Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n polisi. Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a darganfod sut y gallwch chi newid gosodiad cwcis eich porwr
Skip to content
Cyfrannwch

Clwb Diwylliant

Mae Clwb Diwylliant Age Cymru yn rhoi cyfleoedd i bobl dros 50 oed yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg fagu hyder, gwneud ffrindiau newydd, a mwynhau ein safleoedd diwylliannol niferus, gyda chymorth gwirfoddolwr cyfeillgar.

Ydych chi eisiau mynd am dro o gwmpas Caerdydd a'r Fro, ond hoffech chi gefnogaeth gan wyneb cyfarwydd?

Mae gwirfoddolwyr ein Clwb Diwylliant yn barod i fod yn gyfaill i chi. 

  • Byddwn yn eich paru â gwirfoddolwr sydd wedi'i hyfforddi'n llawn
  • Byddwch yn derbyn galwad ffôn rhagarweiniol
  • Dewch i gwrdd â'ch gwirfoddolwr cyfeillgar yn fisol mewn safleoedd diwylliannol ar draws y ddinas

Byddwch yn cyfarfod unwaith y mis i grwydro o gwmpas parciau lleol, amgueddfeydd neu galerïau.
Os oes gennych chi, neu rywun rydych chi’n nabod, ddiddordeb bod yn rhan o’r Clwb, cysylltwch â Kelly Barr neu ffoniwch 029 2043 1576.

Oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn wirfoddolwr ar gyfer y Clwb Diwylliant?

  • Byddwch yn derbyn hyfforddiant llawn
  • Byddwn yn eich paru â chyfranogwr am gyfarfod misol
  • Telir treuliau teithio
  • Byddwch yn derbyn credydau Amser Tempo am eich amser

Ewch i’n tudalen Gwirfoddolwyr i ddod o hyd i fwy o wybodaeth ac i ymgeisio.

 

Last updated: Mai 23 2023

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top