ymwneud ag iechyd, materion yn ymwneud â rhyw neu gyfeiriadedd rhywiol.

Pwy yw Age Cymru

Age Cymru yw'r elusen genedlaethol ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru. Rydym yn elusen gofrestredig ac yn gwmni cyfyngedig drwy warant.
Swyddfa Gofrestredig: Llawr Gwaelod, Tŷ’r Mariners, Llys Trident, Ffordd Ddwyrain Moors, Caerdydd CF24 5TD.

Rhif yr Elusen: 1128436
Rhif y Cwmni: 0683728

Wrth bwy ydym ni'n casglu data?

Rydym yn casglu data gan yr unigolion hynny sy'n defnyddio ein gwefan, sy'n defnyddio ein gwasanaethau, sy'n gwirfoddoli gyda ni neu sy'n darparu gwasanaethau neu nwyddau i ni. Mae hyn yn cynnwys:

  • Ymddiriedolwyr
  • Gwirfoddolwyr
  • Isgontractwyr
  • Cyflenwyr
  • Cwsmeriaid a defnyddwyr gwasanaeth (y rhai sy'n defnyddio ein gwasanaethau/yn gwneud ymholiadau gyda ni, er enghraifft, defnyddwyr ein gwasanaeth Gwybodaeth a Chyngor)
  • Defnyddwyr ein gwefan
  • Yr unigolion hynny a all gymryd rhan yn ein harolygon neu ddigwyddiadau.

Rydym yn gofyn i unigolion 16 oed neu iau gael caniatâd eu rhiant/gwarcheidwad pryd bynnag y byddwn yn darparu gwybodaeth bersonol i ni.

Data Personol yr ydym yn ei gasglu amdanoch chi

Mae'r data personol rydym yn ei gasglu amdanoch yn dibynnu ar y rheswm pam rydych chi'n rhyngweithio â ni. Byddwn fel arfer yn casglu ac yn defnyddio'r data personol canlynol amdanoch chi:
 

Pan fyddwch yn defnyddio ein gwasanaethau: 

  • Eich enw a'ch gwybodaeth gyswllt, gan gynnwys cyfeiriad e-bost a rhif ffôn;
  • Os ydych yn defnyddio ein gwasanaethau cyngor neu eiriolaeth, yna er mwyn sicrhau ein bod yn darparu'r cymorth cywir i chi, efallai y bydd angen i ni gasglu data categori arbennig amdanoch chi, er enghraifft efallai y bydd angen i ni ofyn cwestiynau am eich iechyd, gan gynnwys unrhyw anableddau, eich statws ariannol ac a ydych yn derbyn unrhyw fudd-daliadau;
  • Unrhyw broblemau y gallech fod yn eu hwynebu, yr hyn yr ydym wedi cytuno rhyngom i'w ddatrys ac unrhyw gamau a gymerwyd.
  • Gallwn gasglu data drwy arolygon/ymchwil ond byddwn yn gofyn am ganiatâd cyn cysylltu eto.

Pan fyddwch chi'n gwirfoddoli gyda ni, neu'n un o'n Hymddiriedolwyr (neu'n gwneud cais i fod yn wirfoddolwr neu'n Ymddiriedolwr):

  • Eich enw a'ch gwybodaeth gyswllt, gan gynnwys cyfeiriad e-bost a rhif ffôn;
  • Gwybodaeth a/neu ddogfennau i'n galluogi ni i wirio pwy ydych chi;
  • Yn dibynnu ar natur eich cyfraniad, efallai y bydd angen i ni ofyn i chi gwblhau gwiriad Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd;

Pan fyddwch yn rhoi rhodd i ni neu'n codi arian ar ein rhan:

• Eich enw a'ch gwybodaeth gyswllt, gan gynnwys cyfeiriad e-bost a rhif ffôn pan gânt eu darparu;
 

Lle rydych chi'n cyflenwi nwyddau a / neu wasanaethau i ni:

  • Eich enw a manylion cyswllt eich cwmni/corfforaeth;
  • Lle bo hynny'n briodol, manylion banc.

