Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n polisi. Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a darganfod sut y gallwch chi newid gosodiad cwcis eich porwr
Skip to content
Cyfrannwch

Deffro'r Tymhorau Aur

Rhaglen Celf Goedwig ar gyfer pobl hŷn yw Gwanwyn Aur. Rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth â Tanio er mwyn cychwyn prosiect peilot ym Mhen-y-Bont ar Ogwr.

Mae Age Cymru, mewn partneriaeth gyda’r sefydliad celf gymunedol Tanio, wedi trefnu cyfres o sesiynau llesiant ar gyfer pobl dros 50 oed, gan ddefnyddio sgiliau creadigol mewn amgylchedd naturiol.

Bydd y sesiynau yn defnyddio ymarferwyr celf arbenigol er mwyn annog pobl hŷn i ddatblygu eu sgiliau creadigol eu hun, gan ddwyn ysbrydoliaeth o fyd natur.

Mae’r cwrs, sydd yn cychwyn ar ddydd Gwener 11 Awst tan ddiwedd mis Hydref, yn digwydd ym Mharc Llesiant Maesteg. Cynhelir y sesiynau bob dydd Gwener rhwng 10am a 12pm, ac mae croeso i bawb fynychu cymaint o sesiynau ag yr hoffent drwy gydol y tymor.

Ariennir y sesiynau gan Gronfa Cymunedau Cryf Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae’r sesiynau am ddim a darperir lluniaeth am ddim hefyd. Mae cefnogaeth ar gael ar gyfer unrhyw un sydd ag anghenion trafnidiaeth neu fynediad, ond mae’r trefnwyr wedi ceisio sicrhau bod y sesiynau yn hawdd i’w cyrraedd.

I gael gwybodaeth ychwanegol am y prosiect, yn enwedig am faterion yn ymwneud â thrafnidiaeth a mynediad, ffoniwch 016 5672 9246 neu e-bostiwch helo@taniocymru.com.

Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol

Gwanwyn on Facebook

Gwanwyn on Twitter

 

Last updated: Awst 16 2023

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top