Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n polisi. Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a darganfod sut y gallwch chi newid gosodiad cwcis eich porwr
Skip to content
Cyfrannwch

Pam ydyn ni’n aros o hyd? Oedi mewn gofal cymdeithasol yng Nghymru

Web Hero Banner-07444197-da95-46bb-a685-f1a0cf2e6b16.png

Dyma ail adroddiad blynyddol Age Cymru ar oedi o ran mynediad at ofal cymdeithasol yng Nghymru i bobl 55 oed ac hŷn. Y llynedd, roedd ein prosiect eiriolaeth dementia, prosiect eiriolaeth HOPE (Helpu eraill i gymryd rhan ac ymgysylltu) a Chyngor Age Cymru oll yn adrodd am oedi pryderus wrth i ofal cymdeithasol asesu anghenion pobl hŷn, yn ogystal ag oedi wrth ddarparu pecynnau gofal unwaith y bydd asesiad wedi'i gwblhau.

Flwyddyn yn ddiweddarach roeddem eisiau gwybod a oes gwelliannau i fynediad pobl hŷn at ofal cymdeithasol wedi i awdurdodau weithredu’r newidiadau y gwnaethant sôn amdanynt y llynedd.

Gwnaeth ein gwaith ymchwil ddarganfod bod darlun cymysg ledled Cymru wrth i adrannau gofal cymdeithasol geisio mynd i’r afael ag ôl-gronniadau o bobl hŷn sy’n aros am help wrth adrannau a gwasanaethau gofal cymdeithasol. Blwyddyn yn hwyrach roedden ni eisiau gwybod os oedd y newidiadau y bum yn eu trafod gydag awdurdodau lleol wedi gwella mynediad pobl hŷn at ofal cymdeithasol. Mae ein gwaith ymchwil yn dangos rhan bwysig o raddfa’r oedi.

Gwelsom fod darlun yn dod i'r amlwg o boblogaeth sydd yn llai iach yng Nghymru ar ôl prif gyfnod y pandemig, fel y gwelir yn y cynnydd mawr yn nifer y bobl hŷn sy'n troi at ofal cymdeithasol am gymorth gydag anghenion brys.

Mae'r ymdrechion ar gyfer adfer gofal cymdeithasol wedi parhau eleni, ond mae eu heffaith wedi lleihau o ganlyniad i boblogaeth sydd yn llai iach, sydd bellach ag anghenion ychwanegol am ofal a chymorth.

Dywedodd un person wrthym am yr heriau enfawr y gwnaethant wynebu wrth geisio cael gofal cymdeithasol:

"Rydw i wedi bod yn darparu llawer o ofal di-dâl i fy mam, er bod gen i fy nghyflyrau iechyd fy hun sydd wedi gwneud ymdopi'n anodd iawn. Rwyf wedi bod yn ei chael hi'n anodd cadw trefn ar wybodaeth yn ogystal â helpu fy mam gyda nifer o apwyntiadau iechyd. Pan gysylltais â'r gwasanaethau cymdeithasol o'r diwedd er mwyn cael cymorth ym mis Ebrill 2023, dysgais y bydd deuddeg mis o oedi cyn i mam gael asesiad gofal. Ers cysylltu â'r gwasanaethau cymdeithasol, dydw i ddim wedi clywed wrthyn nhw o gwbl, er i mi esbonio pam mae angen yr help ar mam ar frys."

Gwelsom fod dal angen gwella safonau cyfathrebu â’r bobl hŷn sydd wrthi’n aros a safon y wybodaeth y maent yn ei derbyn.

Nid yw systemau casglu data yn dal i fedru monitro ac adrodd yn effeithiol am lefelau oedi o ran mynediad at asesiadau a gofal.

Oherwydd y newid yn iechyd y boblogaeth, mae'n bwysicach nag erioed ffocysu adnoddau ar feysydd ymyrraeth ac atal cynharach er mwyn gwella iechyd a lles.

Rydym yn argymell:

  • Dylai Llywodraeth Cymru weithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod mecanweithiau adrodd yn casglu gwybodaeth yn gyson ledled Cymru
  • Dylai awdurdodau lleol asesu a yw eu prosesau presennol ar gyfer darparu cyngor a gwybodaeth gychwynnol a mynediad parhaus at gyngor a gwybodaeth yn diwallu anghenion pobl hŷn, yn enwedig y rhai sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol
  • Dylai awdurdodau lleol roi ffocws ychwanegol ar yr unigolion hynny sydd ar hyn o bryd yn aros yn fwy na 30 diwrnod ar gyfer asesiad anghenion gofal neu sy’n aros i becyn gofal gael ei roi ar waith
  • Mae angen i Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol, awdurdodau lleol a gwasanaethau'r trydydd sector weithio gyda'i gilydd i wella'r cymorth ymyrryd ac atal cynharach sydd ar gael i bobl hŷn
  • Dylai Llywodraeth Cymru, byrddau partneriaeth rhanbarthol, byrddau iechyd ac awdurdodau lleol sicrhau bod cyllid y trydydd sector yn cael ei ddarparu mewn modd cynaliadwy
  • Mae angen pwyslais ar ddysgu rhwng awdurdodau lleol a rhannu arferion da. Bydd hyn yn lleihau faint o waith y mae angen i awdurdodau lleol ei wneud, ac yn eu helpu i osgoi peryglon y mae awdurdodau lleol eraill wedi'u hwynebu
  • Dylai Llywodraeth Cymru, byrddau partneriaeth rhanbarthol ac awdurdodau lleol hyrwyddo pwysigrwydd cadw at y Siarter ar gyfer Gofalwyr Di-dâl. Mae hwn yn argymhelliad ychwanegol eleni oherwydd y cynnydd yn nifer y gofal di-dâl sy'n cael ei ddarparu. Er bod rhai Awdurdodau Lleol yn gweithio'n galed i gynnwys gofalwyr di-dâl mewn newidiadau gwasanaeth i ddiwallu eu hanghenion, nid yw’r newid yn digwydd yn ddigon cyflym.

 

Last updated: Gor 31 2023

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top