Pan rydych chi’n ymgysylltu â ni mewn digwyddiadau/yn defnyddio ein gwefan efallai y byddwn yn casglu:

 
  • Gwybodaeth am sut rydych chi'n defnyddio ein gwefan, TG, cyfathrebu a systemau eraill
  • Eich ymatebion i arolygon, ac ymgyrchoedd casglu gwybodaeth
Rydym yn casglu ac yn defnyddio'r data personol hwn at y dibenion a ddisgrifir yn yr adran 'Sut a pham yr ydym yn defnyddio eich data personol' isod. Os nad ydych yn darparu data personol yr ydym yn gofyn amdano, gall ein hoedi neu ein hatal rhag darparu gwasanaethau i chi neu ein hatal rhag datblygu eich perthynas ag Age Cymru.
 

Sut mae eich data personol yn cael ei gasglu

Rydym yn casglu'r rhan fwyaf o'r data personol hwn yn uniongyrchol gennych chi—yn bersonol, dros y ffôn, dros neges destun neu e-bost, arolygon neu ffurflenni rydych chi'n eu cwblhau a/neu drwy ein gwefan.
 

Fodd bynnag, efallai y byddwn hefyd yn casglu gwybodaeth:


  • O ffynonellau sydd ar gael i'r cyhoedd, e.e. Tŷ'r Cwmnïau;
    Yn uniongyrchol gan drydydd parti, fel y rhai sy'n darparu gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd i ni;
    Os yw parti arall wedi cysylltu ag Age Cymru ar eich rhan, yna efallai y byddwn yn casglu eich data personol ganddynt (er enghraifft os ydynt yn ffonio ein llinell Wybodaeth a Chyngor gyda'ch caniatâd);
    O gwcis ar ein gwefan—am fwy o wybodaeth am ein defnydd o gwcis, gweler ein polisi cwcis.

Sut a pham rydym yn defnyddio eich data personol

O dan y gyfraith diogelu data, rydyn ni ond yn medru defnyddio eich data personol os oes gennym reswm priodol, e.e.

  • lle rydych wedi rhoi caniatâd;
    i gydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol a rheoleiddiol;
    ar gyfer cyflawni contract gyda chi neu i gymryd camau ar eich rhan cyn ymrwymo i gontract;
    At ein buddiannau teilwng neu fuddiannau trydydd parti; neu
    Bydd unrhyw wybodaeth a ddatgelir i Age Cymru am amheuaeth o gamdriniaeth neu esgeulustod yn ddarostyngedig i'r ddyletswydd gyfreithiol o gyfrinachedd. Er bod hyn fel arfer yn golygu na fydd yn cael ei rannu, efallai y bydd sefyllfaoedd lle mae angen datgelu er budd y cyhoedd.

Buddiant dilys yw pan fydd gennym reswm busnes neu fasnachol i ddefnyddio eich data personol, cyn belled nad yw eich hawliau a'ch buddiannau chi yn drech na hyn. Byddwn yn cynnal asesiad wrth ddibynnu ar fuddiannau dilys, i gydbwyso ein buddiannau yn erbyn eich buddiannau eich hun.

Mae'r tabl isod yn esbonio sut rydym yn defnyddio eich data personol a pham.

Ar gyfer beth rydyn ni’n defnyddio eich data personol?

Ein rhesymau

Darparu ein gwasanaethau i chi.

Rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ein gwasanaethau, gan gynnwys rhoi gwybod i chi am newidiadau i wasanaethau sydd wedi'u cynllunio.

