Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n polisi. Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a darganfod sut y gallwch chi newid gosodiad cwcis eich porwr
Skip to content
Cyfrannwch

Hawliau dynol

Mae hawliau dynol yn hawliau sylfaenol sy'n perthyn i bob un ohonom yn syml am ein bod yn ddynol. Maent yn ymgorffori gwerthoedd allweddol yn ein cymdeithas megis tegwch, urddas, cydraddoldeb a pharch.

Maent yn ffordd bwysig o amddiffyn pob un ohonom, yn enwedig y rhai a allai wynebu camdriniaeth, esgeulustod ac unigedd. Yn bwysicaf oll, mae'r hawliau hyn yn rhoi grym inni ac yn ein galluogi i godi llais ac i herio triniaeth wael gan awdurdod cyhoeddus.


Pa hawliau sydd fwyaf perthnasol i mi?

Mae pob hawl dynol o bosib yn berthnasol i chi; fodd bynnag, mae'n debygol y byddwch yn teimlo fod rhai yn fwy arwyddocaol i chi nag eraill.


Erthygl 2: Yr hawl i fyw

Beth mae hyn yn ei olygu?

Rhaid i awdurdodau cyhoeddus:

  • gymryd camau priodol i ddiogelu bywyd person e.e. sicrhau deddfau digonol i'ch amddiffyn rhag eraill a allai fod eisiau niweidio eich bywyd
  • peidio â chymryd bywyd person i ffwrdd, ac eithrio mewn ambell amgylchiad penodol a chyfyng iawn.

Nid yw'n golygu bod yr hawl i gael triniaeth feddygol yn bodoli ym mhob amgylchiadau.

Os bydd rhywun yn marw o ganlyniad i ddefnydd o rym gan y wladwriaeth, neu fethiant y wladwriaeth i ddiogelu bywyd, dylai fod ymchwiliad swyddogol effeithiol i'r hyn ddigwyddodd.

Sut gallai hyn fod yn berthnasol i mi neu bobl hŷn eraill?

  • Ni ddylai triniaeth feddygol gael ei wrthod i achub fy mywyd oherwydd fy oedran
  • Mae angen rhoi digon i mi fwyta ac yfed tra mod i yng ngofal sefydliad
  • Ni ddylwn gael gorchymyn 'na cheisir dadebru' ar fy ffeil heb fy hawl i, os na allaf fynegi fy marn fy hun, dylid gofyn am ganiatâd fy nheulu
  • Ni ddylwn gael fy rhyddhau o'r ysbyty os nad ydw i'n gallu gofalu am fy hun, os nad oes gofal i fy nghefnogi ac os byddai fy mywyd mewn perygl o ganlyniad
  • Yn yr amgylchiadau bod fy marwolaeth yn amheus neu heb esboniad, rhaid cynnal cwest effeithiol

Yr hawl hon ar waith

Roedd teuluoedd y rhai fu farw yn ysbyty Mid Staffordshire yn gallu defnyddio dadleuon hawliau dynol i sicrhau iawndal am driniaeth erchyll a ddioddefodd eu perthnasau, fel peidio cael cymorth i fwyta neu yfed neu gael eu gadael yn eu gwastraff eu hun am oriau.

Mewn nifer o achosion roedden nhw'n gallu dadlau bod triniaeth ac esgeulustod gwael wedi achosi marwolaeth eu hanwyliaid a bod hyn yn torri eu hawl i fywyd. Roedden nhw hefyd yn gallu defnyddio'r ddyletswydd ymchwiliol sydd wedi ei chynnwys o fewn yr hawl i fywyd, i sicrhau ymchwiliad cyhoeddus i farwolaethau eu perthnasau.

Roedd yr ymchwiliad hwn hefyd yn cynnig argymhellion ar gyfer atal y math yma o driniaeth yn y dyfodol.

Ffynhonnell: Blog hawliau dynol y DU


Erthygl 3: Gwahardd artaith, triniaeth annynol a diraddiol

Mae gen i'r hawl i beidio â chael fy nhrin yn annynol, i beidio cael fy ngham-drin, fy niraddio neu fy mychanu.

Beth mae hyn yn ei olygu?

  • Mae'n rhaid iddo fod yn driniaeth ddifrifol iawn i gyrraedd trothwy Erthygl 3, fodd bynnag a fydd triniaeth yn cyrraedd y trothwy hwn yn dibynnu ar ffeithiau'r achos unigol
  • Mae artaith yn niwed corfforol neu feddyliol difrifol a achosir gan y wladwriaeth
  • Mae triniaeth annynol yn golygu triniaeth sy'n achosi dioddefaint meddyliol neu gorfforol difrifol
  • Mae triniaeth ddiraddiol yn golygu triniaeth sy'n bychanu ac yn ddigywilydd
  • Mae gan awdurdodau cyhoeddus ddyletswydd gadarnhaol hefyd i geisio atal eraill rhag eich trin mewn ffordd annynol neu ddiraddiol
  • Nid oes rhaid i driniaeth annynol neu ddiraddiol gael ei achosi'n fwriadol.

Sut gallai hyn fod yn berthnasol i mi neu bobl hŷn eraill?

  • Ni ddylwn gael fy ngham-drin mewn unrhyw ffordd
  • Dylwn i fod yn ddiogel rhag cam-drin corfforol neu feddyliol e.e. pan yn yr ysbyty neu gartref gofal
  • Dylwn gael fy nghefnogi i fwyta neu yfed os nad ydw i'n gallu gwneud hyn fy hun
  • Ni ddylid defnyddio gormod o rym i'm dal i lawr
  • Ni ddylwn gael fy esgeuluso e.e. cael fy ngadael mewn dillad brwnt, sydd heb eu newid am gyfnodau hir
  • Ni ddylwn brofi cyflyrau gwael fel diffyg mynediad at ofal iechyd mewn lleoliadau sefydliadol fel carchardai neu gartrefi gofal
  • Gallai gwahaniaethu'n ddifrifol yn fy erbyn oherwydd hiliaeth olygu triniaeth ddiraddiol
  • Lle rwy'n codi pryder gwirioneddol am driniaeth annynol neu ddiraddiol, rhaid i awdurdod cyhoeddus ymchwilio.

 

Last updated: Ion 23 2023

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top