Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n polisi. Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a darganfod sut y gallwch chi newid gosodiad cwcis eich porwr
Skip to content
Cyfrannwch

Diogelu rhag cam-drin

Diogelu rhag cam-drin

Mae gan bob un ohonom yr hawl i fyw yn rhydd o gam-drin o unrhyw fath. Ni ddylai ein hoedran na'n hamgylchiadau gael unrhyw ddylanwad nac effaith ar yr hawl sylfaenol hon. Mae camdriniaeth yn gallu digwydd mewn cartref unigolyn neu tra eu bod yn derbyn gwasanaeth - er enghraifft mewn ysbyty neu gartref gofal.  Gall ffrind, aelod o’r teulu neu ddieithryn fod yn euog o gam-drin unigolyn. Gall weithiwr proffesiynol fod yn euog o gam-drin wrth weithio gyda pherson hŷn.
Rydyn ni wedi llunio taflen ffeithiau fanwl sydd wedi'i chynllunio i'ch helpu os:

- Rydych yn berson hŷn sy'n cael ei gam-drin neu ei esgeuluso, neu a allai fod mewn perygl o hyn.

- Rydych chi'n pryderu ar ran person hŷn eu bod yn cael eu cam-drin. Yn yr achos hyn – os ydych chi'n adnabod yr unigolyn fel rhan o’ch rôl fel gweithiwr proffesiynol, gofalwr, perthynas neu ffrind – efallai y bydd gennych ran bwysig i'w chwarae wrth eu diogelu rhag derbyn triniaeth wael.

Mae unrhyw fath o gamdriniaeth yn annerbyniol, ta waeth pa gyfiawnhad neu reswm y gellir ei gynnig. Nod y wybodaeth yn ein taflenni ffeithiau yw:

- Codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o gam-drin.

- Rhoi manylion am ddulliau diogelu – gan gynnwys deddfwriaeth berthnasol, canllawiau statudol a pholisïau - ynghyd â chamau ymarferol i atal camdriniaeth.

- Amlinellu cymorth a chefnogaeth a allai fod ar gael.

- Gwybodaeth am ffyrdd y gall pobl leihau'r risg o gamdriniaeth.

Taflen Ffeithiau 78w: Diogelu pobl hŷn Cymru rhag camdriniaeth ac esgeulustod

Am fwy o wybodaeth ffoniwch Gyngor Age Cymru ar 0300 303 44 98

 

Last updated: Ion 12 2023

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top