Yn dibynnu ar natur y gwasanaethau rydym yn eu darparu, ein sail gyfreithlon dros ddefnyddio eich data personol fydd:

- I gyflawni ein contract gyda chi neu i gymryd camau ar eich rhan cyn ymrwymo i gontract – mae hyn yn berthnasol pan fyddwn wedi ymrwymo i gontract gyda chi mewn perthynas â'r gwasanaethau;

- Yn ein buddiannau cyfreithlon o gyflawni gweithgareddau elusennol a darparu gwasanaethau fel elusen - bydd hyn yn berthnasol os nad ydym wedi ymrwymo i gontract gyda chi.

Yn ein buddiannau cyfreithlon o gyflawni gweithgareddau elusennol a darparu gwasanaethau fel elusen. Yn ein buddiannau cyfreithlon o gyflawni gweithgareddau elusennol a darparu gwasanaethau fel elusen.
Rhannu gwybodaeth gyda'r gwasanaethau brys lle mae angen diogelu bywyd neu iechyd neu atal a chanfod/adrodd materion sy’n ymwneud â diogelu a gwneud adroddiadau angenrheidiol.

- Lle mae angen diogelu bywyd neu iechyd neugymryd camau mewn perthynas â mater sy’n ei wneud â diogelu sy'n ei gwneud yn ofynnol i ni rannu'r data personol;


- I gydymffurfio â rhwymedigaeth statudol yr ydym yn ddarostyngedig iddi.

Cynnal gwiriadau i nodi ein Gwirfoddolwyr (gan gynnwys Ymddiriedolwyr) a gwirio pwy ydynt. Yn dibynnu ar yr amgylchiadau.
Gweithgareddau eraill sy'n angenrheidiol i gydymffurfio â rhwymedigaethau cyfreithiol a rheoleiddiol sy'n berthnasol i'n busnes, e.e. o dan gyfraith iechyd a diogelwch neu reolau a gyhoeddir gan y Comisiwn Elusennau. - i gydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol a rheoleiddiol;
- er ein buddiannau cyfreithlon o ran rhedeg elusen.
Casglu a darparu gwybodaeth sy'n ofynnol gan archwiliadau neu ymholiadau neu sy'n ymwneud â nhw ac i gydymffurfio â gofynion gwybodaeth y rhai sy'n darparu cyllid grant i ni. i gydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol a rheoleiddiol.
Sicrhau bod polisïau busnes yn cael eu dilyn, e.e. polisïau sy'n ymwneud â diogelwch a defnydd o'r rhyngrwyd. At ein buddiannau cyfreithlon - i sicrhau ein bod yn dilyn ein gweithdrefnau mewnol ein hunain er mwyn i ni fedru ddarparu'r gwasanaeth gorau i chi.
Rhesymau gweithredol, megis gwella effeithlonrwydd, hyfforddiant a rheoli ansawdd. At ein buddiannau cyfreithlon - i fod mor effeithlon ag y gallwn er mwyn i ni fedru darparu'r gwasanaeth gorau i chi am y pris gorau.
Dadansoddiad ystadegol i'n helpu i reoli ein busnes, e.e. mewn perthynas â rheolaeth ariannol, deall y rhai sy'n defnyddio ein gwasanaethau a chyrraedd yr elusen. At ein buddiannau teilwng neu i ddarparu gwasanaethau elusennol i bobl hŷn yng Nghymru.
Atal mynediad ac addasiadau heb awdurdod i systemau.

Yn dibynnu ar yr amgylchiadau:

- er ein buddiannau cyfreithlon - i atal a chanfod gweithgarwch troseddol a allai fod yn niweidiol i chi a/neu i ni;
- i gydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol a rheoleiddiol.

Diogelu diogelwch systemau a data a ddefnyddir i ddarparu ein gwasanaethau.

I gydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol a rheoleiddiol
Efallai y byddwn hefyd yn defnyddio eich data personol i sicrhau diogelwch systemau a data i safon sy'n mynd y tu hwnt i'n rhwymedigaethau cyfreithiol, ac yn yr achosion hynny mae ein rhesymau dros ein buddiannau cyfreithlon, h.y. i ddiogelu systemau a data ac i atal a chanfod gweithgarwch troseddol a allai fod yn niweidiol i chi a/neu i ni.

