Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n polisi. Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a darganfod sut y gallwch chi newid gosodiad cwcis eich porwr
Skip to content
Cyfrannwch

Ailbriodi yn hwyrach mewn bywyd

Ailbriodi yn hwyrach mewn bywyd

Os byddwch yn priodi, yn cofrestru partneriaeth sifil neu'n byw gyda rhywun fel cwpl, gall hynny effeithio ar unrhyw fudd-daliadau sy'n seiliedig ar brawf modd yr ydych yn eu derbyn, megis Credyd Pensiwn, Budd-dal Tai neu help o'r Cynllun Gostyngiad Treth Cyngor.

Hysbyswch y swyddfa sy'n talu eich budd-daliadau cyn gynted â phosibl. Mae incwm eich partner hefyd wedi'i gynnwys fel rhan o'r asesiad cyffredinol. Os yw eich budd-daliadau yn cael eu heffeithio, gall y swm y byddwch yn ei dderbyn gynyddu neu leihau. Efallai na fydd gennych hawl mwyach i dderbyn y taliad, neu efallai y bydd gennych hawl i fudd-daliadau newydd.

Bydd unrhyw newidiadau yn ddibynnol ar eich amgylchiadau unigol. Siaradwch â'r swyddfa sy'n talu'ch budd-daliadau i gael rhagor o wybodaeth. Gallwch hefyd ddarganfod mwy wrth ddefnyddio ein cyfrifiannell budd-daliadau personol.

Os ydych yn aelod o gynllun pensiwn cwmni a rydych yn penderfynu ailbriodi neu ffurfio partneriaeth sifil newydd, efallai y byddwch am newid y buddiolwr enwebedig ar gyfer eich pensiwn. Dyma'r person sy'n derbyn unrhyw fudd-daliadau o'r cynllun os byddwch chi'n marw.

Os ydych chi'n derbyn unrhyw fudd-daliadau cynnal a chadw (i chi'ch hun yn hytrach nag ar gyfer unrhyw blant) wrth eich cynbartner, gall hyn stopio pan fyddwch chi'n ailbriodi neu os ydych chi'n cyd-fyw. Ni fydd taliadau cymorth plant yn cael eu heffeithio.

Mae ailbriodi neu bartneriaeth sifil newydd yn annilysu unrhyw ewyllys presennol sydd gennych, ond nid yw ysgariad neu ddiddymiad partneriaeth sifil. Gallwch ychwanegu cymal at eich ewyllys er mwyn ei atal rhag cael ei ganslo wrth ailbriodi, ond dylech wneud ewyllys newydd er mwyn adlewyrchu eich amgylchiadau newydd.

Gwybodaeth gan y Llywodraeth

Gwybodaeth gan y Llywodraeth

Am fwy o wybodaeth ffoniwch Gyngor Age Cymru ar 0300 303 44 98

 

Last updated: Ion 12 2023

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top