Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n polisi. Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a darganfod sut y gallwch chi newid gosodiad cwcis eich porwr
Skip to content
Cyfrannwch

Consesiynau trwydded deledu

Os ydych chi'n mwynhau gwylio'r teledu, mae angen i chi sicrhau bod gennych drwydded deledu ddilys.

Bydd angen trwydded deledu ddilys arnoch i wylio neu recordio rhaglenni teledu byw ar unrhyw sianel (gan gynnwys y BBC), neu i wylio unrhyw raglenni’r BBC gan ddefnyddio BBC iPlayer - boed hynny'n fyw ar iPlayer, neu wrth edrych ar gynnwys wedi'i lawrlwytho ar ddyfais wylio (megis teledu, cyfrifiadur, tabled neu ffôn symudol).


Alla i hawlio gostyngiad ar fy nhrwydded deledu?

  • Mae amryw o ostyngiadau trwydded deledu:
  • Os ydych chi'n 75 oed ac yn derbyn Credyd Pensiwn, gallwch hawlio trwydded deledu am ddim. Bydd y drwydded deledu am ddim yn eich cwmpasu chi ac unrhyw un arall rydych chi'n byw gyda nhw, waeth pa oedran ydyn nhw.
  • Os ydych yn ddall neu â nam difrifol ar eich golwg, gallwch hawlio gostyngiad o 50% ar eich trwydded. Os ydych chi'n byw gyda rhywun arall, bydd angen i'r drwydded fod yn enw'r sawl sy'n ddall neu sydd â nam ar eu golwg i dderbyn y gostyngiad.
  • Os ydych chi'n byw mewn cartref gofal neu dai gwarchod, gallwch gael trwydded Llety ar gyfer Gofal Preswyl (ARC) sy'n costio £7.50. Dim ond os ydych chi'n gwylio'r teledu yn eich llety ar wahân eich hun, nid os ydych chi ond yn gwylio teledu mewn ardaloedd cyffredin fel lolfa ar gyfer trigolion.

Nodyn: Ers 1 Awst 2020, daeth trwyddedau teledu am ddim i bawb sy'n 75 oed a hŷn i ben (nawr rhaid i chi fod yn hawlio Credyd Pensiwn, fel yr amlinellir uchod. Os nad ydych yn ei hawlio ar hyn o bryd, gallech wirio a allech fod yn gymwys ar ein tudalen Credyd Pensiwn). Os oes gennych drwydded deledu am ddim sy'n bodoli'n barod, peidiwch â phoeni. Byddwch yn derbyn llythyr am beth i'w wneud nesaf a tan hynny does dim rhaid i chi wneud unrhyw beth.


Sut mae hawlio gostyngiad fy nhrwydded deledu?

Os ydych yn 75 oed neu'n hŷn ac yn derbyn Credyd Pensiwn, mae angen i chi wneud cais am drwydded deledu am ddim gan nad yw wedi'i rhoi allan yn awtomatig. Am ffurflen gais gallwch ffonio Trwyddedu Teledu ar 0300 790 6151.

Os ydych yn ddall neu â nam ar eich golwg, cysylltwch â Thrwyddedu Teledu. Ar ôl i chi gofrestru, bydd holl adnewyddiadau eich trwydded deledu ar y gyfradd rhatach.

Bydd angen i chi ddarparu:

  • llungopi o'r dystysgrif gan offthalmolegydd eich awdurdod lleol yn cadarnhau eich bod yn ddall neu â nam ar eich golwg
  • eich ffurflen gais am drwydded deledu a ffi.

Os ydych yn byw mewn cartref gofal neu dai gwarchod, cysylltwch â'r warden, staff neu awdurdod rheoli lle rydych yn byw a fydd yn gwneud cais am drwydded ARC i chi. I fod yn gymwys, rhaid i chi:

  • fod wedi ymddeol ac yn 60 oed neu'n hŷn neu'n
  • anabl.

Beth os ydw i wedi talu am drwydded deledu lawn yn barod?

Os ydych eisoes wedi talu'r ffi lawn am drwydded deledu a'ch bod yn credu y gallech fod yn gymwys am un o'r gostyngiadau a restrir uchod, yna cysylltwch â Thrwyddedu Teledu a all eich helpu i wneud cais am ad-daliad.

Os ydych yn byw mewn cartref gofal neu dai gwarchod, gofynnwch i'r warden, staff neu awdurdod rheoli lle rydych yn byw i'ch helpu i wneud cais am ad-daliad.


Beth ddylwn i ei wneud nesaf?

Am fwy o wybodaeth ffoniwch Gyngor Age Cymru ar 0300 303 44 98

 

Last updated: Ion 12 2023

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top