Ffurflenni statudol. I gydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol a rheoleiddiol.
Sicrhau arferion gweithio diogel.

Yn dibynnu ar yr amgylchiadau:

- i gydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol a rheoleiddiol;
- er ein buddiannau cyfreithlon, e.e., i wneud yn siŵr ein bod yn dilyn ein gweithdrefnau mewnol ein hunain ac yn gweithio'n effeithlon er mwyn i ni fedru darparu'r gwasanaeth gorau i chi.

Marchnata ein gwasanaethau ni a gwasanaethau trydydd partïon dethol i:

- gwsmeriaid presennol a chyn-gwsmeriaid;
- unigolion sydd wedi dangos diddordeb yn ein gwasanaethau yn y gorffennol.

At ein buddiannau cyfreithlon, h.y. i hyrwyddo ein busnes i gwsmeriaid presennol a chyn-gwsmeriaid.
Archwiliadau allanol a gwiriadau ansawdd, e.e. ar gyfer achrediad ISO neu Fuddsoddwyr mewn Pobl, Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr, Marc Ansawdd Eiriolaeth, Safon Ansawdd Elusennau ac IAQP ac archwilio ein cyfrifon i'r graddau sydd ddim yn rhan o’r ‘gweithgareddau sy’n angenrheidiol er mwyn cydymffurfio gyda rhwymedigaethau cyfreithiol a rheoleiddiol’ uchod.

Yn dibynnu ar yr amgylchiadau:

- er ein buddiannau cyfreithlon, h.y. i gynnal ein hachrediadau fel y gallwn ddangos ein bod yn gweithredu ar y safonau uchaf;- i gydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol a rheoleiddiol.

Sut a pham rydym yn defnyddio eich data personol categori arbennig

 
Fel y nodir yn adran 4 uchod, weithiau gallwn gasglu data gennych chi sy'n ddata categori arbennig y mae amddiffyniadau ychwanegol yn gymwys iddo o dan gyfraith diogelu data. Pan fyddwn yn prosesu data categori arbennig, byddwn hefyd yn sicrhau y caniateir i ni wneud hynny o dan gyfreithiau diogelu data, sy'n golygu y bydd gennym ni naill ai: 
 
  • eich caniatâd penodol
  • mae'r prosesu'n angenrheidiol er mwyn diogelu eich buddiannau hanfodol (neu fuddiannau rhywun arall) lle nad oes gennych allu corfforol neu gyfreithiol i roi caniatâd; neu
  • Mae'r prosesu'n angenrheidiol i sefydlu, arfer neu amddiffyn hawliadau cyfreithiol.

Marchnata

Os ydych chi'n rhywun sy'n defnyddio ein gwasanaethau, sydd wedi defnyddio ein gwasanaethau yn y gorffennol neu sydd wedi gwneud ymholiadau am ein gwasanaethau, yna byddwn yn defnyddio'ch data personol i anfon diweddariadau atoch (drwy e-bost, neges destun, galwad ffôn neu drwy’r post) am ein gwasanaethau, gan gynnwys rhaglenni a gweithgareddau diweddar yr ydym wedi'u cynnal.
 
Mae gennym ddiddordeb dilys mewn defnyddio eich data personol at ddibenion marchnata (gweler uchod 'Sut a pham rydym yn defnyddio eich data personol'). Mae hyn yn golygu nad oes angen eich caniatâd arnom fel arfer i anfon gwybodaeth farchnata atoch. Os byddwn yn newid ein dull marchnata yn y dyfodol fel bod angen caniatâd, byddwn yn gofyn am hyn ar wahân ac yn glir.
Mae gennych hawl i optio allan o dderbyn cyfathrebiadau marchnata ar unrhyw adeg drwy:
 
Efallai y byddwn yn gofyn i chi gadarnhau neu ddiweddaru eich dewisiadau marchnata os byddwch yn gofyn i ni ddarparu  gwasanaethau pellach yn y dyfodol, neu os yw’r gyfraith yn newid, neu os oes yna newidiadau i ddull rheoleiddio neu strwythur ein busnes.
 
