Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n polisi. Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a darganfod sut y gallwch chi newid gosodiad cwcis eich porwr
Skip to content
Cyfrannwch

Adroddiadau ac adnoddau gofalwyr

Isod gwelir rhai o'r canllawiau, adroddiadau ac adnoddau y gallech ddod o hyd i ddefnydd.

Canllaw Siop Un Stop i Ofalwyr Hŷn yng Nghymru

Canllaw ar gyfer nodi, cyfeirio a chefnogi gofalwyr hŷn yng Nghymru. Nod y ganllaw hwn yw eich helpu i ateb rhai o'r cwestiynau mawr am gael help fel gofalwyr - yr hyn y mae gennych hawliddo, â phwy y dylech siarad, a pha gymorth arall sydd ar gael.

Canllaw Siop Un Stop i Ofalwyr Hŷn yng Nghymru

Eich hawliau fel gofalwr

O'r hawl i gael gwybodaeth, cyngor a chymorth, i gael ystyried eich barn, mae gan ofalwyr di-dâl hawliau penodol wedi'u hymgorffori yng nghyfraith Cymru. Rydym wedi cynhyrchu'r daflen hon i'ch helpu i ddeall eich hawliau fel gofalwr di-dâl.

Eich hawliau fel gofalwr

Gwneud Perthynas Gyfrif

Canllaw sy'n canolbwyntio ar y materion ymarferol ac emosiynol y mae pobl yn aml yn dod ar eu traws wrth benderfynu cefnogi rhywun i symud i gartref gofal.

Gwneud i berthynas gyfri

Gofalu am rywun â dementia

Mae'r canllaw hwn, a gyhoeddir gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, yn adnodd cynhwysfawr sy'n dwyn ynghyd wybodaeth ymarferol a chanllawiau emosiynol y mae angen i ofalwyr gefnogi eu lles eu hunain.

Gofalu am rywun â dementia

Adroddiad ar Arolwg Gofalwyr Hŷn 2022 Age Cymru


Yn dilyn ein hadroddiad "Am y Foment" yn 2020, mae'r adroddiad hwn yn crynhoi canfyddiadau arolwg tebyg o ofalwyr di-dâl hŷn yn ystod 2022. Mae'n datgelu, ymhlith pethau eraill, gwahaniaethau mewn gwybodaeth am wasanaethau sydd ar gael i ofalwyr ledled y wlad.

Adroddiad ar Arolwg Gofalwyr

Am y Tro – crynodeb o ganfyddiadau gofalwyr hŷn

Yn ystod Diwrnod Hawliau Gofalwyr 2020 lansion ni ein harolwg Gofalwyr Cudd a oedd yn gofyn am farn a mewnbwn gofalwyr di-dâl hŷn ledled Cymru nad oeddent yn derbyn cefnogaeth ffurfiol. Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi canfyddiadau'r arolwg hwnnw.

Am y Tro - crynodeb o ganfyddiadau gofalwyr hŷn 

Adnoddau Meddygon Teulu

Datblygwyd yr adnoddau hyn ar gyfer Wythnos Gofalwyr 2021, ac mae'r adnoddau hyn i feddygon teulu a'r rhai sy'n gweithio o fewn lleoliadau gofal iechyd sylfaenol yn anelu at adnabod gofalwyr hŷn ar adegau cyswllt allweddol. Er i'r adnoddau yma gael eu datblygu yn benodol ar gyfer wythnos gofalwyr, mae modd eu defnyddio ar unrhyw adeg i helpu gofalwyr, yn enwedig gofalwyr hŷn, i adnabod eu hunain i ofal sylfaenol.

Adnoddau meddyg teulu

 

Last updated: Ebr 24 2024

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top