Byddwn bob amser yn trin eich data personol gyda pharch ac ni fyddwn byth yn ei werthu i sefydliadau eraill at ddibenion marchnata.


Gyda phwy rydym yn rhannu eich data personol

Rydym yn rhannu data personol gyda:

  • thrydydd partïon rydym yn eu defnyddio i helpu i ddarparu ein gwasanaethau i chi
  • trydydd partïon eraill a ddefnyddiwn i'n helpu i redeg ein busnes, e.e. asiantaethau marchnata neu westeion gwefan
  • trydydd partïon a gymeradwywyd gennych chi, e.e. gwefannau cyfryngau cymdeithasol rydych chi'n dewis cysylltu eich cyfrif â nhw
  • neu ddarparwyr talu trydydd parti
  • ein hymddiriedolwyr a'n broceriaid
  • Lle mae'n ofynnol i ni wneud hynny o dan delerau unrhyw Gyllid Grant a dderbynnir – gyda'r darparwr Ariannu Grant.

Rydym ond yn caniatáu i'r sefydliadau hynny drin eich data personol os ydym yn fodlon eu bod yn cymryd mesurau priodol i ddiogelu eich data personol.

Rydym ni neu'r trydydd partïon a grybwyllir uchod o bryd i'w gilydd hefyd yn rhannu data personol gyda:

  • ein harchwilwyr allanol, e.e. mewn perthynas ag archwilio ein cyfrifon, ac os felly bydd y sawl sy'n derbyn yr wybodaeth yn rhwym wrth rwymedigaethau cyfrinachedd
  • ein cynghorwyr proffesiynol (fel cyfreithwyr ac ymgynghorwyr eraill), ac os felly bydd y sawl sy'n derbyn yr wybodaeth yn rhwym wrth rwymedigaethau cyfrinachedd
  • asiantaethau gorfodi'r gyfraith, llysoedd, tribiwnlysoedd a chyrff rheoleiddio i gydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol a rheoleiddiol
  • Partïon eraill sydd â neu a all gaffael rheolaeth neu berchnogaeth ar ein busnes (a'n cynghorwyr proffesiynol) mewn cysylltiad â thrafodiad corfforaethol sylweddol neu ailstrwythuro, gan gynnwys uno, caffael, gwerthu asedau, cynnig cyhoeddus cychwynnol neu os byddwn yn ansolfedd - fel arfer, bydd gwybodaeth yn ddienw ond efallai na fydd hyn bob amser yn bosibl. Bydd derbynnydd unrhyw elfen o'ch data personol yn rhwym wrth rwymedigaethau cyfrinachedd.

Efallai y byddwn weithiau'n rhannu gwybodaeth ddemograffig a gwasanaeth sylfaenol gydag Age UK, yr elusen genedlaethol, er mwyn iddynt ein helpu ni i fonitro ac yn y pen draw wella'r gwasanaethau a ddarparwn. Ni fydd y wybodaeth a rannwn yn cynnwys eich enw na'ch manylion cyswllt, oni bai eich bod yn rhoi eich caniatâd i ni wneud hynny at ddiben penodol, er enghraifft rhannu eich stori. Pan fyddwn yn rhannu'r wybodaeth, rydym yn gwneud hynny o dan y sail gyfreithlon o ddiddordeb cyfreithlon.

Lle mae eich data personol yn cael ei gadw

Gellir cadw data personol yn ein swyddfeydd ni a swyddfeydd ein darparwyr gwasanaeth, cynrychiolwyr ac asiantau fel y disgrifir uchod (gweler uchod: 'Gyda phwy rydym yn rhannu eich data personol').

Am ba hyd y bydd eich data personol yn cael ei gadw

Ni fyddwn yn cadw eich data personol am fwy o amser nag sydd ei angen arnom at y diben y caiff ei ddefnyddio ar ei gyfer.

Mae gwahanol gyfnodau cadw yn berthnasol ar gyfer gwahanol fathau o ddata personol. Mae rhagor o fanylion am hyn ar gael yn ein Polisi Cadw Data.

Ar ôl diwedd y cyfnod cadw perthnasol, byddwn yn dileu eich data personol, neu yn ei wneud yn ddienw.

Eich hawliau

Mae gennych yr hawliau canlynol y gallwch eu harfer yn rhad ac am ddim:

Mynediad Yr hawl i gael copi o'ch data personol.
Cywiriad Yr hawl i ofyn i ni gywiro unrhyw gamgymeriadau yn eich data personol.
Dileu (a elwir hefyd yn hawl i gael eich anghofio) Yr hawl i'w gwneud yn ofynnol i ni ddileu eich data personol—mewn rhai sefyllfaoedd.
Cyfyngu ar brosesu Yr hawl i'w gwneud yn ofynnol i ni gyfyngu ar brosesu eich data personol mewn rhai amgylchiadau, e.e. os ydych yn dadlau cywirdeb y data.
Cludadwyedd data Yr hawl i dderbyn y data personol a ddarparwyd gennych i ni, mewn fformat strwythuredig, a ddefnyddir yn gyffredin ac sy'n ddarllenadwy gan beiriant a/neu drosglwyddo'r data hwnnw i drydydd parti—mewn rhai sefyllfaoedd.
I wrthwynebu

Yr hawl i wrthwynebu:

- ar unrhyw adeg i'ch data personol gael ei brosesu ar gyfer marchnata uniongyrchol (gan gynnwys proffilio);
- Mewn sefyllfaoedd penodol eraill i'n prosesu parhaus o'ch data personol, e.e. prosesu a wneir at ddibenion ein buddiannau cyfreithlon oni bai bod seiliau cyfreithlon cymhellol dros barhau neu fod angen prosesu er mwyn sefydlu, ymarfer neu amddiffyn hawliadau cyfreithiol.

Peidio â bod yn destun gwneud penderfyniadau unigol awtomataidd Yr hawl i beidio â bod yn destun penderfyniad sy'n seiliedig yn unig ar brosesu awtomataidd (gan gynnwys proffilio) sy'n cynhyrchu effeithiau cyfreithiol sy'n ymwneud â chi neu sy’n effeithio'n sylweddol arnoch chi
Yr hawl i dynnu caniatâd yn ôl Os ydych wedi rhoi caniatâd i ni ddefnyddio eich data personol, mae gennych hawl i dynnu'r caniatâd hwnnw yn ôl yn hawdd ar unrhyw adeg.
Gallwch dynnu caniatâd yn ôl drwy
Ni fydd tynnu caniatâd yn ôl yn effeithio ar gyfreithlondeb ein defnydd o'ch data personol yn dibynnu ar y caniatâd hwnnw cyn iddo gael ei dynnu'n ôl.

I gael rhagor o wybodaeth am bob un o'r hawliau hynny, gan gynnwys yr amgylchiadau perthnasol, cysylltwch â ni (gweler 'Sut i gysylltu â ni' isod) neu weler y Canllawiau gan Swyddfa Comisiynydd Gwybodaeth y DU (ICO) ar hawliau unigolion.

Os hoffech arfer unrhyw un o'r hawliau hyn:

Ysgrifennwch atom gan ddefnyddio’r cyfeiriad:

Cyfeiriad Post: Age Cymru, Tŷ’r Mariners, Llys Trident, Ffordd Ddwyrain Moors, Caerdydd CF24 5TD; neu

Cyfeiriad e-bost: enquiries@agecymru.org.uk

Cadw eich data personol yn ddiogel

Mae gennym fesurau diogelwch priodol er mwyn atal data personol rhag cael ei golli'n ddamweiniol, neu ei ddefnyddio neu ei gyrchu'n anghyfreithlon. Rydym yn cyfyngu mynediad at eich data personol i'r rhai sydd ag angen gwirioneddol i gael mynediad ato. Bydd y rhai sy'n prosesu eich data personol yn gwneud hynny mewn modd awdurdodedig yn unig ac yn ddarostyngedig i ddyletswydd cyfrinachedd.

Mae hefyd gennym weithdrefnau i ddelio ag unrhyw amheuaeth o dorri diogelwch data. Byddwn yn eich hysbysu chi ac unrhyw reolydd perthnasol am achos o amheuaeth o dorri diogelwch data lle mae'n ofynnol yn gyfreithiol i ni wneud hynny.

Sut i gwyno

Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon am ein defnydd o'ch data personol (gweler isod 'Sut i gysylltu â ni').
 
Rydym yn gobeithio y gallwn ddatrys unrhyw broblemau sydd gennych.
 
Mae gennych hefyd yr hawl i gyflwyno cwyn i'r Comisiynydd Gwybodaeth yn y Deyrnas Unedig:
Gellir cysylltu â Chomisiynydd Gwybodaeth y DU gan ddefnyddio'r manylion yma: https://ico.org.uk/make-a-complaint neu dros y ffôn: 0303 123 1113.
 

Newidiadau i'r polisi preifatrwydd hwn

Cyhoeddwyd yr hysbysiad preifatrwydd hwn a gafodd ei ddiweddaru diwethaf ym mis Mai 2023.

Efallai y byddwn yn newid yr hysbysiad preifatrwydd o bryd i'w gilydd. Efallai y bydd hyn yn ofynnol os, er enghraifft, bydd y gyfraith yn newid, neu os ydym yn newid ein harferion busnes mewn ffordd sy'n effeithio ar sut rydym yn prosesu eich data personol.

Cysylltiadau i wefannau eraill

Gall ein gwefan gynnwys dolenni i wefannau eraill sy'n cael eu rhedeg gan sefydliadau eraill. Mae'r polisi hwn yn berthnasol i'n gwefan ni yn unig, felly rydym yn eich annog i ddarllen y datganiadau preifatrwydd ar y gwefannau eraill rydych chi'n ymweld â nhw. Ni allwn fod yn gyfrifol am bolisïau ac arferion preifatrwydd gwefannau eraill, hyd yn oed os ydych yn cyrchu'r rhai sy'n defnyddio dolenni o'n gwefan.

Yn ogystal, os ydych chi'n cysylltu â'n gwefan o wefan trydydd parti, ni allwn fod yn gyfrifol am bolisïau ac arferion preifatrwydd perchnogion a gweithredwyr y safle trydydd parti hwnnw ac rydyn ni’n argymell eich bod yn gwirio polisi preifatrwydd y wefan trydydd parti honno.

Bydd unrhyw newidiadau y gallwn eu gwneud i'r polisi hwn yn y dyfodol yn cael eu cyhoeddi ar y wefan hon felly gwiriwch y dudalen hon yn achlysurol i sicrhau eich bod yn hapus gydag unrhyw newidiadau. Os byddwn yn gwneud unrhyw newidiadau sylweddol, byddwn yn gwneud hyn yn glir ar y wefan hon.

Sut i gysylltu â ni

Gallwch hefyd gysylltu â ni neu ein Swyddog Diogelu Data drwy'r post neu e-bost os oes gennych unrhyw gwestiynau am y polisi preifatrwydd hwn neu'r wybodaeth sydd gennym amdanoch chi, i arfer hawl o dan gyfraith diogelu data neu i wneud cwyn.

Cyfeiriad Post: Age Cymru, Tŷ’r Mariners, Llys Trident, Ffordd Ddwyrain Moors, Caerdydd CF24 5TD

Cyfeiriad e-bost: enquiries@agecymru.org.uk

Ein Swyddog Diogelu Data: amanda.oshea@agecymru.org.uk

 

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top